Ymdrechu am ddysgu annibynnol i bob disgybl
Quick links:
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Fel ysgol arloesi ar gyfer datblygu’r cwricwlwm, nododd y broses hunanarfarnu fod meithrin annibyniaeth dysgwyr yn hollbwysig i ddatblygiad llwyddiannus y newidiadau arfaethedig i’r cwricwlwm. Byddai hyn yn hanfodol er mwyn parhau i ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu a chodi lefelau cyrhaeddiad, cyflawniad a lles.
Daeth pedwar diben y cwricwlwm newydd yn brif sbardun i sicrhau bod gweithgareddau dysgu cwricwlaidd ac allgyrsiol a oedd yn cael eu cynllunio yn ceisio datblygu annibyniaeth disgyblion drwy:
-
ymagwedd thematig drylwyr at gynllunio’r cwricwlwm, wedi’i harwain gan ddisgyblion
-
datblygu ymhellach effeithiolrwydd strategaethau asesu ar gyfer dysgu
-
cynllunio cydweithredol ac effeithiol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn canolbwyntio ar y plentyn
-
datblygu ymhellach rolau ac effeithiolrwydd llawer o gynghorau disgyblion
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Roedd sicrhau bod gan ddisgyblion berchenogaeth ar eu dysgu yn ganolog i’r broses. Ar ôl ymgynghori, datblygwyd ‘Wythnosau Arloesi’ ar sail pynciau yr oedd disgyblion wedi’u hawgrymu a’r cyngor ysgol wedi cytuno arnynt, er enghraifft ‘Portwll Cynhanes’ ac ‘Anelu at yr Aur’.
Fe wnaeth yr wythnosau hyn ganiatáu i staff fireinio’u haddysgeg, gan sicrhau bod y pedwar diben yn ganolog i bob profiad dysgu. O ganlyniad, mae disgyblion yn ennill dealltwriaeth o’r medrau a’r wybodaeth y mae arnynt eu hangen i ddysgu’n effeithiol. Er enghraifft, mae heriau annibynnol yn y cyfnod sylfaen, wedi’u hysbrydoli gan syniadau disgyblion, yn dangos pa mor dda mae disgyblion yn defnyddio medrau yn annibynnol.
Cyflwynwyd egwyddorion y cyfnod sylfaen ar draws cyfnod allweddol 2, gan ganolbwyntio i ddechrau ar Flwyddyn 3. Roedd cyllid wedi galluogi staff profiadol y cyfnod sylfaen i weithio gydag athrawon Blwyddyn 3 i ddatblygu addysgeg. Fe wnaeth datblygu cyfleoedd dysgu cyfoethog trwy heriau annibynnol a meysydd dysgu yng nghyfnod allweddol 2 ddatblygu annibyniaeth dysgwyr ymhellach. Gwneir defnydd effeithiol o’r amgylchedd lleol ac arbenigedd yn y gymuned i gefnogi profiadau dysgu arloesol. Mae’r ymagwedd hon bellach wedi’i gwreiddio ar draws yr ysgol.
Mae asesu ar gyfer dysgu yn ganolog i ddysgu ac addysgu ac mae disgyblion yn defnyddio strategaethau gwahanol i arfarnu eu dysgu, sy’n cyfrannu at ddatblygu medrau meddwl aeddfed ac effeithiol. Mae adborth hynod effeithiol gan athrawon, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn cyfrannu’n effeithiol at ddatblygu dysgwyr annibynnol, hyderus.
Mae’r ddarpariaeth ar gyfer ADY yn canolbwyntio ar y plentyn. Mae proffiliau-un-dudalen yn cynnig darpariaeth o ansawdd uchel wedi’i haddasu’n unigol i ddisgyblion penodol, ac mae rhaglenni ymyrraeth hynod effeithiol yn ategu’r ddarpariaeth. Mae’r staff sy’n cefnogi disgyblion yn wybodus ac yn cefnogi’u hanghenion yn dda, ac yn datblygu annibyniaeth disgyblion ar yr un pryd.
Caiff llais y disgybl ei gryfhau trwy nifer o bwyllgorau hynod effeithiol o ddisgyblion, gan gynnwys y cyngor ysgol, sy’n ymgymryd â rhan weithgar mewn penderfyniadau. Mae’r ‘Llysgenhadon Efydd’ effeithiol tu hwnt yn arwain sesiynau gweithgarwch sy’n datblygu medrau corfforol disgyblion, ac mae’r ‘Criw Cymraeg’ yn cynorthwyo disgyblion iau i ddatblygu mwy o hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae amrywiaeth o brofiadau dysgu cyfoethog, sy’n gwreiddio’r pedwar diben, wedi cyfrannu at ddatblygu dysgwyr annibynnol llwyddiannus yn y gymuned ddysgu.
Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae canolbwyntio ar ddatblygu dysgwyr annibynnol o bob oedran a gallu wedi effeithio’n arwyddocaol ar safonau, lefelau lles a darpariaeth. Mae llais y disgybl yn ganolog i bob cynllunio ac mae mwy o ymdeimlad ganddynt o berchnogaeth ar eu dysgu.
Mae strategaethau asesu ar gyfer dysgu llwyddiannus yn llywio gwaith cynllunio’r cwricwlwm gan athrawon, gan sicrhau bod profiadau dysgu yn addas ar gyfer pob disgybl ac yn datblygu annibyniaeth ar yr un pryd. Er enghraifft, mae llawer o ysgrifenwyr amharod wedi goresgyn anawsterau gan eu bod wedi ymgolli yn eu dysgu. Mae athrawon yn defnyddio syniadau disgyblion yn fedrus i ddarparu cwricwlwm eang, cytbwys a heriol, wedi’i wreiddio yng Nghymru a diwylliant Cymru. I grynhoi, themâu sy’n amlygu’r cysylltiadau cyfoethog sy’n bodoli rhwng y meysydd dysgu a phrofiad yw’r rhai mwyaf effeithiol.
Mae disgyblion yn frwdfrydig ac yn dangos agwedd eithriadol o gadarnhaol tuag at ddysgu, gan wybod bod rhywun yn gwrando ar eu llais a’i fod yn effeithio’n uniongyrchol ar yr hyn maen nhw’n ei ddysgu, a sut.
Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer da?
Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer hon drwy:
-
gynhadledd genedlaethol yr Ysgolion Arloesi
-
astudiaeth achos a gyflwynwyd i gonsortia lleol
-
cyfarfodydd penaethiaid y sir
-
ymweliadau â’r ysgol gan grwpiau o athrawon / darlithwyr addysg gychwynnol athrawon