Ymagwedd wahanol at ADY - Estyn

Ymagwedd wahanol at ADY

Arfer effeithiol

Cardiff Muslim Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Cardiff Muslim Primary School yn ysgol ffydd annibynnol yn ardal Cathays yng Nghaerdydd. Mae’n ysgol deuluol hapus sy’n gwasanaethu’r gymuned Islamaidd leol yn llwyddiannus. Nod yr ysgol yw ‘meithrin modelau rôl sy’n emosiynol ddeallus ac yn foesol ddyrchafol sy’n dyheu am ragori’n academaidd ac yn ymdrechu am ragoriaeth.’ Mae rhan o weledigaeth yr ysgol yn ymwneud â ‘hyrwyddo cymeriad a gwerthoedd dynol rhagorol’ ac yn dyheu i’w disgyblion ‘fod yn ddinasyddion delfrydol ac arweinwyr y dyfodol’. Mae staff yn blaenoriaethu lefel uchel o ofal a chymorth ar gyfer eu disgyblion. Mae gan yr ysgol ffocws cryf ar ddatblygu disgyblion i fod yn ddinasyddion parchus a chyfrifol.

Daw disgyblion o gefndiroedd amrywiol ac mae gan yr ysgol nifer uwch na’r cyfartalog o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, gan gynnwys y rhai sy’n newydd i’r wlad a’r ddinas. Mae nifer o deuluoedd yn symud i Gaerdydd dim ond er mwyn mynychu’r ysgol.
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Effeithiodd pandemig COVID-19 ar gynnydd disgyblion mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Cafodd disgyblion eu heffeithio’n uniongyrchol yn gorfforol ac yn emosiynol, a chawsant wahanol lefelau o gymorth gyda’u dysgu gartref. 

Heriau:

  • Pan ddychwelodd disgyblion i’r ysgol, roedd y bwlch rhwng disgyblion yn yr un grŵp blwyddyn yn anferth. Daeth athrawon o hyd i weithgareddau cyfatebol i ddiwallu anghenion disgyblion yn effeithiol, a oedd yn eithriadol o heriol. 
  • Nid oedd sawl disgybl ym Mlwyddyn 3 a Blwyddyn 4 yn gallu darllen yn ddigon effeithiol eto i allu elwa ar y cwricwlwm. Roedd hyn yn cael effaith negyddol ar eu lles a’u hymddygiad yn y dosbarth. Ar yr adeg hon, nid oedd yn glir a oedd yr anawsterau hyn o ganlyniad i anawsterau dysgu penodol sylfaenol, neu o ganlyniad uniongyrchol i fod i ffwrdd o’r ysgol am gyfnodau hir o ganlyniad i COVID-19.
  • Nid oedd gan ddisgyblion hyder, ac roeddent yn dibynnu’n fawr ar yr athro ac unrhyw staff cymorth er mwyn cwblhau tasgau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Cyflogwyd athro arbenigol allanol annibynnol yn rhan-amser gan yr ysgol fel eu Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY). Mae hyn wedi gwella’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn sylweddol mewn llawer o ffyrdd. Mae hyn wedi cynnwys sgrinio arbenigol cywir a diagnosis o ddisgyblion ag anawsterau dysgu penodol. Sicrhaodd darpariaeth dargedig o ansawdd uchel fod llawer o’r disgyblion hyn yn gwneud cynnydd cyflym ac yn magu eu hyder fel dysgwyr. Hefyd, mae’r ysgol yn cyflogi cynorthwyydd addysgu ymyrraeth, ac, ar y cyd â’r CydADY ac athrawon dosbarth, maent wedi cyflwyno a darparu amrywiaeth o ddulliau addysgu arloesol.
Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Sefydlu grwpiau ymyrraeth Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4, wedi eu rheoli gan athro arbenigol sy’n CydADY ac wedi eu cyflwyno gan y cynorthwyydd addysgu ymyrraeth. Mae sesiynau wedi cwmpasu llythrennedd a mathemateg, ac er eu bod wedi parhau i ddilyn cynlluniau athrawon, ar y cyfan, cawsant eu haddasu i ddiwallu anghenion disgyblion. Roedd staff yn cynnwys sesiynau amlsynhwyraidd, gan gynnwys strategaethau ymarferol ac uniongyrchol i rannu cysyniadau er mwyn mynd i’r afael â bylchau yn nealltwriaeth disgyblion. Roedd staff yn deall ei bod yn bwysig iawn fod y dysgu y tu allan i’r dosbarth nid dim ond yn ailadrodd yr hyn yr oedd y disgybl eisoes yn cael trafferth ag ef yn y dosbarth. 
  • Roedd athro arbenigol yn targedu cymorth ymyrraeth ddwywaith yr wythnos ar gyfer disgyblion oedd yn cael anawsterau darllen. Canolbwyntiodd sesiynau ar ddatblygu medrau llythrennedd, strategaethau annibynnol a magu hyder mewn dysgu o’r newydd.
  • Sefydlodd yr ysgol system drylwyr ar gyfer nodi anawsterau dysgu penodol yn gynnar, a gwnaeth atgyfeiriadau i weithwyr proffesiynol eraill yn brydlon. Mae staff yn ‘sgrinio’ disgyblion sydd mewn perygl o fod â dyslecsia, ac fe gânt eu hasesu gan yr athro arbenigol sy’n CydADY. Mae staff ADY yn rhannu eu canfyddiadau a’u hadroddiadau manwl ag athrawon dosbarth ac yn eu cynorthwyo i roi argymhellion ar waith.
     

Roedd dulliau arloesol yn cynnwys

  • ‘Look Books’ i annog disgyblion i fod yn fwy annibynnol yn eu dysgu. Mae Look Books yn gweithredu fel cronfa gyfeirio weledol unigryw plentyn. Mae Look Books personol yn fwy cynnil na chyfeiriadau gweledol ar wal mewn dosbarth, a chan eu bod yn symudol, yn gallu mynd gyda’r disgybl i ble bynnag y mae’n dysgu. Mae staff yn annog disgyblion i gymryd perchnogaeth o’u Look Book, ac yn gallu ychwanegu unrhyw beth yr hoffent ato. Gallai hyn gynnwys lliwio, gemau, rhestrau gwirio, tablau lluosi, cymhorthion cofeiriol, geiriau amlder uchel / testun, ac ati. Pan na fydd angen eitem ar ddisgybl mwyach, gall ddileu’r eitem yn hawdd.
  • Fframiau ysgrifennu â chodau lliw fel rhan o’r broses ysgrifennu. Mae ysgrifennu yn faes anhawster ar gyfer bron pob un o’r disgyblion yn y grŵp ymyrraeth. Mae gan ddisgyblion lawer o syniadau ond yn ei chael yn anodd cofnodi’r rhain ar bapur. Nid oes gan ddisgyblion yr hyder i ysgrifennu’n seinegol, ac maent yn cael trafferth â’r cynllunio ac agweddau trefniadaethol ar ysgrifennu. Dyluniodd staff system codau lliw, y maent wedi’i hymgorffori yn y broses ysgrifennu ar draws yr ysgol.
  • Brain Talk – mae disgyblion yn dysgu am yr ymennydd, a staff yn eu hannog i fyfyrio ar waith eu hymennydd eu hunain. Mae datblygu strategaethau wedi’u seilio ar gryfderau (meta-wybyddiaeth) yn faes ffocws yn y grŵp ymyrraeth. Mae hyn yn rhywbeth yr hoffai staff ei ddatblygu ymhellach ar draws yr ysgol gyfan er mwyn parhau i feithrin yr ethos cynhwysol yn yr ysgol.

Cyfeiriadau allanol

Gall ysgolion annibynnol gael trafferth ysgogi atgyfeiriadau ar gyfer disgyblion y maent yn pryderu amdanynt. Fodd bynnag, roedd rhoi llythyr i rieni gan athro arbenigol yn ddull llwyddiannus o sicrhau atgyfeiriadau i feddyg teulu. O ganlyniad i’r dull hwn, canfuwyd bod gan chwe disgybl ym Mlynyddoedd 3 a 4 anghenion penodol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r grŵp ymyrraeth wedi dangos bod llawer o ddisgyblion ag ADY yn gwneud cynnydd rhagorol pan mae’r ysgol wedi nodi eu hanghenion dysgu penodol, ac wedi mynd i’r afael â nhw. Mae rhoi darpariaeth grŵp llai i ddisgyblion yn helpu llenwi bylchau yn eu dysgu. Mae staff yn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu strategaethau annibynnol i’w galluogi i deimlo’n fwy hyderus. Trwy nodi anawsterau dysgu penodol sylfaenol yn brydlon, mae staff yn helpu sicrhau eu bod yn adnabod anghenion disgyblion ar draws yr ysgol ac yn rhoi addasiadau ar waith. Mae ymyriadau targedig yn cefnogi, yn monitro ac yn dathlu cynnydd ychwanegol yn agos yn briodol.

Roedd lefelau llythrennedd isel yn benodol yn cael effaith niweidiol ar ddysgu disgyblion ar draws pob maes pwnc. Mae disgyblion a fynychodd y grŵp ymyrraeth wedi gwneud cynnydd rhagorol mewn llythrennedd, sydd yn ei dro wedi eu galluogi i allu dysgu’n fwy effeithiol ar draws yr holl feysydd pwnc.

Datblygiad staff

Mae’r ysgol yn gweithio’n galed i ddarparu amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol ar gyfer disgyblion a staff, lle maent yn dathlu ac yn cydnabod cryfderau disgyblion. Mae hefyd yn hanfodol i feithrin ymhlith yr holl ddisgyblion y syniad fod pawb yn wahanol ac yn dda yn gwneud gwahanol bethau. Mae’r ysgol yn gweithio’n galed i sicrhau eu bod yn cynorthwyo pob un o’r disgyblion i ddeall sut maent yn dysgu, a gallant adnabod meysydd y mae arnynt angen cymorth â nhw. 

Yn dilyn sawl sesiwn hyfforddi staff a grŵp ar-lein yn ymwneud yn benodol ag ADY, mae staff ar draws yr ysgol yn datblygu eu dealltwriaeth o anghenion dysgu ychwanegol yn barhaus, ac o ganlyniad, maent bellach yn nodi a chynorthwyo disgyblion yn gynharach yn eu haddysg. Mae ystafelloedd dosbarth wedi dod yn fwy cynhwysol, ac mae arweinwyr yn annog agweddau cadarnhaol tuag at wahanol arddulliau dysgu.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae gan yr ysgol berthynas dda â sawl ysgol annibynnol leol arall, ac maent yn rhannu unrhyw wybodaeth ddefnyddiol, newyddion perthnasol ac arfer arloesol yn rheolaidd. Hefyd, gweithiodd staff yn uniongyrchol gydag ysgol annibynnol yn Birmingham i sefydlu system debyg o ran darpariaeth a phrosesau ADY ar ôl gweld effaith gadarnhaol dull llwyddiannus yr ysgol o gynorthwyo disgyblion ag ADY.