Ymgorffori prosesau asesu mewn bywyd ysgol fel bod yr adborth yn sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn eu dysgu.
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Parkland yn ysgol cyfrwng Saesneg sydd wedi’i lleoli yn Sgeti, Abertawe. Mae 651 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 124 ohonynt yn rhan-amser. Mae 28% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol sydd gryn dipyn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae gan ryw 12% o boblogaeth y disgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaleddau cenedlaethol a lleol, fel ei gilydd. Nodwyd bod gan ryw 7% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd hefyd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r ysgol yn cynnal cyfleuster addysgu arbenigol i gynorthwyo disgyblion ym Mlynyddoedd 3 i 6 sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ar draws yr awdurdod lleol.
Mae uwch dîm arweinyddiaeth yr ysgol yn cynnwys y pennaeth, dau ddirprwy bennaeth, pedwar arweinydd sector ac un CydADY.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Ers rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith, un o amcanion allweddol yr ysgol fu sicrhau bod prosesau asesu yn rhan annatod o gynllunio’r cwricwlwm. Man cychwyn yr ysgol oedd cynllunio darpariaeth, i ddiwallu anghenion dysgwyr a darparu adborth sy’n galluogi disgyblion i wneud cynnydd effeithiol. Yn y gorffennol, mae cynnydd ac adborth wedi cael eu nodi’n bennaf yn unol â deilliannau a lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae prosesau newydd yn mabwysiadu ymagwedd gyfannol at asesu cynnydd, lle mae’r holl randdeiliaid yn gyfranogwyr gweithredol ac adborth yn cael ei bersonoli i bob disgybl.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Strategaeth yr ysgol yw ymgorffori amrywiaeth o brosesau i ddarparu adborth personoledig a diagnostig i ddisgyblion sy’n eu cynorthwyo i wneud cynnydd yn eu dysgu.
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i asesu ffurfiannol i lywio’r camau nesaf ar gyfer dysgwyr ar eu continwwm, ac mae cynnydd pob disgybl wedi’i seilio ar gydweithio, gyda disgyblion yn cymryd rôl weithredol. Marcio byw yw’r broses pan fydd ymarferwyr yn cydweithio â disgyblion i nodi cynnydd a chamdybiaethau yn eu dysgu. Mae marcio byw yn cyfuno adborth llafar ac ysgrifenedig. Mae’n digwydd ar unwaith i bob dysgwr ac yn galluogi disgyblion i gymryd camau cadarnhaol yn eu dysgu. Mae marcio byw yn golygu bod angen i ddisgyblion weithredu ac ymateb i adborth, sy’n cynorthwyo dysgwyr i gyflawni eu camau nesaf.
Mae Ysgol Gynradd Parkland yn rhoi pwys uchel ar fetawybyddiaeth a’i rôl yn yr ystafell ddosbarth, gan fod ei heffaith ar gynnydd a pherfformiad dysgwyr wedi cael ei hymchwilio a’i dogfennu’n dda. Metawybyddiaeth yw’r gallu i feddwl am eich meddyliau’ch hun, a’u rheoli. Mae staff yn defnyddio ‘munudau meta’, sef cyfnodau myfyrio cydweithredol cynlluniedig a dynamig rhwng ymarferwyr a disgyblion. Ymgorfforir ‘munudau meta’ o oedran ifanc ac mae hyn yn galluogi disgyblion i ddod yn fwy hyfedr wrth ddisgrifio’u dysgu. Wrth i ddisgyblion wneud cynnydd, maent yn datblygu repertoire ehangach o fedrau metawybyddol ac iaith ac yn dod yn gymwys yn asesu eu dysgu eu hunain a dysgu disgyblion eraill.
Mae’r holl staff addysgu a staff cymorth yn Ysgol Gynradd Parkland yn defnyddio cyfnodolion gwerthuso fel offeryn ar gyfer asesu ac olrhain cynnydd disgyblion bob dydd. Defnyddir y cyfnodolion hyn gan staff i fyfyrio ar gynnydd disgyblion a nodi heriau a/neu gamsyniadau, sy’n eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio dysgu yn y dyfodol yn unol â hynny. Mae’r arfer hon yn sicrhau ymagwedd ymatebol a thargedig at gynllunio, meithrin twf parhaus ac ymestyn y profiad dysgu cyffredinol ar gyfer pob disgybl.
Yn ystod y daith i weithredu’r Cwricwlwm i Gymru a datblygu ymagwedd gyfannol at asesu cynnydd disgyblion, un o’r newidiadau allweddol ar gyfer Parkland oedd cyflwyno cyfarfodydd cynnydd staff a disgyblion, sy’n cofnodi cynnydd grwpiau a disgyblion unigol. Mae gweithdrefn y cyfarfodydd cynnydd yn cynnwys ymarferwyr a disgyblion yn cymryd rhan mewn deialog i amlygu cynnydd pob disgybl a’i gamau nesaf mewn dysgu. Cynhelir cyfarfodydd cynnydd bob tymor ac mae’r holl randdeiliaid yn cydweithio i gefnogi disgyblion ar eu taith. Mae ymarferwyr yn cydweithio trwy ddeialog broffesiynol a gweithdrefnau monitro trylwyr i arsylwi’r cynnydd sy’n cael ei wneud.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Trwy roi’r prosesau asesu hyn ar waith, mae ymarferwyr yn gwybod bod y ddarpariaeth wedi cael effaith gadarnhaol. Yn gyntaf, mae bron pob un o’r disgyblion yn meddu ar ymwybyddiaeth gref o ble maen nhw ar eu taith ddysgu, o’u camau nesaf er mwyn gwneud cynnydd, sut i gymryd camau a pha gamau i’w cymryd i wneud y cynnydd hwn. Mae disgyblion yn fwy hyfedr wrth ddisgrifio eu dysgu eu hunain a dysgu disgyblion eraill, ac yn datblygu repertoire ehangach o strategaethau i asesu a symud eu dysgu ymlaen, gan felly eu grymuso i wella’u dysgu eu hunain. Mae gan ymarferwyr amrywiaeth o brosesau asesu i asesu cynnydd disgyblion ac mae gwybodaeth gynhwysfawr ar gael am bob disgybl. Cofnodir cynnydd pob disgybl mewn naratif ac mae’n datblygu wrth iddynt wneud cynnydd ar eu taith ddysgu.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol wedi rhannu ei hymagwedd arloesol at asesu gydag ysgolion o fewn yr ardal leol a’r tu hwnt, ac wedi llunio rhestr chwarae sydd wedi cael ei rhannu ar lefel genedlaethol.