Ymagwedd ysgol gyfan at sicrhau safonau addysgu a dysgu uchel - Estyn

Ymagwedd ysgol gyfan at sicrhau safonau addysgu a dysgu uchel

Arfer effeithiol

Whitmore High School


Gwybodaeth am yr ysgol

Agorodd Ysgol Uwchradd Whitmore yn 2018 ar yr un safle ag Ysgol Gyfun y Barri. Ers hynny, cyflawnwyd prosiect trawsnewid sylweddol, gyda’r ysgol yn symud o fod yn ysgol bechgyn yn unig i fod yn ysgol gyfun, gymysg. Symudodd yr ysgol i adeilad newydd yn 2021. Mae 1082 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys tua 160 yn y chweched dosbarth. Mae tuag 20% o’r holl ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Penodwyd y pennaeth yn 2019.
 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae athroniaeth Ysgol Uwchradd Whitmore wedi’i seilio’n gadarn ar y ‘pedwar piler’ sy’n rhoi’r sylfaen ar gyfer datblygu’r plentyn cyfan, ac sy’n llunio ‘Gwerthoedd Whitmore’. Mae’r athroniaeth hon yn cael ei choleddu gan bron pob un o’r staff, sy’n gweithio i sicrhau bod disgyblion yn cael eu gwerthfawrogi ac y gwrandewir arnynt, bod y disgyblion yn cael eu trin fel unigolion a’u bod yn cael cyfleoedd addysgu da yn gyson a chyfleoedd helaeth y tu allan i wersi. Mae hyn yn eu galluogi i lwyddo yn eu dysgu ac yn meithrin eu diddordebau a’u doniau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae ymagwedd ysgol gyfan at ddysgu ac addysgu wedi cael ei defnyddio, ei chyflawni a’i gwreiddio yn Ysgol Uwchradd Whitmore. Gwnaed hyn trwy ddefnyddio ymagwedd syml, gyson, fesul cam, gan sicrhau diben a disgwyliadau clir. Nid darlithio yw dull addysgu uniongyrchol Whitmore, a disgwylir i athrawon rannu dysgu’n ‘dalpiau’ i sicrhau nad oes gormod o orlwytho gwybyddol ar gof gweithredol disgyblion. Yn dilyn y modelu cychwynnol, rhoddir tasgau strwythuredig i ddisgyblion er mwyn ymarfer defnyddio’r medrau neu’r wybodaeth newydd, gan arwain at waith annibynnol. Mae ‘modelu a sgaffaldio tuag at annibyniaeth’ yn nodweddu ‘Ffordd Whitmore’ o ddysgu ac addysgu. 

Yn Ysgol Uwchradd Whitmore, yr athro sy’n rheoli’r bwriadau dysgu. Maent yn egluro’r rhain yn glir iawn i’r disgyblion.  Mae athrawon yn arddangos trwy fodelu, yn gwerthuso trwy holi, yn mynd i’r afael â chamsyniadau ac yn darparu sgaffaldiau dysgu gyda lefelau gostyngol o gymorth hyd nes cyflawnir annibyniaeth. Addysgu uniongyrchol yw ffocws y cyfuniad hwn o ymagweddau. Ymchwil yw sylfaen yr ymagwedd at addysgu a dysgu yn Ysgol Uwchradd Whitmore a chrëwyd yr ymagwedd ar y cyd â staff. Maent yn hyderus bod y dull hwn yn cynhyrchu dysgwyr annibynnol a hyderus: 

Mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn yn eu dysgu ac yn elwa’n sylweddol o addysgu ac asesu effeithiol’ (Estyn 2022).
Mae arweinwyr o’r farn bod y ffordd hon o ddysgu yn un sy’n hyrwyddo disgwyliadau uchel a llawer o her, gan roi mynediad i unigolion at lwyddiant yn y dyfodol. Yn ogystal, mae’n cynnig glasbrint o’r hyn y mae ei angen gan athrawon i fod yn llwyddiannus yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r eglurder hwn yn rhoi’r grym i athrawon gyflwyno gwersi sy’n bodloni disgwyliadau uchel yr ysgol. Trwy roi eglurder llwyr i staff, mae’r model dysgu ac addysgu yn galluogi’r addysgu i wella’n gyflym iawn, trwy alluogi athrawon i ddatblygu meistrolaeth ar bob elfen, fel y gwelir yn y dystiolaeth yn adroddiad Estyn. 

Mae’r glasbrint clir hwn yn caniatáu i hyfforddiant staff ganolbwyntio’n fanwl ar yr elfennau o wers sy’n cael yr effaith fwyaf. Mae holl hyfforddiant y staff, gan gynnwys diwrnodau hyfforddiant mewn swydd, sesiynau briffio boreol a chymell un i un, yn canolbwyntio ar elfennau allweddol ‘gwers Whitmore’. Amcan y rhaglen gymellyn Ysgol Uwchradd Whitmore yw datblygu proses strwythuredig i alluogi trafodaethau ystyrlon rhwng cydweithwyr ar sail model dysgu ac addysgu Whitmore. Mae’r berthynas gefnogol, anfeirniadol hon, rhwng yr anogwr a’r sawl sy’n cael ei annog yn hwyluso rhannu profiad a lledaenu arfer gorau. Mae hyn yn creu diwylliant o arfer myfyriol lle mae athrawon yn agored ac yn barod i ymgysylltu â dysgu ac addysgu.

Yn ogystal, caiff yr holl aelodau staff eu hannog i gwblhau eu cymhwyster Meistr mewn Addysg (Cymru) gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd (mae 13 aelod staff wedi ymrestru ar hyn o bryd), gyda’r holl aseiniadau ymchwil ac ymholi yn canolbwyntio ar elfen o fodel Whitmore ar gyfer addysgu a dysgu. Oherwydd symlrwydd y model, gall yr holl staff fynegi’r disgwyliadau’n glir i gymheiriaid ac mae ganddynt eirfa gyffredin ar gyfer elfennau allweddol gwers. Mae’r ddealltwriaeth gyffredin hon yn arwain at gydweithredu defnyddiol a llwyddiannus. Mae’r rhaglen dysgu proffesiynol yn yr ysgol yn sylfaen i’r meini prawf gorfodol hyn i athrawon pan fyddant yn cynllunio gwersi. Mae dosbarthiadau meistr mewnol yn cefnogi datblygiad athrawon yn fuddiol trwy roi iddynt y strategaethau addysgegol a’r hyder i wreiddio model dysgu ac addysgu Whitmore.
Mae ansawdd yn cael ei sicrhau trwy bolisi ‘drws agored’ sy’n amlwg ar draws yr ysgol. Mae teithiau dysgu mynych, amserlen arsylwi drylwyr a rhaglen gymelleffeithiol yn caniatáu i arweinwyr lunio barnau cadarn am ansawdd yr addysgu a’r dysgu yn yr ysgol:
‘Mae gan uwch arweinwyr ddull tra ystyriol o gasglu tystiolaeth uniongyrchol am ansawdd yr addysgu. Mae hyn yn cynnwys arsylwi gwersi’n ffurfiol a theithiau mynych o gwmpas yr ysgol i wirio pa mor dda y mae disgyblion yn ymgysylltu â’u gwaith’ (Estyn 2022). 
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr??

Mae staff yn croesawu uwch arweinwyr ac anogwyr i’w gwersi gan fod hyder ganddynt yn yr hyn a ddisgwylir. Nid ydynt yn teimlo bod angen iddynt gynhyrchu ‘gwersi sioe’ nad ydynt yn adlewyrchu eu harfer o ddydd i ddydd. Yn hytrach, maent yn dilyn elfennau allweddol model Whitmore, gan wybod yn sicr y bydd unrhyw adborth yn cael ei gysylltu’n glir ag elfennau disgwyliedig ‘ffordd Whitmore’. 

Mae diwylliant cryf o arfer myfyriol yn Ysgol Uwchradd Whitmore, lle mae athrawon yn hapus ac yn barod i ymroi i’w dysgu eu hunain, gan wella’u haddysgu ac maent yn ymrwymo i wneud gwahaniaeth i brofiadau dysgu’r disgyblion. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn