Ymateb graddedig hynod effeithiol sy’n hyrwyddo cynhwysiant yn llwyddiannus
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Coedcae yn ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg, cymysg 11-16 oed sydd wedi’i lleoli yn Nhrostre, Llanelli yn Sir Gaerfyrddin. Mae 820 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw disgyblion o’r gymdogaeth o gwmpas yr ysgol yn bennaf, ac ymhellach i ffwrdd yn nhref Llanelli. Mae tua 25% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae hyn yn uwch o lawer na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17%. Mae tua 44% o’r disgyblion yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae tua 60% o’r disgyblion ar gofrestr anghenion ychwanegol yr ysgol, sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 22%. Mae gan 4% o’r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 2%. Mae 96% o’r disgyblion o gefndir gwyn a daw’r rhan fwyaf o’r disgyblion o gartrefi sy’n siarad Saesneg. Mae nifer fach o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl ac mae tua 7% o’r disgyblion yn siarad iaith heblaw’r Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Bu’r pennaeth yn ei swydd er 2012, ac mae’r uwch dîm rheoli yn cynnwys y pennaeth, dau ddirprwy bennaeth ac uwch athro.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol
Cynhaliodd rheolwyr yr ysgol ymarfer hunanarfarnu cadarn, a oedd yn cynnwys arfarnu effeithiolrwydd gwasanaethau cynhwysiant a chymorth. Yn hanesyddol, bu nifer o ddysgwyr yn destun symudiad rheoledig neu waharddiad parhaol, neu roeddent wedi ymuno â darpariaeth arbenigol mewn UCDau yn awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin. Ar ôl ymgynghori â staff a disgyblion, daeth arweinwyr i’r casgliad bod cryfder sylweddol yn set sgiliau staff ar bob lefel yn yr ysgol a allai ganiatáu cynllunio cwricwlwm priodol a chymorth wedi’i dargedu i ddysgwyr sy’n agored i niwed. Roedd hyn yn golygu, gyda chyllid a darpariaeth briodol, y gallai mwy o ddisgyblion gynnal eu lle yn yr ysgol yn llwyddiannus heb fod angen symudiad rheoledig i ddarparwr arall.
Felly, dechreuodd yr ysgol gryfhau ei darpariaeth i ddysgwyr agored i niwed. Lluniwyd polisïau a gweithdrefnau fel eu bod yn crynhoi ethos newydd a chryfach yr ysgol o gynhwysiant. Oherwydd cyfyngiadau ariannol, bu raid i’r ysgol weithio’n galed ac yn greadigol i nodi’r hyfforddiant ac arweiniad mwyaf buddiol ac effeithiol i’w staff. Canolbwyntiodd arweinwyr ar feysydd fyddai’n darparu mwy o ddealltwriaeth i’w staff o faterion cymdeithasol ac economaidd sy’n effeithio ar eu disgyblion a’u teuluoedd. Rhoddwyd hyfforddiant i holl staff yr ysgol ar ymwybyddiaeth o ymlyniad a hyfforddiant emosiynol. Canolbwyntiodd hyfforddiant ysgol gyfan ar sicrhau bod staff yn deall pwysigrwydd empathi, goddefgarwch ac amynedd yn ystod unrhyw raglen cymorth ymddygiad, a hyfforddwyd staff ar ddulliau adferol i newid ymddygiad. Hyfforddwyd yr holl staff mewn cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a lluniodd yr ysgol becyn offer gwerthfawr yn canolbwyntio ar yr unigolyn i’r staff i’w cynorthwyo yn eu gwaith â disgyblion agored i niwed. Mabwysiadwyd polisi ysgol newydd i sicrhau y byddai unrhyw blentyn a oedd yn dechrau dangos arwyddion o anhawster emosiynol neu ymddygiadol yn gallu manteisio’n brydlon ar weithiwr allweddol o’i (d)dewis. I’r perwyl hwnnw, dewisodd nifer o aelodau staff ar bob lefel hyfforddi naill ai’n swyddogion cyswllt â theuluoedd neu’n weithwyr allweddol disgyblion. Roedd hyn yn cynnwys staff cymorth, staff gweinyddol a gweithiwr ieuenctid yr ysgol, yn ogystal ag athrawon. Mae’r gweithwyr allweddol a’r swyddogion cyswllt â theuluoedd hyn yn chwarae rhan hanfodol yng nghyfarfodydd cymorth a chynllunio Tîm o Amgylch y Teulu yr ysgol.
Disgrifiad o’r gweithgarwch
Y prif sbardun mewn hyrwyddo ethos cynhwysol yn yr ysgol yw’r ‘Polisi ac Arweiniad ar Ymddygiad ar gyfer Dysgu’. Trwy’r polisi cynhwysfawr hwn, mae’r ysgol wedi mapio’r cysylltiad uniongyrchol rhwng cynhwysiant a chymorth disgyblion, ac addysgu a dysgu wedi’u targedu. Caiff pecynnau llythrennedd a rhifedd pwrpasol eu cynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer sesiynau mentora unigol yn y boreau, sesiynau grŵp storïau cymdeithasol a grwpiau darllen ar garlam pwrpasol. Cynhelir grwpiau maethu yn gynnar yn y boreau, sy’n meithrin ymddiriedaeth rhwng disgyblion sy’n agored i niwed a’u gweithwyr allweddol sy’n oedolion. Rhoddir cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion hŷn sy’n dangos agweddau mwy negyddol tuag at ddysgu neu ddadrithiad weithio â phartneriaid sefydledig yr ysgol, er enghraifft trwy raglenni medrau sylfaenol a medrau bywyd buddiol a ddarperir gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe.
Fel rhan o’r dewisiadau yng nghyfnod allweddol 4, mae’r holl ddisgyblion yn dewis opsiwn o’r ‘Golofn Gyfoethogi’. Mae disgyblion mwy abl yn astudio cyrsiau TGAU ychwanegol, er enghraifft mewn cymdeithaseg, seicoleg neu iaith dramor fodern ychwanegol. Yn ogystal, mae ystod eang o gyrsiau galwedigaethol a chyfoethogi i ddewis ohonynt, gan gynnwys cwrs coginio a luniwyd gan gogydd enwog, profiad gwaith estynedig, medrau llawysgrifen, dal i fyny â llythrennedd a rhifedd a rhaglenni medrau cymdeithasol gwerthfawr. Mae’r opsiynau hyn yn darparu profiadau gwerthfawr i ddysgwyr sy’n agored i niwed, ac yn aml yn darparu cwricwlwm amgen hanfodol ar eu cyfer sy’n cynorthwyo eu presenoldeb yn yr ysgol pan allant ddewis peidio â mynychu fel arall.
Mae gweithiwr ieuenctid yr ysgol hefyd yn darparu cyrsiau pwrpasol i unigolion sydd ag anghenion emosiynol penodol. Mae’r ysgol wedi gweithio’n galed i feithrin llawer o bartneriaethau gwerthfawr a llwyddiannus â sefydliadau, sy’n darparu profiadau a hyfforddiant buddiol i bobl ifanc, fel Cwrs Ffenics y Gwasanaeth Tân a Phrosiect Tacl Clwb Rygbi’r Scarlets.
Mae gweithwyr allweddol yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd â lluniaeth yn ystod amser egwyl i staff addysgu’r disgyblion unigol y maent yn gyfrifol amdanynt er mwyn casglu gwybodaeth am safonau ac agweddau tuag at ddysgu ac ymddygiad. Mae proffiliau un dudalen disgyblion yn ddogfennau gweithio sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd gan weithwyr allweddol a’u rhannu â staff. Mae cynlluniau ymddygiad yn syml ac yn hylaw. Dim ond dwy adran sydd ganddynt – ‘pryderon’ a ‘telerau cytûn’. Mae’r ddwy ddogfen hyn yn ffurfio sail i’r holl drafodaethau am ddisgyblion yng nghyfarfodydd rheolaidd y Tîm o Amgylch y Teulu.
Effaith ar ddarpariaeth a safonau
Mae arweinwyr wedi canfod bod cynnal lefel gyson o ymyrraeth â ffocws, ynghyd â pherthynas gadarnhaol, gynhyrchiol â rhieni, yn arwain at gyrhaeddiad a phresenoldeb gwell, ac ymddygiad gwell i ddisgyblion y mae perygl iddynt gael eu gwahardd. Dros amser, mae’r ysgol wedi gweld gostyngiad nodedig yn nifer y gwaharddiadau am gyfnod penodol ac yn nifer y ceisiadau am symudiadau rheoledig a wneir i Banel Cymedroli’r Awdurdod Lleol. Mae’r ethos ysgol gyfan o gynhwysiant a chymorth, a’i phwyslais ar ddangos empathi tuag at bob disgybl, wedi cael effaith gadarnhaol ar les a phresenoldeb disgyblion.
Mae’r ffocws cryf ar ddatblygiad proffesiynol parhaus i athrawon a staff cymorth mewn materion cynhwysiant wedi cryfhau gallu’r ysgol i ddarparu ar gyfer y dysgwyr mwyaf bregus a heriol heb fod angen cymorth allanol. Mae staff wedi elwa ar hyfforddiant gwerthfawr a buddiol gan gyrff proffesiynol sefydledig. Er enghraifft, darparodd Ymddiriedaeth y Gofalwyr hyfforddiant ar gymorth bugeiliol, a dysgodd staff sut i gynorthwyo disgyblion y mae eu rhieni yn y carchar gan elusen Invisible Walls.