Ymateb i’r her llythrennedd

Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gyfun Sandfields yn gwasanaethu ardal Sandfields ym Mhort Talbot ac mae ganddi Ddarpariaeth fawr o Adnoddau Gwell (DAG) i ddisgyblion sydd ag ystod eang o anawsterau corfforol ac anawsterau dysgu dwys eraill.

Mae gan bedwar deg pump y cant o ddisgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn ymhlith yr uchaf yng Nghymru ac ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17% ar gyfer ysgolion uwchradd. Mae gan bedwar deg dau y cant o ddisgyblion angen addysgol arbennig ac mae gan ryw 12% o ddisgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig. 

Am fwy na degawd, mae’r ysgol wedi ymdrechu’n ddiwyd i godi safonau cyflawniad disgyblion.  Er bod safonau’n gwella’n gyson, cydnabu staff fod medrau darllen lefel isel llawer o ddisgyblion wrth iddynt ddechrau yn yr ysgol yn cael effaith niweidiol ar eu cynnydd cyffredinol ym mhob pwnc.  Ar gyfartaledd, mae dros 60% o ddisgyblion yn cyrraedd yr ysgol ym Mlwyddyn 7 â’u hoedran darllen yn llai na 10 oed.  O ganlyniad, nid yw’r mwyafrif o ddisgyblion yn meddu ar y medrau iaith sydd eu hangen arnynt i ymdrin â’r cwricwlwm yng nghyfnod allweddol 3.  Er bod hyn yn effeithio’n sylweddol ar eu perfformiad yng nghyfnod allweddol 3, mae hefyd yn dylanwadu ar eu llwyddiant yng nghyfnod allweddol 4.  Cydnabuwyd bod gwella medrau llythrennedd disgyblion ar draws holl feysydd y cwricwlwm yn her allweddol i’r ysgol ac yn hanfodol i lwyddiant disgyblion ym mhob pwnc.

Neges yr ysgol

Yr ysgogwr allweddol i’r ysgol fu sicrhau bod disgyblion yn gadael â’r medrau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer cyflogaeth a bywyd.  Yn benodol, rydym ni wedi bod yn ystyriol iawn o’r ffaith fod yn rhaid i ni gael dull systematig o addysgu a dysgu medrau llythrennedd.’

Mike Gibbon, Pennaeth

Mae defnyddio data am fedrau llythrennedd disgyblion mewn modd deallus a chefnogi staff trwy HMS wedi bod yn arwyddocaol yn ein hymdrech i wella.

Chris Prescott, Pennaeth Cynorthwyol

Mae gwneud yn siŵr ein bod yn athrawon llythrennedd medrus yn ogystal â bod yn athrawon gwyddoniaeth wedi bod yn ganolog i lwyddiant ein disgyblion.’

Barbara George, Pennaeth yr Adran Wyddoniaeth

Manylion am yr arfer dda

Cydnabu uwch reolwyr fod angen dull ysgol gyfan arnynt i wella safon medrau llythrennedd disgyblion, lle’r oedd pob pwnc yn cyfrannu at ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion.  I fod yn llwyddiannus, roedd yn rhaid ymgorffori datblygiad medrau llythrennedd disgyblion mewn arfer bob dydd ac ymgymryd ag ef yn gyson ar draws pob maes pwnc. 

Mae’r ffocws ar wella llythrennedd yn yr ysgol hon wedi arwain at raglen gynhwysfawr ac eang i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion trwy bob cynllun gwaith pwnc.  Mae’r cynlluniau gwaith hyn yn amlygu datblygiad medrau llythrennedd disgyblion yn systematig.  Mae’r ysgol yn darparu gweithdai iaith o ansawdd uchel i helpu disgyblion i ddal i fyny hefyd.  Rhoddir hyfforddiant rheolaidd i bob un o’r staff ar addysgu a dysgu llythrennedd, a datblygwyd mewnrwyd yr ysgol i ddarparu ystod o wybodaeth ac adnoddau ar gyfer staff.

Rhan bwysig o waith yr ysgol ar godi safonau llythrennedd yw dadansoddi data perfformiad disgyblion.  Caiff ystod eang o ddata ar lythrennedd ei ddadansoddi’n drylwyr, ac mae hyn yn galluogi staff i nodi materion.  Mae’r data hwn yn cynnwys:

  • data gwaelodlin pan fydd disgyblion yn dechrau yn yr ysgol, fel gwybodaeth a gafwyd gan ysgolion cynradd, yn ogystal â phrofion gwybyddol a phrofion darllen a gynhaliwyd ym Mlwyddyn 7; a
  • nodi anawsterau llythrennedd yn gynnar gan staff, rhieni a phobl eraill.

