Ymchwil dargedig yn helpu i ddatblygu aferion addysgu arloesol

Arfer effeithiol

Glasllwch C.P. School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Glasllwch mewn ardal breswyl ar ochr ogleddol dinas Casnewydd.  Mae gan yr ysgol 238 o ddisgyblion, rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys 32 o ddisgyblion meithrin rhan-amser.  Mae naw dosbarth un oedran yn yr ysgol.

Saesneg yw prif iaith bron pob un o’r disgyblion.  Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, ac maent yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.  Nid yw unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Cyfartaledd tair blynedd y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yw tua 3%, sy’n llawer is na chyfartaledd Cymru, sef 18%.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 14% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Dechreuwyd ymgysylltu â staff mewn ymchwil yn seiliedig ar ymholi yn 2016 fel rhan o reoli perfformiad staff.  Yn ystod diwrnod blynyddol blaenorol ar gyfer Cynllunio Datblygiad yr Ysgol, bu pob un o’r staff a’r llywodraethwyr yn edrych ar y 12 egwyddor addysgegol, a nodwyd cryfderau a meysydd i’w datblygu.  Gan gofio hyn, yn ystod yr hydref canlynol, gofynnwyd i athrawon nodi maes arfer yr oedd ganddynt ddiddordeb mewn ymchwilio iddo, ei dreialu a’i ddatblygu.  Gofynnwyd i staff alinio’r gwaith hwn â’r safonau proffesiynol, a chanolbwyntio’n benodol ar Arloesi, Cydweithio a Dysgu Proffesiynol.  Yn ystod yr un cyfnod, roedd yr ysgol yn gweithio gyda dwy ysgol arall yn y rhanbarth fel grŵp adolygu cymheiriaid, ac roedd wedi dechrau trefnu dysgu proffesiynol ar y cyd, yn ogystal â phrosiectau cydweithredol.  Wrth nodi eu prosiectau ymchwil, gallai staff ddewis naill ai gweithio ar eu pen eu hunain, gydag aelod arall o staff yn yr ysgol neu gyda staff o un neu’r naill a’r llall o driawd o ysgolion sy’n cydweithredu (mae tair ysgol yn cydweithredu, gan gynnwys Ysgol Gynradd Glasllwch).

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Fe wnaeth yr amser dysgu proffesiynol mewn cyfarfodydd staff, yn ogystal â rota ryddhau amserlenedig a chyllideb fach, sicrhau bod prosiectau ymchwil yn cael yr amser a’r adnoddau angenrheidiol i’w cynnal.  Rhoddwyd amserlenni clir i bob un o’r staff weithio, a disgwyliad y byddai prosiectau’n cael eu cyflwyno i’w gilydd a rhwng ysgolion y triawd, os oedd yn briodol, ar ddiwedd tymor yr haf mewn ‘digwyddiadau rhannu’ wedi’u trefnu.

Trwy gydol eu prosiectau, bu staff yn cymryd rhan mewn gweithgareddau monitro a gwerthuso rheolaidd i nodi effaith eu hymchwil ar addysgeg effeithiol, safonau, cyrhaeddiad neu les, pa un bynnag oedd fwyaf priodol.  O ganlyniad, o’r cychwyn, rhoddwyd proffil uchel i ymchwil, gan ddisgwyl y bydd pob un o’r staff yn ymgysylltu.

Mae ychydig o enghreifftiau o brosiectau ymchwil weithredu a gynhaliwyd gan staff yn cynnwys:

  • Defnyddio llyfrau llawr yn y meithrin a’r derbyn i wella llais y disgybl, ac ymgysylltu
  • Cyflwyno darllen wedi’i arwain gan y dosbarth cyfan i wella ymgysylltu a medrau mewn darllen
  • Defnyddio nodiadau bras i wella medrau creadigol a chyfathrebu
  • Defnyddio ioga i ddatblygu amgylchedd dysgu digynnwrf ymhellach
  • Darllen er pleser a’r effaith ar agweddau plant at ddarllen
  • Gwella llafaredd trwy ffocws cynyddol ar y celfyddydau mynegiannol
  • Datblygu strategaethau asesu ar gyfer dysgu i gefnogi ymgysylltu â dysgwyr a chyflymu cynnydd disgyblion tra’n lleihau baich gwaith athrawon

Dros y blynyddoedd, mae staff wedi datblygu eu medrau ymchwil ymhellach.  Mae cymryd rhan mewn ymchwil clwstwr i ‘ddarllen er pleser’ gan ddefnyddio’r model Ymholi Beirniadol Cydweithredol Proffesiynol wedi bod yn ddysgu proffesiynol rhagorol ar gyfer un aelod o staff.  Rhannwyd hyn â phob un o’r staff ac mae wedi cefnogi dealltwriaeth ac arfer mewn methodoleg ymchwil.  Mae’r ysgol hefyd yn ysgol gynghrair sy’n gweithio gyda dwy ysgol arall ar draws y rhanbarth i gyflwyno addysg gychwynnol i athrawon mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.  Y dirprwy bennaeth yn yr ysgol yw’r ‘Hyrwyddwr Ymchwil’ sy’n cynorthwyo myfyrwyr i ymgymryd ag ymchwil yn seiliedig ar ymholi.  Mae’r cysylltiad hwn â’r brifysgol wedi cynorthwyo pob un o’r staff o ran yr hygyrchedd at ddeunyddiau ymchwil.

Mae’r pennaeth yn cymryd rhan mewn ymchwil weithredu hefyd.  Fel Ymgynghorydd Cyswllt i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, mae hi wedi ymgymryd ag ymchwil ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol yn canolbwyntio ar y modd y mae arweinwyr yn galluogi cyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy’n gwella lles ac yn cyflawni deilliannau gwell i bawb.  Nododd yr ymchwil hon argymhellion, ac fe’i cyhoeddwyd mewn papur, sef ‘Our Call to Action’.  Gellir ei weld ar wefan Yr Academi. 

Mae disgyblion yng Nglasllwch wedi cymryd rhan mewn ymchwil am y 12 mlynedd ddiwethaf hefyd, trwy waith Sgwad Dysgu Glasllwch, sef grŵp hynod fedrus ac arloesol o ddysgwyr sy’n canolbwyntio’n gryf ar greu effaith o ganlyniad i’w prosiectau ymchwil.  Dros gyfnod, mae prosiectau wedi cynnwys:

  • Ymchwilio i ieithoedd yr hoffai plant eu dysgu – gan arwain at sefydlu Clwb Ffrangeg.
  • Gwella’r celfyddydau mynegiannol – datblygu drama yn yr ysgol.  Mae hyn wedi arwain at sefydlu clwb drama ar ôl yr ysgol.
  • Gwella’r celfyddydau mynegiannol – datblygu’r celfyddydau mynegiannol yn yr ysgol.  O ganlyniad i hyn, bu staff yn ymgymryd â dysgu proffesiynol trwy ddarparwr allanol.
  • Ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu doniau plant, a arweiniodd at ddiwrnod doniau yng nghyfnod allweddol 2.
  • Datblygu ieithoedd a diwylliannau yn yr ysgol.  Arweiniodd hyn at hyrwyddo traws-ieithoedd ar draws yr ysgol, a chanolbwyntio mwy ar ddysgu am ddiwylliannau eraill.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Gellir gweld effaith llawer o brosiectau ymchwil ar draws yr ysgol mewn cwricwlwm cynyddol bwrpasol sydd â chyd-destunau go iawn ar gyfer dysgu, yn ogystal ag wrth ddatblygu arbenigedd, gwybodaeth a dealltwriaeth staff o addysgeg effeithiol.  Ni fu prosiectau ymchwil yn llwyddiannus o ran cael effaith gadarnhaol ar safonau neu les, nid ydynt wedi cael eu datblygu fel polisi ac arfer ysgol gyfan.  Hyd yn oed yn yr achos hwn, caiff y broses ymchwilio effaith gadarnhaol ar ddatblygu medrau arwain staff, yn ogystal â chydnabod pwysigrwydd bod pob un o’r staff yn cael cyfle i fod yn arloesol yn eu harfer.

Mae enghreifftiau o welliannau penodol o ganlyniad uniongyrchol i ymchwil yn cynnwys:

  • Mae canolbwyntio’n fwy ar y celfyddydau mynegiannol wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau mewn llafaredd, ac ar ymgysylltu â dysgwyr, hunan-barch a lles cyffredinol yn ogystal.
  • Mae datblygiadau mewn strategaethau darllen, gan gynnwys darllen dan arweiniad ar gyfer y dosbarth cyfan a chyfleoedd cynyddol i ddarllen er pleser, yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar ymgysylltu, a chynnal safonau uchel mewn darllen.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd prosiectau ymchwil a’u heffaith ymhlith staff yn ystod sesiynau dysgu proffesiynol; gydag ysgolion eraill trwy ddigwyddiadau rhannu a dathlu; gyda llywodraethwyr trwy gyflwyniadau; a gyda rhieni trwy gylchlythyrau a digwyddiadau rheolaidd o ran rhannu’r cwricwlwm.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn