Ymagwedd ysgol gyfan at ddatblygu disgyblion i fod yn ysgrifenwyr effeithiol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae’r ysgol gynradd wedi’i lleoli ym mhentref Cwm-bach ger Aberdâr; nodwyd bod rhan o’r dalgylch yn ardal Dechrau’n Deg. Mae 247 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, o’r Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6, gyda naw dosbarth prif ffrwd yn ogystal â dau Ddosbarth Anghenion Dysgu Cymhleth a ariennir yn ganolog: un yn y Cyfnod Sylfaen, ac un yng nghyfnod allweddol 2. Mae’r ysgol yn cynnig darpariaeth feithrin amser llawn o’r mis Medi ar ôl trydydd pen-blwydd y plentyn. Mae’r ysgol yn cyflogi wyth o athrawon dosbarth cyfwerth ag amser llawn (CALl), yn ogystal â dau CALU ac athro 70%. Caiff yr aelodau staff hyn eu cynorthwyo gan 8 o Gynorthwywyr Addysgu CALl a 4.5 SNSA CALl.
Mae canran y disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim wedi cynyddu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i 21.8%. Cyfran y disgyblion y nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol yw 25.2%. Cyfran y disgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt yw 2.9%.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Cyn uno ysgol Iau, ysgol Fabanod ac ysgol Feithrin Cwm-bach, roedd Ysgol Iau Cwm-bach yn cyflwyno’r cwricwlwm llythrennedd trwy’r ymagwedd Big Writing. Er y bu ymgysylltiad disgyblion a chyfanswm yr ysgrifennu yn uchel, roedd safonau’n anghyson ar draws yr ysgol, ac roedd ansawdd gramadeg, darllen a sillafu disgyblion islaw disgwyliadau. Cwblhawyd yr holl ysgrifennu o fewn wythnos, ac felly ychydig iawn o le oedd yn y daith ysgrifennu ar gyfer datblygu neu olygu gramadeg. Trwy weithgareddau gwrando ar ddysgwyr, nodwyd bod disgyblion yn ei chael yn anodd esbonio pam roeddent yn ysgrifennu, ac nid oedd ganddynt yr eirfa i esbonio pam roeddent wedi dewis ymadroddion gramadegol neu eirfa benodol. Nododd monitro dilynol fod angen datblygu’r daith dysgu ysgrifennu i gynrychioli proses ysgrifennu awduron proffesiynol yn well, a datblygu dealltwriaeth staff a disgyblion o ramadeg, a dealltwriaeth pob un o’r staff o addysgeg effeithiol mewn ysgrifennu.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Digwyddodd y newidiadau mewn arfer ysgrifennu dros dair blynedd o ganlyniad i broses gynyddrannol a oedd yn canolbwyntio ar addysgeg a theori dysgu, yn hytrach na’r gweithgareddau eu hunain. Gwelwyd y gwelliannau mwyaf mewn meysydd lle dechreuodd hyfforddiant ag ymchwil academaidd a thrafodaethau ‘pam’ y newidiadau gyda staff.
Wedi i ysgrifennu gael ei nodi yn faes o ran gwella’r ysgol, y man cychwyn cyntaf oedd sillafu, gan fod staff yn gyfarwydd ag addysgu sillafu, ac yn rhywbeth yr oeddent yn teimlo’n gyfforddus ag ef. Cyn penderfynu ar unrhyw newidiadau, rhoddwyd cyfnodolyn academaidd i bob un o’r staff addysgu ar sillafu i’w ddarllen, a gofynnwyd iddynt adrodd yn ôl wrth weddill y staff addysgu ar eu casgliadau. Nododd y canfyddiadau fod angen ymgorffori sillafu yn y daith ysgrifennu, gan ailedrych yn rheolaidd ar ble roedd plant yn chwilio am batrymau ac eithriadau i reolau. Wedyn, treialodd athrawon wahanol ymagweddau ac adrodd yn ôl ar effaith y gwaith. Nododd yr ymchwil hon hefyd pam roedd cynlluniau sillafu a ddefnyddiwyd yn y gorffennol wedi methu codi safonau, gan nad oeddent yn cael eu hintegreiddio i’r daith ysgrifennu, ac felly nid ydynt yn creu cysylltiadau rhwng dysgu.
Mewn cydweithrediad ag ymgynghorydd llythrennedd, datblygwyd taith ddysgu deilwredig am ddeg diwrnod ar gyfer ysgrifennu a oedd yn cynrychioli proses ysgrifennu awduron proffesiynol yn well. Roedd y daith hon yn cynnwys bachau, lefel geiriau a diwrnodau llafaredd a ffocws penodol ar ramadeg, sillafu a golygu. Ar gyfer pob diwrnod yn y daith, datblygwyd cronfa o adnoddau ac ychwanegwyd ato yn barhaus. Yn ystod y flwyddyn nesaf, cyflwynwyd hyfforddiant staff ar bob maes o’r daith ddysgu, a gwnaed safoni rheolaidd rhwng grwpiau blwyddyn er mwyn gwella cysondeb a safonau.
Fel y nodwyd trwy drafodaethau â staff, craffu ar lyfrau ac arsylwadau gwersi, codwyd safonau ym mhob maes heblaw gramadeg. Datblygwyd rhaglen gynhwysfawr o wella gramadeg i gefnogi dealltwriaeth staff a disgyblion o ramadeg, a sut y gellid ei addysgu’n effeithiol. Canolbwyntiodd y ddwy sesiwn ramadeg gyda’r nos ar feithrin dealltwriaeth staff o ramadeg, a magu eu hyder yn y maes. Roedd hyn yn cynnwys sut i nodi a defnyddio dosbarthiadau geiriau, mathau o frawddegau, gwahaniaethau mewn iaith ffurfiol ac anffurfiol, ac enghreifftiau o sut mae gramadeg yn esblygu ac y dylai eithriadau gael eu harchwilio gan ddisgyblion, nid eu hosgoi. Canolbwyntiodd y tair sesiwn oedd yn weddill ar addysgeg gramadeg ac roedd yn cynnwys trafodaethau staff ar weithgareddau effeithiol ac aneffeithiol ar-lein ac, mewn gwerslyfrau, sut i integreiddio addysgu gramadeg i daith ddysgu, a disgwyliadau ym mhob cam cynnydd. Roedd pob un o’r staff addysgu a’r staff cymorth yn bresennol yn yr hyfforddiant i sicrhau bod negeseuon a hyfforddiant yn gyson, a recordiwyd y sesiynau hyn er mwyn i aelodau staff newydd allu manteisio ar yr hyfforddiant. Datblygwyd map gramadeg o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 6 er mwyn nodi disgwyliadau cyffredin, ac fe gafodd athrawon eu grymuso i wahaniaethu’r gwaith yn dibynnu ar gyflawniad blaenorol y disgyblion. I gefnogi ysgrifennu disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), darparwyd hyfforddiant sgaffaldio i bob un o’r staff. Roedd hyn yn cynnwys sut i flaenlwytho gwybodaeth, a sut i ddefnyddio offer fel tablau amnewid i gefnogi annibyniaeth.
Nododd ymchwil academaidd a wnaed gan staff ei bod yn bwysig i blant ysgrifennu lluniadau fel sillafu a gramadeg yn eu cyd-destun. Gweithiodd athrawon gyda’i gilydd i ddeall sut i ysgrifennu testunau model a oedd yn darparu’n benodol ar gyfer anghenion y plant, ac a oedd yn cynnwys y sillafu a’r gramadeg a fyddai’n cael eu hastudio yn y pythefnos ysgrifennu.
Cyfrannodd yr holl hyfforddiant hwn at ymagwedd gyfannol at addysgu ysgrifennu, lle mae pob cam wedi’i seilio ar egwyddorion addysgegol ac ymchwil academaidd. Mae addysgu ysgrifennu yn awr yn dechrau â’r model, lle mae athrawon yn nodi’r dyfeisiau sillafu, gramadeg a llythrennedd sydd eu hangen i addysgu’r darn hwnnw o ysgrifennu. Rhennir y model hwn ar ddechrau’r daith ddysgu ac mae’r pythefnos yn cynnwys gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio’n benodol i gynorthwyo ag ysgrifennu’r darn hwnnw, yn hytrach na gweithgareddau ynysig ac anghymesur nad ydynt yn cyfeirio at y model neu’r darn ysgrifennu terfynol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Gan fod cronfa a rennir o eirfa a gweithgareddau wedi cael ei ddatblygu trwy’r hyfforddiant, mae staff yn fwy hyderus yn awr yn trafod yr addysgeg a’r termau gramadegol. Trwy fonitro parhaus a thrafodaethau rhwng staff, nodwyd bod staff yn cynnal gormod o weithgareddau gramadeg ac yn esgeuluso rhannau eraill o’r daith ddysgu. Helpodd safoni a chymorth cymheiriaid y staff i gael cydbwysedd yn y daith ddysgu i sicrhau, tra bod hyblygrwydd yn eu hymagwedd, yr eir i’r afael â’r holl elfennau sydd eu hangen i’r disgyblion fod yn ysgrifenwyr effeithiol.
Mae ysgrifennu bron pob un o’r disgyblion yn fwy anturus a gall plant ddisgrifio eu taith ddysgu yn gliriach. Maent yn fwy myfyriol o ran y ramadeg y maent yn ei defnyddio ac yn dechrau cyfiawnhau eu dewisiadau gramadeg. Gan fod athrawon yn fwy hyderus yn deall beth mae brawddegau’n ei gynnwys a sut i adnabod gweithgareddau sy’n annog camdybiaethau, gall mwy o ddisgyblion ddiffinio brawddegau yn hyderus a defnyddio ystod ehangach o atalnodi. Mae llawer o blant bellach yn fwy annibynnol yn eu hysgrifennu ac yn llai dibynnol ar gronfeydd o eiriau a brawddegau, gan ddefnyddio offer sgaffaldio yn hytrach i ysgrifennu’n annibynnol. Mae annibyniaeth disgyblion, yn enwedig disgyblion ag ADY, wedi cynyddu, gan alluogi pob un o’r staff i gefnogi ysgrifennu disgyblion, yn hytrach na threulio amser yn eu hannog i ysgrifennu. Mae staff a disgyblion ar draws yr ysgol yn fwy hyderus o lawer yn ysgrifennu, ac mae’r brwdfrydedd am ysgrifennu wedi galluogi diwylliant o welliant parhaus a syniadau newydd.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r ymagwedd at ysgrifennu wedi cael ei rhannu ag ysgolion y clwstwr, lle rhoddwyd cyfle i benaethiaid ac arweinwyr pwnc ymweld â’r ysgol i weld yr ymagwedd ysgrifennu ar waith. Mae’r Dirprwy Bennaeth wedi ymddangos ar Bodlediad Llythrennedd Consortiwm Canolbarth y De ac wedi cael gwahoddiad i gyfrannu at bodlediadau gan Ymgynghoriaethau Addysg ledled De Cymru. Mae’r ysgol yn cynnal diwrnodau agored ac yn darparu hyfforddiant i arweinwyr llythrennedd, i gefnogi datblygiad taith gramadeg a llythrennedd.