Ymagwedd ysgol gyfan at les gan ddefnyddio model gwyddonol - Estyn

Ymagwedd ysgol gyfan at les gan ddefnyddio model gwyddonol

Arfer effeithiol

Ysgol Emmanuel


Gwybodaeth am yr ysgol   

Mae Ysgol Emmanuel yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg sydd â dau ddosbarth mynediad yn Y Rhyl. Mae’r ysgol wedi’i lleoli mewn ardal o amddifadedd lluosog ac mae dalgylch yr ysgol yn cynnwys dwy o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae 460 o ddisgyblion ar y gofrestr a 63% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer yr awdurdod lleol a Chymru. Ar hyn o bryd, mae 7% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol gydag 11 o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad. Ar hyn o bryd, mae 3% o ddisgyblion yn derbyn gofal neu wedi derbyn gofal yn y gorffennol. Mae gan yr ysgol ddarpariaeth adnoddau a ariennir ar gyfer disgyblion ag ADY, hefyd.   

Gweledigaeth yr ysgol yw: ‘fel cymuned, rydym yn dysgu, yn tyfu ac yn cyflawni gyda’n gilydd’. Prif nodau’r ysgol yw helpu pobl ifanc i ddeall sut i fod yn hapus a datblygu a chynnal eu lles emosiynol, corfforol a meddyliol eu hunain; bod yn gynhwysol; creu cymuned sy’n meithrin goddefgarwch, parch ac empathi mewn pobl ifanc; lleihau effaith tlodi ar ddeilliannau a lles ar gyfer disgyblion ac ymestyn datblygiad proffesiynol staff. Mae’r ymagwedd ysgol gyfan hon yn cyd-fynd â phob un o’r nodau hyn.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol wedi’i lleoli mewn ardal ag amddifadedd uchel, ac o’r herwydd, mae ganddi niferoedd uchel o ddisgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rhoddir blaenoriaeth i wella ymgysylltiad disgyblion a chefnogi llwyddiant addysgol ac emosiynol. Yn hanesyddol, roedd rhai disgyblion wedi cael trafferth â hunanreoli a oedd yn effeithio ar ddysgu ac ymgysylltu. Roedd niferoedd cynyddol o ddisgyblion ag anghenion dysgu eraill ac roedd angen cymorth pwrpasol arnynt i’w helpu i gyflawni. Cydnabu’r ysgol fod angen ymagwedd wahanol gan nad oedd arddull bresennol rheoli lles ac ymddygiad disgyblion yn gweithio’n effeithiol. Cytunwyd bod angen ymagwedd yn ystyriol o drawma sy’n seiliedig ar ymchwil. Byddai hyn yn galluogi staff i ddeall anghenion disgyblion a sut gallai trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fod yn rhwystr rhag dysgu a llwyddo. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch  

Ar ôl gwerthuso darpariaeth yn yr ysgol, cwblhaodd uwch aelodau ddysgu proffesiynol, a oedd yn canolbwyntio ar niwrowyddoniaeth, straen gwenwynig, theori ymlyniad ac iechyd meddwl a lles ar gyfer disgyblion. Roedd yr hyfforddiant hwn wedi’i seilio ar dystiolaeth yn esbonio effeithiau straen gwenwynig ac yn cadarnhau’r rhesymau y tu ôl i lawer o’r ymddygiad negyddol neu’r dirywiad yn iechyd meddwl disgyblion a welwyd yn yr ysgol. Gan fod angen ymagwedd ysgol gyfan ar gyfer y newid hwn mewn meddylfryd, cyflwynwyd hyfforddiant ar gyfer pob un o’r staff a oedd yn canolbwyntio ar ddefnyddio ymagweddau sy’n ystyriol o drawma, gan gynnwys theori ymlyniad ac effeithiau niweidiol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar ddisgyblion. Roedd y cynnig dysgu proffesiynol hwn hefyd yn canolbwyntio ar wahanol strategaethau i reoli a thawelu disgyblion a phwysigrwydd trefnu bod oedolyn ar gael yn emosiynol ar gyfer pob plentyn, pe bai angen.   

Cyflwynwyd ymateb graddedig ar gyfer disgyblion i ddiwallu eu hanghenion unigol gan ddefnyddio’r un ymagwedd ag ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn unol â gofynion newydd y Bil ADY. Defnyddiwyd offer asesu lles, atgyfeiriadau gan bobl broffesiynol neu geisiadau gan rieni a gofalwyr i nodi disgyblion â’r angen mwyaf dybryd am ymyrraeth. Ar ôl rhoi’r ymagwedd ar waith, estynnwyd dysgu proffesiynol i gynnwys hyfforddi staff ychwanegol mewn ymagweddau ymarferwyr sy’n ystyriol o drawma, a hyfforddwyd staff cymorth ychwanegol i gyflwyno ystod ehangach o ymyriadau lles pwrpasol, yn ogystal ag arfer cyfiawnder adferol. Recriwtiwyd therapydd chwarae cymwys, sy’n gweithio yn yr ysgol ddeuddydd yr wythnos, i gynorthwyo disgyblion â’r angen mwyaf. Trefnodd uwch arweinwyr, gan gynnwys y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CydADY), fore coffi cyfarfod a chyfarch ger gatiau’r ysgol i roi cyfle i rieni a gofalwyr fynegi unrhyw bryderon cyn i ddisgyblion ddechrau eu diwrnod ysgol. Mae staff yn cyfarfod a  chyfarch disgyblion wrth ddrws yr ystafell ddosbarth. Roedd gwiriadau dyddiol gyda disgyblion a oedd yn amharod i ddod i adeilad yr ysgol, neu a oedd angen cymorth ychwanegol i wneud hynny, yn cael eu rhoi ar waith gan y tîm lles. Roedd ci cymorth hyfforddedig yn darparu cymorth tyner a chyfeillgar i ddisgyblion. Roedd staff wedi’u hyfforddi hefyd mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl i blant a daeth yr ysgol yn destun astudiaeth achos ar gyfer rhaglen mewngymorth beilot CAMHS.   

 

ysgol emmanuel - tilly

Addaswyd polisïau, gweithdrefnau a strategaethau rheoli ymddygiad i newid ymagwedd yr ysgol at ymddygiad a lles, a chanolbwyntio ar y pethau cadarnhaol yn hytrach na’r pethau negyddol. Addaswyd amgylchedd ffisegol yr ysgol i ddiwallu anghenion disgyblion yn well a mireinio’r ymagwedd hon; cyflwynwyd corneli ymdawelu mewn ystafelloedd dosbarth a chrëwyd gofodau synhwyraidd i helpu disgyblion i reoli os oeddent yn uwch. Ailgyflwynwyd strategaethau i gynorthwyo disgyblion i reoli eu hymddygiad a chrëwyd tîm lles dynodedig i ddarparu cymorth uniongyrchol ar gyfer disgyblion. Yn dilyn yr ymagwedd hon sy’n ystyriol o drawma, bu’r ysgol yn cydweithio ag ysgolion lleol i gynorthwyo disgyblion sy’n ffoaduriaid a oedd wedi cyrraedd yr ardal yn ddiweddar ar ôl profi trawma rhyfel neu erledigaeth.  

ysgol emmanuel - garden

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Newidiodd ymagweddau’r ysgol feddylfryd staff a’u gwneud yn fwy ymwybodol o arwyddion iechyd meddwl gwael neu effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar ymddygiad ac ymgysylltiad. Galluogodd hyn uwch arweinwyr i roi’r cymorth mwyaf priodol ar waith ar gyfer disgyblion. Mae safonau wedi gwella o ganlyniad i lefelau gwell o hunanreoli ac ymgysylltiad gan ddisgyblion; yn ychwanegol, mae lefelau gwaharddiadau wedi gostwng a nifer yr achosion o ymddygiad negyddol wedi lleihau. Mae’r ysgol yn amgylchedd tawelach, ac o ganlyniad, mae disgyblion yn barod i ddysgu ac yn gallu cyflawni eu potensial. Mae lefelau presenoldeb yn dychwelyd i lefelau cyn y pandemig ac mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn derbyn gofal yn yr ysgol.