Ymglymiad rhieni yn ganolog i fywyd ysgol - Estyn

Ymglymiad rhieni yn ganolog i fywyd ysgol

Arfer effeithiol

St John Baptist C.I.W. High School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg 11 i 18 yn Rhondda Cynon Taf yw Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru. Mae’r ysgol wedi’i lleoli yn Aberdâr.

Mae 968 o ddisgyblion ar y gofrestr, o gymharu â 1,014 o ddisgyblion adeg yr arolygiad diwethaf ym mis Mawrth 2014.  Mae 157 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth, o gymharu â 234 adeg yr arolygiad diwethaf.  Mae tua 12% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae hyn islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 16.4% ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Mae gan ryw 1% o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, o gymharu â 2.2% ar gyfer Cymru gyfan.  Mae gan ryw 22% o ddisgyblion angen addysgol arbennig.  Mae hyn ychydig yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 22.9%.

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig.  Mae llai nag 1% o ddisgyblion yn rhugl yn y Gymraeg.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Er mwyn gwella deilliannau a lles disgyblion, nododd arweinwyr Ysgol Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru fod angen adolygu gwerthoedd yr ysgol, a chynyddu lefelau ymgysylltu â rhieni.

Fel ysgol yr Eglwys yng Nghymru, rhoddodd cymuned yr ysgol gyfan flaenoriaeth i’r angen i gynnal yr ethos Cristnogol.  Mae’r ethos hwn yn seiliedig ar weledigaeth ofalgar a chynhwysol a gwerthoedd ‘ffydd a chred, gofal a thosturi, parch a goddefgarwch, cyfrifoldeb ac ymddiriedaeth, a dyhead a llwyddiant.’

I wireddu gwerthoedd yr ysgol, cydnabu arweinwyr fod angen cynnwys rhieni’n ofalus ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.  Yn benodol, roedd staff yn awyddus i sicrhau bod rhieni’n cael eu hysbysu’n dda am gynnydd a lles eu plentyn, a’u bod yn dod yn aelodau gweithredol o gymuned yr ysgol.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

I sicrhau a chynnal lefelau uchel o ymgysylltu â rhieni, mae gwaith yn dechrau yn ystod y cyfnodau pontio ym Mlwyddyn 6.  Yn dilyn y ‘Diwrnodau Croeso’ ar gyfer disgyblion, gwahoddir rhieni i gyfarfod lle cânt eu cyflwyno i’r ysgol a’r dulliau a ddefnyddir i gyfathrebu â nhw.  Yn ystod y cyfarfod hwn, caiff rhieni becyn croeso ac maent yn ysgrifennu llythyr personol o gefnogaeth at eu plentyn sy’n cael ei rannu â disgyblion ar ddiwedd eu tymor cyntaf ym Mlwyddyn 7.  Mae hyn yn cefnogi’r ysgol yn llwyddiannus i ddatblygu ethos ‘teuluol’, meithrin perthnasoedd a lleihau unrhyw bryderon a allai fod gan rieni neu ddisgyblion.

Mae’r ysgol yn olrhain cynnydd, ymddygiad a phresenoldeb disgyblion yn drylwyr, gan alluogi arweinwyr i nodi ac ymateb yn brydlon ac yn effeithiol i unrhyw ddisgyblion sydd mewn perygl o danberfformio.  Mae timau bugeiliol yn monitro presenoldeb yn agos, ac yn ymweld yn rheolaidd â chartrefi’r disgyblion hynny y nodwyd eu bod mewn perygl o gael presenoldeb gwael.  Yn ychwanegol, mae rheolwyr dysgu yn monitro presenoldeb, lles a chynnydd disgyblion yn drylwyr.  Mae’r cyswllt rheolaidd ac effeithiol a gaiff staff gyda rhieni wedi datblygu perthnasoedd gwaith cryf, ac wedi cynyddu ymgysylltiad gan lawer o rieni yn sylweddol.  Pan fydd presenoldeb disgyblion yn peri pryder, caiff ‘cyfarfodydd cymorth’ sy’n cynnwys rhieni, disgyblion, llywodraethwr, y pennaeth ac aelodau o’r tîm bugeiliol, eu defnyddio’n llwyddiannus i ymgysylltu â rhieni a nodi unrhyw gymorth sydd ei angen.  Mae hyn, ynghyd â ffocws diwrthdro ar ystod eang o ymyriadau a mentrau fel rhan o’r rhaglen ‘Materion Presenoldeb’, wedi arwain at welliant cryf mewn cyfraddau presenoldeb.

