Y rhesymeg ar gyfer panel darpariaeth a chymorth yr ysgol, a’i effaith - Estyn

Y rhesymeg ar gyfer panel darpariaeth a chymorth yr ysgol, a’i effaith

Arfer effeithiol

St Christopher’s School


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Cydnabu’r corff llywodraethol a’r uwch dîm arweinyddiaeth y newidiadau cyflym yng nghymhlethdod anghenion disgyblion yn mynychu Ysgol Sant Christopher. Roedd gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018 a’r Cwricwlwm i Gymru yn golygu bod angen i’r ysgol ddatblygu ei chymorth ar gyfer lles disgyblion yn gyflym, yn ogystal â dysgu proffesiynol staff i reoli’r heriau hyn.

Roedd yr uwch dîm arweinyddiaeth yn ymwybodol iawn o oblygiadau’r diwygiadau addysg ac eisiau sicrhau bod cymorth ac arweiniad arbenigol ar gael i bob un o’r staff i’w cefnogi trwy’r newidiadau.

Roedd y pennaeth eisiau grymuso staff i sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar gyngor ac arweiniad arbenigol amserol i ddiwallu anghenion eu disgyblion yn eu dosbarth. Mae sefydlu’r tîm lles, ymestyn darpariaeth fewnol a threfnu panel cymorth yn sicrhau bod staff yn gallu gofyn am gyngor, cymorth ac arweiniad ychwanegol mewn ffordd adeiladol. O ganlyniad, mae disgyblion yn derbyn cymorth ac ymyriadau amserol, ac mae hyn wedi cryfhau atgyfeiriadau i asiantaethau allanol yn ddiweddarach ar ôl disbyddu holl gymorth mewnol yr ysgol.

Mae’r ysgol mewn sefyllfa gryfach erbyn hyn i gynorthwyo disgyblion, rhieni a staff wrth i garfan y disgyblion newid yn sylweddol a gweithredu’r diwygiadau addysg.

Sut gwnaethom ni hyn?

Yn 2019, arweiniodd penodi pennaeth newydd at ailstrwythuro’r uwch dîm arweinyddiaeth yn yr ysgol. Roedd y ffocws cychwynnol ar ddatblygu tîm lles cyffredinol i gefnogi cymuned yr ysgol. Ffurfiwyd y tîm o amgylch swyddog cyswllt teuluoedd, arweinydd presenoldeb ac ymgysylltu a chydlynydd gofal iechyd. Ymestynnwyd hyn yn ddiweddarach i gynnwys cydlynydd iechyd meddwl. Mae’r tîm cyffredinol yn gweithio gyda’i gilydd yn dda i ddarparu’r cyswllt cyntaf yn yr ysgol ar gyfer teuluoedd. Maent yn ymateb i anawsterau o ran presenoldeb, ymholiadau am yr ysgol a phroblemau mewn ystafelloedd dosbarth, ac yn gweithio’n agos gyda theuluoedd newydd wrth iddynt gynefino yn yr ysgol.

Yn 2021-2022, ehangodd y tîm lles i gynnwys ymarferwyr arbenigol i gynorthwyo disgyblion a staff yn yr ysgol. Roedd hyn yn cynnwys penodi therapydd lleferydd ac iaith, seicolegydd addysg cynorthwyol, dadansoddwyr ymddygiad a therapydd galwedigaethol gan yr ysgol.

Mae’r ysgol yn hwyluso panel darpariaeth a chymorth mewnol bob mis sy’n cael ei gadeirio gan y pennaeth. Gall staff yr ysgol gyfeirio at y panel darpariaeth a chymorth i ofyn am gymorth ac arweiniad ychwanegol wrth iddynt gynllunio i ddiwallu anghenion eu disgyblion yn y dosbarth. Mae’r panel darpariaeth a chymorth yn dod â’r tîm arbenigol at ei gilydd i drafod yr holl atgyfeiriadau, penodi gweithiwr proffesiynol arweiniol i gynorthwyo staff a thrafod strategaethau ychwanegol i gefnogi. Mae’r tîm arbenigol yn gweithio’n agos gyda staff, disgyblion a theuluoedd i asesu ein disgyblion, rhoi cyngor a modelu sut orau i ddiwallu anghenion. Mae’r panel darpariaeth a chymorth yn cefnogi atgyfeiriadau i asiantaethau allanol hefyd i gefnogi, yn ôl yr angen.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau?

Mae cyflwyno’r tîm cyffredinol a’r tîm lles arbenigol a’i gydlynu trwy’r panel darpariaeth a chymorth wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ddisgyblion, teuluoedd a staff yn yr ysgol.

Mae cyfleoedd i drafod a rhannu syniadau yn ogystal â dysgu proffesiynol teilwredig gan y tîm lles arbenigol yn golygu bod staff yn teimlo’n fwy hyderus yn diwallu ac yn cynllunio ar gyfer anghenion disgyblion ag amrywiaeth o anghenion ychwanegol cymhleth. Mae gallu manteisio ar y cymorth hwn a modelu strategaethau mewn modd amserol yn magu hyder a medrau staff i ddiwallu anghenion carfan sy’n newid yn Ysgol Sant Christopher.

Mae disgyblion wedi elwa ar gymorth amserol ac arbenigol mewn amgylchedd y maent yn teimlo’n ddiogel ynddo. Bu ffocws penodol ar ddiweddaru proffiliau cyfathrebu a dysgu disgyblion cyn iddynt adael yr ysgol, gan olygu bod y cyfnod pontio yn fwy esmwyth a dilyniant wedi’i gynllunio’n well.

Gall rhieni a gofalwyr droi at y tîm yn rheolaidd, gan roi mwy o strategaethau cymorth a modelu iddynt eu defnyddio gartref.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer?

Mae Ysgol Sant Christopher wedi gweithio gydag ysgolion uwchradd eraill yn Wrecsam i rannu eu harbenigedd, eu cyngor a’u cymorth.

Mae’r ysgol yn cynnal nosweithiau gwybodaeth yn rheolaidd ar gyfer rhieni a gofalwyr lle mae’r tîm lles yn arwain ac yn hwyluso gwybodaeth a sesiwn anffurfiol yn seiliedig ar adborth gan deuluoedd.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn