Ymestyn Prentisiaethau – Diwallu anghenion y gymuned a chyflogwyr - Estyn

Ymestyn Prentisiaethau – Diwallu anghenion y gymuned a chyflogwyr

Arfer effeithiol

Cardiff & Vale College Apprenticeships


Gwybodaeth am y coleg

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) yn arwain partneriaeth o 19 is-gontractwr i gyflwyno rhaglenni prentisiaeth Llywodraeth Cymru. Maent yn cyflwyno prentisiaethau i ryw 2,500 o ddysgwyr ar lefelau 2, 3 a 4, a’r rhan fwyaf o ddarpariaeth yn y meysydd sectorau blaenoriaethol. Mae 80% o ddysgwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, mae gan 10% anabledd wedi’i ddatgan, ac mae 35% o ddysgwyr yn dod o ardaloedd ag amddifadedd uchel. Mae’r coleg yn gwasanaethu cymuned amrywiol yn ardal prifddinas Cymru gan weithio gyda chyflogwyr, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i roi atebion i hyrwyddo prentisiaethau. Mae’n gweithio gyda thros 1,000 o gyflogwyr, o gyflogwyr rhyngwladol a chenedlaethol, i fusnesau bach a chanolig, gyda 76% o gyflogwyr yn fusnesau bach a chanolig. Mae gan y coleg nod clir i newid bywydau trwy ddysgu gyda ffocws penodol ar uchafu cyfleoedd i bobl ifanc ymgymryd â phrentisiaethau a mynd i’r afael â rhwystrau ar gyfer grwpiau nad oes cynrychiolaeth ddigonol ohonynt.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Prentisiaid Coleg Caerdydd a’r Fro yn gweithio mewn rhanbarth sydd â’r dirwedd fwyaf amrywiol yng Nghymru o ran ffyniant economaidd ac amrywiaeth y cymunedau o fewn y rhanbarth. Mae’r coleg yn cydnabod yr heriau allweddol i fynd i’r afael â thlodi ar draws y rhanbarth a chefnogi cymunedau ffyniannus. Mae’n gosod ei ymagwedd o amgylch themâu craidd strategol, sy’n cynnwys darparu ffordd ymatebol ac effeithiol o gyflenwi prentisiaethau, uchafu cyfleoedd i bobl ifanc ymgymryd â phrentisiaethau, cynyddu ymgysylltu y tu hwnt i lefel 2, ac ymrwymiad i feysydd sector blaenoriaethol. Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, sicrhaodd fod y ddarpariaeth yn cael ei chynllunio ar lefel strategol, mewn cydweithrediad ag ystod eang o randdeiliaid.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae cynllunio strategol Prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro yn effeithiol, ac yn cyd-fynd ag angen lleol a chenedlaethol a sectorau blaenoriaethol medrau. Mae wedi gweithio’n dda gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddatblygu rhaglenni newydd arloesol, gan gynnwys gweithio gyda’r sector medrau creadigol a diwylliannol i gynnal rhaglen ddynodedig o brentisiaethau ar y cyd mewn treftadaeth ddiwylliannol ar gyfer 33 o ddysgwyr nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NACH).

Mae’r coleg wedi gweithio’n dda gydag awdurdodau lleol i godi proffil a dealltwriaeth o’r llwybrau trwy brentisiaethau a’r cyfleoedd y maent yn eu darparu. Mae’n hyrwyddo prentisiaethau mewn ysgolion lleol ac wedi cymryd rhan mewn heriau ysgolion i annog pobl ifanc i ddilyn prentisiaethau technegol.

Mae’r coleg wedi gweithio’n galed i apelio at grwpiau nad oes cynrychiolaeth ddigonol ohonynt, fel y rhai o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a’r rhai o ardaloedd llai cefnog, gan ddatblygu cysylltiadau â chyflogwyr lleol a grwpiau cymunedol, gan gynnal digwyddiadau ymwybyddiaeth a recriwtio o fewn y cymunedau hyn. Datblygodd y coleg brentisiaethau newyddiaduraeth Deloitte a’r BBC i gynyddu amrywiaeth. Mae hefyd wedi cynllunio a chyflwyno rhaglenni ategol fel interniaethau a gefnogir yn Dow ar gyfer y rhai ag anawsterau ac anableddau dysgu.

Mae’r coleg yn gweithio gydag ystod eang o gyflogwyr, gan gefnogi mewnfuddsoddiad a pharu medrau prentisiaid yn effeithiol, er enghraifft trwy ddatblygu prentisiaethau gwasanaethau ariannol yn y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yng Nghaerdydd. Mae’r gwaith hwn wedi arddangos prentisiaethau gyda chyflogwyr allweddol, yn cynnwys Aston Martin a Future PLC.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r coleg wedi cynyddu nifer y dysgwyr 16 mlwydd oed sy’n ymuno â phrentisiaethau, ac yn 2023, roedd 71% o’r ddarpariaeth o dan 24 mlwydd oed. Bu cynnydd yn nifer y grwpiau lleiafrifoedd ethnig sy’n cofrestru ar gyfer darpariaeth prentisiaethau. Mae dysgwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig a’r rhai o ardaloedd llai cefnog yn cyflawni eu prentisiaethau ar gyfraddau tebyg i ddysgwyr eraill.

Ehangwyd y rhaglen prentisiaethau ar y cyd yn bedwar sector ychwanegol, mewn partneriaeth â chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant newydd, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Sgil Cymru, Y Prentis ac Aspire.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae darparwyr prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro yn mynychu cyfarfodydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru ac yn rhannu eu harfer gyda darparwyr prentisiaethau eraill. Maent wedi lledaenu’r cyfleoedd prentisiaethau ar y cyd ymhlith rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys fforymau medrau rhanbarthol.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn