Y Gymraeg a’i Diwylliant o fewn dysgu yn y gwaith

Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr
Mae Coleg Cambria yn goleg addysg bellach mawr yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae ganddo bum campws ar draws Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae’r campysau sy’n cael eu defnyddio gan Coleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy, Iâl yn Wrecsam, Ffordd y Bers yn Wrecsam, Llysfasi a Llaneurgain. Mae’r Coleg wedi ymrwymo’n llawn i hyrwyddo’r Gymraeg ac yn rhoi’r Gymraeg yn ganolog i’w strategaeth ar draws y coleg. Mae gwella darpariaeth Gymraeg yn darged gorfodol o fewn y Cynlluniau Gwelliant Parhaus ar gyfer pob maes ar draws y coleg.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Cydnabu arweinwyr yn y coleg fod ei leoliad daearyddol ger y ffin â Lloegr yn creu angen clir am strategaethau arloesol i ymgorffori’r Gymraeg a’i diwylliant yn llawn mewn darpariaeth prentisiaethau.
Roedd llawer o brentisiaid sy’n siarad Cymraeg yn rhugl yn betrusgar i wneud eu hasesiadau yn y Gymraeg yn y gorffennol, ac nid oedd nifer sylweddol o ddysgwyr yn amgyffred bod y Gymraeg yn berthnasol i ddilyniant gyrfa eu prentisiaeth.
Nid oedd staff sy’n meddu ar fedrau Cymraeg cyfyngedig, os o gwbl, yn hyderus i gefnogi dysgu dwyieithog ac ymgorffori’r Gymraeg a’i diwylliant o fewn eu harfer. Yn aml, nid oedd gan staff sy’n siarad Cymraeg yn rhugl yr hyder i gyflwyno dysgu neu gynnal asesiadau yn Gymraeg.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae’r coleg wedi datblygu cwrs ar y Gymraeg a’i diwylliant y mae’n ofynnol i bob prentis ei gwblhau. Mae’r cwrs yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r modd y mae’r Gymraeg yn fedr gwerthfawr ar gyfer cyflogaeth, ac yn rhoi manteision dwyieithrwydd yn eu cyd-destun. Mae hefyd yn darparu sylfaen bwysig i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth ymhellach ac yn eu cyfeirio at gyfleoedd ychwanegol i ymestyn eu medrau, gan gynnwys cyrsiau ‘Prentis iaith’ a ‘Dysgu Cymraeg’.
Mae’r darparwr wedi cyflwyno system olrhain fanwl i fonitro cynnydd dysgwyr sy’n siarad Cymraeg yn rhugl o’r adeg y maent yn cofrestru, gan sicrhau eu bod yn cael eu hannog a’u cynorthwyo i barhau i astudio yn Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae’n ofynnol i ddysgwyr iechyd a gofal sydd wedi astudio yn Gymraeg yn y gorffennol gwblhau o leiaf 50% o’u hasesiadau yn Gymraeg fel mater o drefn a rhaid iddynt ‘eithrio’u hunain’ o ddysgu dwyieithog.
Mae arweinwyr y coleg wedi integreiddio anghenion hyfforddi staff o ran y Gymraeg yn llawn yn Rhaglen Dysgu Proffesiynol y coleg. Caiff yr anghenion hyn eu nodi trwy asesiadau Cymraeg, arsylwadau sesiynau, a’u trafod yn ystod cyfarfodydd un i un. Mae’r adran Gymraeg yn cyflwyno sesiynau teilwredig ar ymgorffori’r Gymraeg a’i diwylliant fel rhan o’r cynnig dysgu proffesiynol. Mae hyn yn rhoi’r offer i staff gefnogi dysgu dwyieithog ac integreiddio’r Gymraeg a’i diwylliant yn llawn yn eu harfer, gan gynnwys cyfeirio at adnoddau sy’n benodol i bwnc. Gall staff hefyd fanteisio ar ddarpariaeth Dysgu Cymraeg y coleg a dilyn cyrsiau wythnosol ar amrywiaeth o lefelau.
Mae’r darparwr wedi cyflwyno cynllun peilot cymhellol, sef ‘Addysgwr Dwyieithog’, i gynorthwyo aseswyr ac athrawon i gyflawni’r lefelau hyfedredd angenrheidiol yn y Gymraeg i gyflwyno’n ddwyieithog. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys taliad anogaeth ar gyfer staff sydd eisoes yn hyderus ac yn cyflwyno’n ddwyieithog, yn ogystal â chyrsiau Cymraeg wythnosol ar gyfer staff sydd eisiau magu hyder, a darperir ysbaid iddynt fynychu.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
- Mae bron pob un o’r dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth well o’r Gymraeg a’i diwylliant
- Cadarnhaodd 95% o ddysgwyr yn arolwg dysgwyr y darparwr eu bod yn cael cyfle i ddatblygu eu medrau Cymraeg
- Cyfleoedd cynyddol i bob un o’r dysgwyr mewn iechyd a gofal, gofal plant, garddwriaeth ac amaethyddiaeth wneud asesiadau yn Gymraeg neu ddilyn eu rhaglen yn ddwyieithog.
- Cefnogir dysgwyr i ddatblygu mwy o hyder yn defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, ac mae 84% o gyflogwyr yn yr arolwg cyflogwyr yn cytuno bod y coleg yn cynnig cyfleoedd hyfforddi yn Gymraeg ar gyfer eu prentisiaid.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae Coleg Cambria yn rhannu ei arfer trwy gyfarfodydd â darparwyr prentisiaethau eraill a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.