Ymgorffori llais y disgybl yn ethos yr ysgol - Estyn

Ymgorffori llais y disgybl yn ethos yr ysgol

Arfer effeithiol

Ynysowen Community Primary School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen wedi’i lleoli yn Aberfan, yn awdurdod lleol Merthyr Tudful.

Mae 275 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 46 o ddisgyblion sy’n mynychu’r dosbarth meithrin ar sail amser llawn, a 15 o ddisgyblion sy’n mynychu dwy ganolfan adnoddau dysgu a ddarperir gan yr awdurdod lleol.  Mae’r canolfannau adnoddau dysgu yn darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion cymhleth a namau ar y clyw.

Dros y tair blynedd diwethaf, ar gyfartaledd, bu tua 30% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18%.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan tua 37% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion i’r ysgol â medrau iaith, rhifedd a chymdeithasol sy’n sylweddol is na’r disgwyl ar gyfer eu hoed.  Nid oes unrhyw ddisgybl yn siarad Cymraeg gartref.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae ethos cryf a chynaledig yr ysgol, sef ‘TEAM’ (Together Everyone Achieves More), yn rhoi cydweithio a chyfathrebu â disgyblion wrth wraidd ei holl brosesau.  Mae’r egwyddorion hyn, sydd wedi’u hymgorffori’n dda, yn sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn cael cyfleoedd eang i gyfrannu at eu dysgu eu hunain, ac yn cael eu cynnwys yn weithredol ym mhob agwedd ar gynllunio i wella’r ysgol.

Yr hyn sydd wrth wraidd nodau’r ysgol yw’r gred y dylai disgyblion gael cyfleoedd i wneud penderfyniadau a fydd yn effeithio arnyn nhw a’u cyfoedion, eu caniatáu i ysgwyddo cyfrifoldeb a dysgu gwerthoedd allweddol a fydd yn eu harwain yn y modd y maent yn byw eu bywydau.  Mae’r cydberthnasoedd cadarnhaol yng nghymuned yr ysgol yn creu ethos o gydgyfrannu sy’n grymuso disgyblion i gymryd mwy o berchenogaeth dros y profiadau a roddir iddynt.  Mae’r cydberthnasoedd hyn yn hyrwyddo gwerth dysgu ac awydd i ddisgyblion ddod yn ddysgwyr gydol oes.

Mae’r arferion hyn, sydd wedi’u hymgorffori’n dda, wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygu lles cymdeithasol ac emosiynol disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Er mwyn sicrhau cymuned gynhwysol y mae pob disgybl yn cymryd rhan ynddi, mae pob disgybl yng nghyfnod allweddol 2, yn ogystal â’r rhan fwyaf o ddisgyblion ym Mlwyddyn 2, yn chwarae rôl weithredol mewn cynorthwyo a gwella cymuned yr ysgol fel aelodau o grwpiau cyfrifoldeb amrywiol i ddisgyblion.

Mae’r bartneriaeth bwrpasol rhwng staff a disgyblion sy’n bodoli ym mhob un o’r grwpiau cyfrifoldeb yn sicrhau y caiff barnau’r holl ddisgyblion eu hystyried, yn hytrach na’r rhai sy’n fwy hyderus a chroyw yn unig.  Mae’r holl grwpiau cyfrifoldeb yn rhoi cyfleoedd eang i ddisgyblion ddatblygu eu medrau personol, trefnu, arweinyddiaeth a chyfathrebu ymhellach trwy gyd-destunau cyfoethog ac ystyrlon, sy’n eu galluogi i feithrin medrau gydol oes.

Mae grwpiau cyfrifoldeb disgyblion yn un agwedd yn unig ar lais y disgybl yn Ynysowen.  Mae Ynysowen yn sicrhau y caiff disgyblion bob cyfle i ddweud eu dweud.  Er enghraifft, cyn dechrau ar bwnc newydd, mae ymgynghori helaeth rhwng athrawon a disgyblion yn ymwneud â’r thema y mae disgyblion yn ei rhagweld, y mathau o weithgareddau yr hoffent ymgymryd â nhw mewn perthynas â’u thema ddewisol, a sut maent yn rhagweld cyfoethogi amgylchedd yr ystafell ddosbarth i adlewyrchu’r thema.  O ganlyniad, mae athrawon yn cynllunio rhaglen gynhwysfawr a blaengar o ddysgu, ac yn creu ystafelloedd dosbarth cyfoethog ac ysgogol sy’n adlewyrchu cyfraniadau disgyblion.   

Yn ogystal, gofynnir i ddisgyblion ystyried agweddau penodol ar thema yr oeddent yn teimlo eu bod wedi gweithio’n dda, a pha feysydd yr oeddent yn teimlo bod angen eu gwella ar ddiwedd pwnc.  Ar draws yr ysgol gyfan, mae disgyblion yn cyfrannu’n ddychmygus at eu dysgu eu hunain trwy fyfyrio ar weithgareddau wythnosol a’u gwerthuso.  Gofynnir am awgrymiadau priodol ar gyfer rhagor o weithgareddau, sy’n llywio cynllunio yn y dyfodol.

Mae disgyblion yn y cyfnod sylfaen yn cyfrannu’n uniongyrchol at y profiadau dysgu sy’n cael eu darparu iddynt mewn ardaloedd darpariaeth estynedig.  Mae athrawon yn datblygu syniadau disgyblion yn effeithiol ac, o ganlyniad, yn darparu gweithgareddau ysgogol ac annibynnol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r arfer gref a chynaledig o sicrhau bod llais y disgybl yn treiddio i bob agwedd ar waith Ysgol Ynysowen wedi cael effaith sylweddol ar ymgysylltiad disgyblion â’u dysgu, ac ar eu lles cymdeithasol ac emosiynol.  Mae disgyblion yn barod i ddysgu mewn gwersi ac yn caffael medrau a syniadau newydd yn gyflym.  Mae canlyniadau arolwg agweddau disgyblion blynyddol yr ysgol a holiaduron disgyblion yn dangos bod gan ddisgyblion agweddau rhagorol at yr ysgol a dysgu.

Mae gan staff a disgyblion berthynas waith hynod gadarnhaol a chynhyrchiol, sydd wedi’i seilio ar ddealltwriaeth o gydbartneriaeth a pharch rhwng y naill a’r llall.  Mae gan bob aelod o gymuned yr ysgol lais.  O ganlyniad, mae cydberthnasoedd cryf yn parhau i ffynnu ac mae gan ddisgyblion fwy o ddiddordeb a brwdfrydedd tuag at eu dysgu.  Mae hyn yn cyfrannu’n dda at safonau a lles disgyblion.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae arfer yr ysgol wedi’i rhannu’n eang o fewn y clwstwr o ysgolion lleol a thrwy staff yn ymweld ag ysgolion a darparwyr allanol.