Ymddygiadau llwyddiannus trwy raglen wobrau

Arfer effeithiol

Aran Hall School


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn 2010, mabwysiadodd yr ysgol raglen sy’n seiliedig ar wobrau, a ddatblygwyd yn UDA, i ymateb i ymddygiad problemus difrifol nifer fach o ddisgyblion.  Mireiniodd uwch arweinwyr yn Aran Hall y rhaglen fel y gallai staff roi’r rhaglen ar waith yn llwyddiannus ar draws y lleoliadau addysg a phreswyl.  Trwy ddefnyddio pecyn hyfforddiant medrau ymddygiadol, hyfforddwyd nifer fach o staff addysg a staff preswyl i ddechrau er mwyn defnyddio’r rhaglen gyda dau ddisgybl.  Wedyn, rhoddodd uwch arweinwyr y rhaglen ar waith ar draws yr ysgol.  Erbyn hyn, mae staff yn rhoi’r rhaglen ar waith ym mhob dosbarth, yn yr unedau preswyl a phan fydd disgyblion yn mynd i’r gymuned ehangach ar gyfer lleoliadau coleg a gwaith.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

System pwyntiau a lefelau integredig yw’r rhaglen, sy’n gwobrwyo disgyblion am ddangos medrau rhag-gymdeithasol sy’n gysylltiedig â llwyddiant mewn ysgol prif ffrwd, coleg neu weithle.  Mae disgyblion yn derbyn pwyntiau am fynychu’r ysgol neu’r coleg yn brydlon, gweithio ar y dasg benodol, cwblhau’r dasg benodol a dangos ymddygiad diogel a pharchus.  Wedyn, bydd disgyblion yn cyfnewid y pwyntiau a ddyfarnwyd gan staff am atgyfnerthwyr wrth gefn fel gemau cyfrifiadur, cylchgronau a dyfeisiau cerddoriaeth cludadwy. 

Mae gan bob un o’r disgyblion amserlen gweithgareddau dyddiol sy’n rhannu’r diwrnod yn ddeg cyfnod 30 munud.  Ar ddiwedd pob cyfnod o 30 munud, mae’r aelod staff a neilltuir i bob disgybl yn dyrannu pwyntiau, sy’n dibynnu a yw’r disgybl wedi dangos yr ymddygiad priodol.  Wrth i ddisgyblion ddangos cyfraddau cynyddol o ymddygiad rhag-gymdeithasol ac academaidd, cânt eu dyrchafu trwy’r system lefelau ac, wrth wneud hynny, gallant elwa ar amrywiaeth well o weithgareddau atgyfnerthu.  Yn gyfochrog â hyn, mae’r disgyblion yn treulio mwy o amser ar dasgau academaidd a llai ar weithgareddau gwobrwyo.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r rhaglen wedi helpu mwyafrif y disgyblion i reoli eu hymddygiad eu hunain yn llwyddiannus.  O ganlyniad, mae disgyblion yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd erbyn hyn, yn trin pobl eraill ag urddas a pharch, yn defnyddio’r gymuned yn ddiogel, yn mynychu lleoliadau coleg a phrofiad gwaith ac yn ennill achrediad perthnasol am eu gwaith.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer dda trwy dri phapur academaidd ac mewn cynadleddau yn y DU ac UDA.  Mae’r ysgol yn croesawu ymwelwyr o ysgolion a phobl broffesiynol eraill o bob cwr o’r DU yn rheolaidd.  Mae nifer fach o ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn defnyddio amrywiadau o’r rhaglen.