Ymddiried mewn staff i arwain ar wella addysgeg ac arfer
Quick links:
Cyd-destun
Ysgol gymysg 11-16 oed yw Ysgol Gyfun Pontarddulais a gynhelir gan awdurdod lleol Abertawe. Mae tua 800 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae’r ysgol yn cynnal uned sy’n cynorthwyo disgyblion cyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4 sydd ag anableddau dysgu dwys a lluosog ar draws yr awdurdod lleol. Mae’r ysgol yn gwasanaethu disgyblion o Bontarddulais a’r pentrefi cyfagos. Mae tua 15% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 29% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae gan ryw 3% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig. Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig ac ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.
Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2011. Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cynnwys dau ddirprwy bennaeth a dau bennaeth cynorthwyol dros dro.
Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar hyn o bryd ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol arall.
Mae’r ysgol wedi ailstrwythuro ei staffio yn ddiweddar i gyd-fynd â phedwar diben craidd Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015).
Strategaeth a chamau gweithredu
Mae arweinwyr yn rhoi pwyslais cryf ar sicrhau bod staff yn arwain ar fentrau gwella’r ysgol a bod athrawon yn arwain, datblygu a mireinio arferion addysgegol yr ysgol. Mae hyn wedi sicrhau bod hinsawdd ddysgu gadarnhaol ar draws yr ysgol. Caiff staff Pontarddulais eu cynnwys yn llawn mewn ffurfio a gweithredu cynllun datblygu’r ysgol. Mae’r pennaeth a’r uwch dîm yn cynnal diwrnod cynllunio datblygiad yr ysgol ar ddydd Sadwrn mewn lleoliad allanol yn y ddinas, sydd, ynghyd â chylch hunanarfarnu trylwyr yr ysgol, yn helpu ffurfio blaenoriaethau allweddol. Mae llawer o staff yn mynychu’r digwyddiad gwirfoddol hwn ac mae hyn wedi helpu parhau i feithrin ymagwedd gyfunol a chynhwysol at wella’r ysgol. Mae pob un o’r staff yn aelodau o weithgorau sy’n arwain ar y blaenoriaethau allweddol hyn ac felly maent yn eiriolwyr ar gyfer mentrau ysgol gyfan.
Er mwyn codi disgwyliadau yn eu hadrannau, mae arweinwyr canol yn gosod targedau uchelgeisiol gan ddefnyddio data gwerth ychwanegol. Maent yn defnyddio dull fforensig i fonitro cynnydd disgyblion trwy gylch olrhain naw wythnos sy’n seiliedig ar asesu wedi’i amserlennu’n ystyriol ar draws pynciau. Mae hyn yn arwain at wiriad cynnydd ystyrlon ar gyfer pob disgybl. Mae gan ddisgyblion berchnogaeth o’u dysgu a’u cynnydd trwy’r system hon ac maent yn myfyrio o ddifrif ar eu dysgu a’u cynnydd. Mae’r ysgol yn rhannu’r gwaith hwn yn effeithiol gyda rhieni a gofalwyr. Mae hyn yn creu perthynas gefnogol ar y ddwy ochr sy’n canolbwyntio ar wella safonau. Mae athrawon yn defnyddio’r wybodaeth hon yn fuddiol i lywio eu cynllunio ac ymyrryd yn gynnar pan fydd disgyblion mewn perygl o dangyflawni. Pan fo’n briodol, mae’r ysgol yn defnyddio rhaglenni ymyrraeth hynod effeithiol yn y ddau gyfnod allweddol i gynorthwyo disgyblion sydd â medrau gwannach. Mae’r rhaglenni hyn yn magu hyder ymhlith disgyblion ar draws y cwricwlwm ac maent yn nodwedd gref o waith yr ysgol.
Dros gyfnod, mae’r pennaeth wedi sefydlu a chynnal hinsawdd ddysgu gadarnhaol lle mae athrawon yn arwain ac ymgorffori newid ac arloesedd. Ceir diwylliant o rannu arfer dda a rhagorol a dull hunanarfarnol agored a thryloyw ym mhob agwedd ar waith yr ysgol. Er enghraifft, mae dull yr ysgol gyfan o gyflwyno’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd wedi sicrhau bod datblygu medrau yn rhan annatod a sylfaenol o becyn canllawiau addysgegol pob athro. Trwy weithio gyda’i gilydd, arweiniodd athrawon ar sut i ymgorffori medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm. Mae hyn wedi arwain at lefelau uchel iawn o gysondeb mewn dulliau darllen ac ysgrifennu a lefelau uchel o hyder disgyblion wrth ddarllen testunau cymhleth ac wrth ymgymryd ag ystod eang o dasgau ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd a dibenion.
Mae athrawon wedi rhoi newidiadau effeithiol iawn ar waith hefyd yn null yr ysgol o farcio a rhoi adborth. Ymgymerodd gweithgor o athrawon â phrosiect ymchwil weithredu i geisio gwella dull cyson o farcio diagnostig ac atebion disgyblion. Roedd y grŵp hwn yn awyddus i sicrhau cyfatebiaeth rhwng ethos yr ysgol a’i diwylliant o feddylfryd twf fel rhan o’r gwaith hwn ar asesu. O ganlyniad, fe wnaethant ddiwygio polisi marcio’r ysgol ac egluro dull yr ysgol o farcio nodweddion technegol gwaith disgyblion. Yn bwysicaf oll, dechreuodd y grŵp dan arweiniad athro ddull cyson o roi cyfleoedd i ddisgyblion ymateb i adborth gan athro yn dilyn tasgau asesu allweddol trwy gyflwyno amser ‘STAR’ dynodedig (aros (stop), meddwl (think), gweithredu (act) a myfyrio (reflect)). O ganlyniad i hyn, mae disgyblion yn cymryd perchnogaeth bwrpasol o’u dysgu ac wedi eu helpu nid yn unig i ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella ond mae hefyd wedi rhoi cyfleoedd rheolaidd ac amserol iddynt wneud hynny.
Deilliannau
Mae gan yr ysgol ddiwylliant cyfoethog o gymorth, her a chydweithio. Mae arweinyddiaeth gref ar bob lefel wedi galluogi i’r ffocws ar ddysgu ac addysgu ffynnu. Mae’r pennaeth a’r tîm arweinyddiaeth wedi sefydlu ethos o ragoriaeth ym mhob agwedd ar waith yr ysgol. Mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o bawb yng nghymuned yr ysgol, ynghyd ag ymddiriedaeth gynhenid yn eu staff. Mae gan yr ysgol systemau trylwyr ar gyfer hunanarfarnu ac ar gyfer casglu tystiolaeth uniongyrchol ac fe gaiff hyn ei gyfateb â datblygiad proffesiynol parhaus a dysgu haenog sydd wedi’i gynllunio’n effeithiol iawn ar gyfer pob un o’r staff. Mae cyfuno’r diwylliant a gafodd ei greu a’i feithrin gan y pennaeth a’i thîm, a’u hymddiriedaeth mewn darpar arweinwyr i arwain a rheoli datblygiadau ysgol gyfan, wedi sicrhau deilliannau rhagorol ac ymagweddau arloesol at addysgeg dros gyfnod.
O ganlyniad i’r diwylliant a’r dull hwn, mae disgyblion yn Ysgol Gyfun Pontarddulais yn deall ac yn ymfalchïo yn ethos yr ysgol a’i disgwyliadau o addysgu a dysgu o’r ansawdd gorau. Gall disgyblion ddisgrifio’n hyderus ffocws yr ysgol ar safonau a’r perthnasoedd gweithio rhagorol rhwng athrawon a disgyblion, sy’n golygu bod disgyblion yn teimlo y cânt eu gwerthfawrogi a’u hadnabod fel unigolion. Mae gan ddisgyblion lefelau uchel o ymgysylltiad a chymhelliant yn eu dysgu. Maent yn dangos medrau darllen, ysgrifennu a rhifedd cryf ar draws y cwricwlwm, ac mae’r safonau cyffredinol a gyflawnir gan ddisgyblion ymhell uwchlaw disgwyliadau wedi’u modelu.
Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod arweinyddiaeth yn parhau i ganolbwyntio ar addysgu, dysgu ac asesu, a thrwy ei rôl arloesi, bydd yr ysgol yn ceisio rhannu ei harfer dda a dysgu oddi wrth ysgolion eraill yn lleol ac yn genedlaethol.