Mae dadansoddi’r data yn ofalus yn sicrhau bod anawsterau llythrennedd yn cael eu nodi’n gynnar er mwyn iddynt allu cael cymorth targedig.  Mae datblygu rhaglen iaith a llythrennedd strwythuredig wedi bod yn rhan lwyddiannus iawn o strategaeth yr ysgol i godi safonau.  Cyflwynir y rhaglen hon ar ffurf gweithdai iaith, sy’n cael eu cynnal gan y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CydADY) ar y cyd â’r adran Saesneg.  Mae adolygiadau tymhorol o berfformiad disgyblion, yn cynnwys arfarniad o berfformiad mewn asesiadau ar ddiwedd uned, profion diagnostig ac adborth gan staff, yn helpu i fonitro cynnydd a chyflawniadau disgyblion.  Yn ychwanegol, mae ail brofion ar ddiwedd blwyddyn sy’n defnyddio profion masnachol safonedig yn ogystal â chanlyniadau arholiadau yn cyfrannu gwybodaeth ddefnyddiol hefyd.

Roedd cytuno ar ffocws ysgol gyfan ar gyfer datblygu medrau llythrennedd yn bwysig wrth sicrhau cysondeb.  Ar draws yr ysgol, ym mhob adran bwnc, cytunwyd y dylai fod ffocws cryf ar:

  • ehangu medrau llafar disgyblion er mwyn iddynt gael y medrau sydd eu hangen arnynt i drafod eu hastudiaethau yn ogystal â bod wedi’u paratoi’n well ar gyfer tasgau ysgrifenedig;
  • datblygu’r iaith sy’n benodol i bwnc sydd ei hangen ar ddisgyblion ar gyfer eu hastudiaethau;
  • gwella medrau darllen disgyblion; a
  • datblygu medrau ysgrifenedig disgyblion, yn enwedig cywirdeb eu hysgrifennu.

Wedi i’r pwyslais gael ei gytuno, roedd yn bwysig i staff fod yn gyson o ran y dulliau yr oeddent yn eu defnyddio i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion, waeth pa bwnc oedd yn cael ei addysgu.  Dywed Chris Prescott, Pennaeth Cynorthwyol ‘ei fod yn bwysig datblygu arfer ar draws pob rhan o’r ysgol ac nid dibynnu’n unig ar gael llecynnau o arfer dda.’  Mae hi’n pwysleisio, er mwyn i staff roi polisïau ac egwyddorion ar waith yn llwyddiannus, bod yn rhaid iddynt nid yn unig ddeall y syniadau ac ymrwymo iddynt, ond cael hyfforddiant priodol hefyd a chael cyfle i ddefnyddio adnoddau addas.  Mae’r ysgol wedi darparu ‘pecyn canllawiau ar gyfer staff’ ac wedi defnyddio hyfforddiant mewn swydd (HMS) fel bod gan staff y medrau a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion.    Mae’r ysgol wedi sicrhau bod staff yn deall ac yn defnyddio iaith gyffredin i drafod agweddau ar fedrau llythrennedd disgyblion.  Mae rhoi polisïau marcio ysgol gyfan ar waith yn sicrhau bod disgyblion yn cael adborth cyson ar ddatblygiad eu medrau llythrennedd.

Mae’r rhaglen lythrennedd HMS ysgol gyfan ar gyfer staff yn canolbwyntio ar roi iddynt y medrau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu llythrennedd yn eu maes pwnc penodol.  Mae’r hyfforddiant hwn wedi rhoi syniadau ac ysbrydoliaeth ar gyfer addysgu llythrennedd.  Mae’r hyfforddiant hefyd wedi helpu i sicrhau bod staff yn gyson wrth roi strategaethau ar waith a’r iaith y maent yn ei defnyddio i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion.  Er enghraifft, ar draws yr ysgol, mae staff yn deall ac yn defnyddio’r un strategaethau i helpu disgyblion i ddatblygu medrau darllen lefel uwch llithrddarllen a sganio.  Yn ychwanegol, mae cysondeb yn y ffordd y mae staff yn addysgu geirfa sy’n benodol i bwnc.  Mae’r ‘pecyn canllawiau i staff’ yn cynnwys syniadau a dulliau, fel defnyddio cardiau geiriau a diffiniadau a chaligramau a ddangosir isod.SandfieldsImg1

SandfieldsImg2

Mae darparu cynrychiolaeth weledol o air sy’n adlewyrchu ei ystyr wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth alluogi disgyblion i ddatblygu eu geirfa sy’n benodol i bwnc ar draws ystod eang o bynciau.

Mae adnoddau eraill yn cynnwys arweiniad i staff ar holi effeithiol sy’n defnyddio system ddosbarthu Tacsonomeg Blooms.  Mae’r arweiniad hwn wedi helpu staff i osod cwestiynau mewn gweithgareddau a thasgau sy’n gofyn i ddisgyblion ddefnyddio eu medrau darllen i ddadansoddi, cyfosod a threfnu syniadau neu wybodaeth.  Mae’r arweiniad hwn yn helpu arbenigwyr nad ydynt yn arbenigwyr Saesneg i deimlo’n hyderus ac mae’r hyfforddiant a gânt yn rhoi llawer o syniadau ac awgrymiadau ymarferol iddynt y gallant eu defnyddio i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion yn yr ystafell ddosbarth.

Mae mewnrwyd yr ysgol yn cadw ystod eang o wybodaeth y gall pob un o’r staff ei gweld yn hawdd, fel data perfformiad ar fedrau llythrennedd disgyblion.  Mae’r fewnrwyd yn cadw ystod o ddeunyddiau enghreifftiol i gefnogi staff mewn cynllunio gwersi.  Mae adnoddau defnyddiol iawn hefyd fel y gyfrifiannell oedran darllen ar-lein sy’n helpu staff i ddewis tasgau sy’n briodol heriol ar gyfer disgyblion mewn pynciau ar draws y cwricwlwm.

At ei gilydd, mae dull yr ysgol o ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion wedi cael effaith gadarnhaol iawn a nodedig ar fedrau darllen ac ysgrifennu disgyblion yn ogystal â chyfrannu’n effeithiol iawn at eu cyrhaeddiad mewn meysydd pwnc eraill.

Yr effaith ar safonau

Mae ystod helaeth o ddata perfformiad disgyblion yn dangos bod yr ysgol wedi bod yn llwyddiannus iawn yn codi safonau dros gyfnod.  Yn benodol:

  • bob blwyddyn, mae cyfran y disgyblion y mae eu hoedran darllen islaw 10 oed yn disgyn yn sylweddol wrth iddynt symud trwy gyfnod allweddol 3;
  • erbyn i ddisgyblion sefyll arholiadau TGAU, mae oedran darllen llai na 2% o ddisgyblion y nodwyd bod ganddynt anawsterau darllen islaw 10 oed;
  • llwyddwyd i leihau’r bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn eu cael;
  • gall y rhan fwyaf o ddisgyblion fanteisio ar y cwricwlwm cyfan yn fwy effeithiol a llwyddiannus;
  • mae cyfran y disgyblion sy’n cyflawni lefel 1 a lefel 2 mewn medrau cyfathrebu yn cynyddu’n gryf;
  • erbyn diwedd cyfnod allweddol 4, mae disgyblion yn gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas â’u cyrhaeddiad blaenorol a pherfformiad rhagweledig; ac
  • mae perfformiad cyffredinol ysgolion yn gyson ymhlith y gorau yn y teulu o ysgolion.

Yn yr arolygiad diweddar o’r ysgol, nododd arolygwyr fod:

‘…gwaith disgyblion yn cael ei gyflwyno’n dda a’i ysgrifennu’n dda, ac yn dangos lefelau da iawn o wybodaeth, dealltwriaeth a medrau.  Yn eu llyfrau, mae ystod eang o ysgrifennu estynedig da gyda sillafu, atalnodi a gramadeg cywir drwyddi draw.  Mae disgyblion yn dangos medrau da iawn mewn darllen er mwyn cael gwybodaeth a gallant gyflwyno’r wybodaeth hon mewn amrywiaeth eang o arddulliau.’

Mae medrau llythrennedd gwell yn cynnig buddion ehangach ychwanegol i ddisgyblion.  Dywed staff fod y rhan fwyaf o ddisgyblion wedi’u cymell yn well mewn gwersi, maent yn fwy abl i weithio’n annibynnol ac yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau.  Mae diddordeb a phresenoldeb disgyblion yn y clwb llyfrgell ar ôl yr ysgol wedi cynyddu hefyd, sydd o fudd i’w medrau ymchwil a’u gallu i ddysgu’n annibynnol.

Darllen am astudiaethau achos eraill cysylltiedig

Gall fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen am waith llythrennedd llwyddiannus ysgolion eraill, yn cynnwys:

·Ysgol Eirias, Conwy

  • Ysgol Gynradd Casllwchwr, Abertawe
  • Ysgol Gynradd Trerobart, Rhondda Cynon Taf

Myfyrio ar arfer yn eich ysgol eich hunDefnyddiwch yr astudiaethau achos i’ch helpu i fyfyrio ar arfer yn eich ysgol eich hun. 

  • Pa ddeilliannau sy’n gysylltiedig â’r astudiaeth achos hon ydych chi wedi’u cyflawni hyd yn hyn?
  • Beth yw effaith eich arfer/gweithgarwch presennol?
  • Sut ydych chi’n mesur effaith y gwaith hwn?

Gallech hefyd weld yr awgrymiadau canlynol yn ddefnyddiol wrth benderfynu beth y mae angen i’ch ysgol ei wneud i wella medrau llythrennedd disgyblion. 

Safonau

I ba raddau y caiff disgyblion help i:

  • eu medrau darllen nid yn unig yn Gymraeg neu Saesneg ond mewn gwaith ar draws y cwricwlwm hefyd;
  • datblygu a defnyddio medrau darllen lefel uwch yn hyderus ac yn gymwys ar draws y cwricwlwm;
  • ymgyfarwyddo â nodweddion gwahanol ffurfiau ysgrifennu, yn enwedig ysgrifennu ffeithiol;
  • bod yn fwy cywir wrth ddefnyddio gramadeg, sillafu ac atalnodi;
  • magu brwdfrydedd a stamina ar gyfer ysgrifennu mewn gwaith ar draws y cwricwlwm; a
  • chyflawni safonau perfformiad uwch yn gyffredinol?

Cynllunio dull ysgol gyfan

  • A yw llythrennedd yn elfen drefnu greiddiol ar gyfer cynllunio cwricwlwm sydd wedi’i seilio ar fedrau yn eich ysgol?
  • A yw staff yn cydnabod y dylid trefnu mai llythrennedd yw’r asgwrn cefn hanfodol ar gyfer pob cynllun gwaith, nid yn unig Cymraeg neu Saesneg?
  • Pa mor dda y mae staff wedi cyfuno’r fframwaith medrau anstatudol gyda gorchmynion pwnc Cwricwlwm Cenedlaethol 2008?  A oes pwyslais addas ar lythrennedd ym mhob maes?
  • Pa mor effeithiol yw’r cynllunio tymor hir, tymor canolig a thymor byr ar gyfer medrau llythrennedd ar draws y cwricwlwm?  A yw’r cynllunio hwn yn cael effaith gadarnhaol ar safonau disgyblion?
  • A oes dilyniant clir yn natblygiad medrau llythrennedd disgyblion ar draws y cwricwlwm?
  • A yw pob un o’r staff yn sicrhau bod digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio a datblygu eu medrau darllen ac ysgrifennu (yn cynnwys ysgrifennu estynedig) ar draws holl feysydd y cwricwlwm.

Addysgu ac asesu

  • Pa mor dda y mae staff yn hyrwyddo a datblygu medrau llythrennedd disgyblion wrth addysgu pynciau heblaw Cymraeg neu Saesneg? 
  • A yw dulliau addysgu yn rhoi ystyriaeth i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion mewn gwaith ar draws y cwricwlwm, fel defnyddio technegau holi, y cymorth a ddarperir gan fframiau ysgrifennu, ac ati?
  • A yw athrawon yn asesu medrau llythrennedd disgyblion ar draws holl feysydd y cwricwlwm ac nid mewn Cymraeg neu Saesneg yn unig? 
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn olrhain datblygiad medrau llythrennedd disgyblion ar draws y cwricwlwm?  A gaiff gwybodaeth ei rhannu a’i defnyddio’n effeithiol ar draws yr ysgol?
  • A yw marcio yn ystyried anghenion llythrennedd disgyblion yn ogystal â’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r pwnc?  A yw arfer marcio yn gyson ar draws yr ysgol?
  • Sut caiff disgyblion eu cynnwys mewn gwella eu medrau llythrennedd, fel cynllunio eu gweithgareddau eu hunain, gwybod sut i wella eu medrau llythrennedd a gosod eu targedau medrau llythrennedd eu hunain?

 Arweinyddiaeth a rheolaeth

  • Sut caiff datblygiad medrau llythrennedd disgyblion ar draws y cwricwlwm ei fonitro a’i arfarnu? (Pwy sy’n cymryd rhan a beth maen nhw’n ei wneud?)
  • Beth fu effaith y gweithdrefnau monitro ac arfarnu?
  • A oes gan staff y medrau sydd eu hangen arnynt i hyrwyddo llythrennedd trwy holl feysydd y cwricwlwm?  Pa HMS ar lythrennedd a gynhelir a sut mae hyn o fudd i addysgu a dysgu?
  • Sut mae datblygiad medrau llythrennedd disgyblion yn gweddu i gynllunio datblygiad a hunanarfarnu yn yr ysgol?
  • A yw disgyblion yn elwa ar y ffordd y mae eich ysgol yn gweithio gyda phobl eraill i godi safonau llythrennedd, fel yr awdurdod lleol, gyda chlwstwr eich ysgol, fel rhan o gymuned ddysgu broffesiynol (CDdB), ac ati?  A gaiff arfer dda ei rhannu ar draws pob partner? Beth arall y mae angen ei wneud?
  • Beth fu effaith y gwaith gwella ar safonau llythrennedd?  Pa welliannau y mae angen eu gwneud o hyd?