Mae’r ysgol yn ceisio adborth gan rieni trwy holiaduron a nosweithiau rhieni, ac yn defnyddio’r adborth hwn yn dda i lywio hunanwerthuso a chefnogi cynllunio’r cwricwlwm.  Mae’r ysgol yn cynnwys rhieni ym mhob agwedd ar y broses pan fydd disgyblion yn dewis eu hopsiynau TGAU ym Mlwyddyn 9.  Mae hyn yn cynnwys nosweithiau gwybodaeth am opsiynau, sy’n cynghori rhieni ar sut i gynorthwyo eu plant â’u dewisiadau pwnc, ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am bob pwnc.  Yn dilyn hyn, mae rhieni, ynghyd â’u plentyn, yn mynychu cyfarfodydd unigol gyda staff allweddol lle cynhelir trafodaethau manwl a darperir cyngor defnyddiol.  Mae hyn yn cynorthwyo disgyblion a rhieni yn effeithiol i wneud dewisiadau gwybodus am eu hastudiaethau yn y dyfodol, ac wedi cyfrannu’n dda at y deilliannau y mae disgyblion yn eu cyflawni ar ddiwedd cyfnod allweddol 4.  Wrth ddewis pynciau UG, mae pob disgybl a’i rieni yn cael cyfweliad ym mis Rhagfyr a mis Ionawr i drafod yr opsiynau posibl.  Cynhelir deialog barhaus, a chynhelir cyfarfodydd pellach ar ddiwrnod canlyniadau TGAU.  Yn ychwanegol, cynhelir rhaglen fanwl o ddiwrnodau rhagflas, ffeiriau gyrfaoedd, ymweliadau a nosweithiau agored i alluogi disgyblion i brofi amrywiaeth o yrfaoedd cyn gwneud eu dewisiadau terfynol.  Hefyd, caiff disgyblion eu cyfweld gan bobl o fusnesau lleol i’w helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.  Rhoddir adborth manwl i rieni am y broses hon, er mwyn iddynt allu cynorthwyo eu plant ag unrhyw feysydd i’w gwella.  Mae’r gwaith hwn yn galluogi disgyblion i wneud penderfyniadau eithriadol o wybodus am eu llwybrau dysgu.

Caiff ‘Nosweithiau Datgloi’r Potensial’ yng nghyfnod allweddol 4 eu defnyddio’n dda i ddosbarthu pecynnau a strategaethau adolygu defnyddiol i alluogi rhieni i helpu eu plant yn ystod y cyfnod yn arwain at arholiadau allanol.  Er mwyn annog a chymell eu plant, mae rhieni disgyblion Blwyddyn 11 yn ysgrifennu llythyr cefnogol a symbylol, sy’n cael ei rannu â’u plentyn yn ystod y cyfnod olaf cyn yr arholiadau.  Caiff hyn effaith gadarnhaol ar ymgysylltu â disgyblion a rhieni, ac mae wedi cyfrannu’n dda at ymagwedd gyfannol yr ysgol at les a chynnydd disgyblion.

Un o’r nodweddion nodedig yw’r ffordd y mae’r ysgol a’r gymuned ehangach yn gweithio gyda’i gilydd i gynorthwyo disgyblion sy’n agored i niwed a disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (AAA).  Mae’r ymweliadau rheolaidd ac amserol yn ystod cyfnodau pontio a chymorth sensitif yn galluogi’r disgyblion hyn i ymgynefino’n gyflym yn eu hysgol newydd a symud ymlaen yn eu dysgu yn llwyddiannus.  Mae perthynas waith yr ysgol â rhieni yn cyfrannu’n werthfawr at les y disgyblion hyn.  Trwy raglen reolaidd o gyfarfodydd cymorth, mentora a chyfathrebu manwl, mae’r ysgol yn rhoi gwybod i’r holl rieni am gynnydd a lles eu plentyn yn rheolaidd.  Mae’r perthnasoedd cadarnhaol a chynhyrchiol hyn yn helpu’r ysgol i gael dealltwriaeth dda o anghenion rhieni, ac yn galluogi staff i gynllunio a strwythuro rhaglenni cymorth unigol yn effeithiol.  O ganlyniad, gall yr ysgol ymateb yn gyflym i unrhyw bryderon a allai fod gan rieni.  Cefnogir rhieni yn rheolaidd i nodi’r ffyrdd gorau y gallant gynorthwyo eu plant gartref.  Mae defnyddio’r ‘llyfr cyswllt cartref / ysgol’, sy’n ffordd o gyfathrebu rhwng rhieni a staff disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, yn galluogi rhieni i ddeall sut mae’r ysgol yn cynorthwyo eu plentyn.  O ganlyniad, mae rhieni’n fodlon iawn â’r addysg a ddarperir i’w plant.  Mae’r boreau coffi a gynhelir gyda rhieni disgyblion sy’n agored i niwed a gweithwyr proffesiynol allweddol yn hynod lwyddiannus wrth sicrhau bod yr holl ddisgyblion, beth bynnag fo’u gallu, yn cael eu cynorthwyo i lwyddo.

Mae’r ysgol yn gwneud defnydd effeithiol o ystod eang o feddalwedd ar-lein i gynyddu ymgysylltu â rhieni a galluogi disgyblion i astudio’n effeithiol gartref.  Mae’r adnoddau hyn wedi cynyddu’r cyfathrebu rheolaidd rhwng rhieni, disgyblion a staff ac wedi galluogi rhieni i gefnogi anghenion eu plentyn yn well.  Mae’r ysgol yn gwneud defnydd nodedig o’r feddalwedd y trefnwyd ei bod ar gael trwy Hwb i gynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu medrau dysgu gartref a’u medrau annibynnol.  Mae’n datblygu adnoddau digidol o ansawdd uchel, fel fideos teilwredig i fodelu prosesau cyfrifo a chynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu medrau rhesymu.

Mae nifer dda iawn o bobl yn mynychu nosweithiau rhieni a digwyddiadau, ac yn fwy diweddar, mae’r ysgol wedi cyflwyno nosweithiau hyfforddiant arloesol ar gyfer rhieni, sydd wedi darparu arweiniad defnyddiol ar sut i gynorthwyo eu plant gartref.  Mae hyn wedi galluogi rhieni i ddatblygu eu dysgu eu hunain mewn pynciau fel Saesneg iaith a mathemateg. 

Trwy eu gwaith â rhieni, mae’r ysgol wedi datblygu polisi drws agored yn llwyddiannus, ac mae eu hathroniaeth fod pob plentyn yn bwysig yn treiddio trwy bob agwedd ar eu gwaith. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r gwaith hwn wedi cyfrannu at welliant cryf mewn deilliannau academaidd ar gyfer disgyblion, ac mae gan bron bob un o’r disgyblion agweddau hynod gadarnhaol at ddysgu o ganlyniad iddo. 

Mae deilliannau’r ysgol yn 2019 uwchlaw’r disgwyliadau bron ym mhob dangosydd, ac ar ddiwedd Blwyddyn 11, mae bron pob un o’r disgyblion yn aros mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn dangos safonau ymddygiad hynod uchel yn y dosbarth ac o gwmpas yr ysgol, ac mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf mewn datblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau mewn gwersi. 

Mae bron pob un o’r disgyblion a’r rhieni yn meddu ar ddealltwriaeth fanwl o’r amrywiaeth o gymorth ac arweiniad sydd ar gael, ac fe gaiff hyn effaith hynod fuddiol ar les a dysgu disgyblion. 

Mae nifer fawr o rieni yn cymryd rhan fawr ym mywyd yr ysgol, gan gynnwys cymdeithas hynod lwyddiannus ‘Ffrindiau Sant Ioan’ (‘Friends of St John’s’), sy’n cyfrannu’n fuddiol at fywyd yr ysgol, ac at sicrhau gwelliannau.  Mae’r perthnasoedd pwrpasol y mae’r ysgol wedi eu datblygu gyda disgyblion a rhieni yn eu galluogi i deimlo eu bod yn aelodau gwerthfawr o gymuned ysgol sy’n croesawu amrywiaeth ac yn sicrhau bod disgyblion yn teimlo’n ddiogel a saff.

Sut ydych chi wedi rhannu’r arfer dda?

Mae gan Ysgol Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru berthnasoedd buddiol ag ysgolion uwchradd eraill yn Rhondda Cynon Taf a’u hysgolion cynradd partner.  Mae wedi rhannu’r gwaith hwn gyda’r ysgolion hyn ac ysgolion eraill trwy’r consortiwm rhanbarthol.