Y ffordd mae’r ysgol yn ysgogi ymdeimlad o berthyn i’r ysgol a sut mae hyn yn dylanwadu ar y lefelau uchel o les a phresenoldeb. - Estyn

Y ffordd mae’r ysgol yn ysgogi ymdeimlad o berthyn i’r ysgol a sut mae hyn yn dylanwadu ar y lefelau uchel o les a phresenoldeb.

Arfer effeithiol

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd


Cefndir

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ysgol Gymraeg yn awdurdod Penybont. Mae oddeutu 683 o ddisgyblion yn yr ysgol, tua 118 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae bron i 16% o’r disgyblion yn gymwys i brydau ysgol am ddim, sydd yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 20.2%. Mae tua 30% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn y cartref. 

Strategaeth

Wrth ymateb i  anghenion bugeiliol disgyblion, a lefelau is o bresenoldeb yn dilyn cyfnod COVID, aeth yr ysgol ati i ehangu ei darpariaeth lles a chynhwysiant er mwyn lleihau ar y rhwystrau posib rhag i ddisgyblion dderbyn mynediad llawn i’w haddysg. Crëwyd Tîm Cynhwysiant a Lles pwrpasol o dan ofal aelodau’r uwch-dîm arwain. Bu trafodaethau gyda rhanddeiliaid amrywiol er mwyn cryfhau gweledigaeth yr ysgol a’r clwstwr. Yn y trafodaethau hyn, adeiladwyd ar ethos ‘Tîm Llan’ a ‘Theulu Llan’ i sicrhau bod pob aelod o gymuned Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn teimlo’n gyfforddus i fod yn bresennol. Y dyhead oedd i sicrhau bod pawb  yn deall eu rolau a chyfrifoldebau er mwyn cadarnhau yr ymdeimlad o berthyn i’r ysgol trwy ffocysu ar les.  

Beth wnaeth yr ysgol

Sefydlwyd Tîm Cynhwysiant a Lles gyda chyfrifoldebau pendant, gan gydweithio ar bob lefel, megis angenion dysgu ychwanegol (ADY), dysgu ac addysgu, diogelu, a lles. Trefnwyd cyfarfodydd rheolaidd a hyfforddiant priodol i bob aelod o’r tîm iddynt allu cynorthwyo anghenion penodol disgyblion/grwpiau o ddisgyblion ac er mwyn sicrhau cysondeb cytunwyd ar ganllawiau ymateb graddedig.  

Buddsoddodd yr ysgol mewn meddalwedd i greu systemau cytûn i rannu gwybodaeth perthnasol. Trefnwyd hyfforddiant trylwyr fel bod pob aelod o staff yn cael mynediad i drosolwg cynhwysfawr pob disgybl a bod ganddynt strategaethau cyfredol er mwyn ymateb i’w hanghenion.  

Wrth gynllunio, creu a darparu sesiynau boreol bugeiliol (gwasanaethau, Lles Llun a Chodi Llais) gyda’u tiwtoriaid, anogwyd pob un o’r disgyblion i fyfyrio ar eu hymdeimlad o berthyn a thrafod eu profiadau a theimladau yn yr ysgol ac o fewn y gymuned leol. I ymateb i’r adborth ac anghenion cynyddol y disgyblion, cytunwyd, gyda chefnogaeth y llywodraethwyr, i greu ‘Llannerch’, sef ardal sy’n sicrhau man diogel i ddisgyblion drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt tu fewn neu thu allan i’r ysgol gyda staff penodol. Mae ‘Llannerch’ yn caniatáu i ddisgyblion dderbyn ymyraethau amrywiol (e.e. mentora, ELSA, rhaglen gefnogi lles emosiynol a iechyd meddwl, llythrennedd a rhifedd, a chefnogaeth emosiynol). Yn ogystal, defnyddir yr ardal yn effeithiol wrth ail-gyflwyno disgyblion gorbryderus i’r ysgol, gan gynnig cwricwlwm addasedig dros dro i’w hymgartrefu yn ôl i fywyd llawn yr ysgol.   

Mewn ymateb i broblem genedlaethol o bresenoldeb isel yn sgil COVID, datblygwyd rôl Pennaeth Cynorthwyol Cynhwysiant a Lles a phenodwyd Uwch Swyddog Cefnogaeth Arbenigol i gyd-weithio yn wythnosol gyda Swyddog Addysg Lles y sir. Maent yn gweithredu system dracio trylwyr ar draws yr ysgol fel bod modd adnabod unrhyw bryderon yn gynnar ac i ymateb yn syth (er enghraifft, drwy gyswllt gyda rhieni wyneb i wyneb/galwad ffôn; cyfeiriadau i wasanaethau cymdeithasol; gweithredu cwricwlwm amgen dros dro; cyfeiriadau mentora a chwnsela; trafodaethau mewn gwasanaethau, a chwricwlwm amgen hir dymor- EOTAS/prentisiaethau).   

Mae pob aelod o ‘Dîm Llan’ yn ymwybodol o’r systemau ac yn hyderus o’u defnydd a’u rôl nhw wrth gyfrannu at gefnogi pawb ar draws yr ysgol. Golyga hyn hefyd bod cefnogaeth addas mewn gwersi ac ymyraethau yn cefnogi pob unigolyn i fod yn bresennol yn yr ysgol er mwyn iddynt gael mynediad llawn i’w haddysg.   

Mae’r tracio a chyfathrebu’n gyson, trwy gynlluniau cynnydd unigol a data presenoldeb, yn sicrhau bod yr ysgol yn ymwybodol o unrhyw rwystrau neu anghenion yn syth, gan gynnwys rhai disgyblion ysgolion cynradd y clwstwr. O ganlyniad i’r strategaethau a chyda pharodrwydd disgyblion a rhieni i gyd-weithio gyda’r ysgol a Swyddog Addysg Lles y sir, mae lefelau presenoldeb wedi codi trwy sicrhau bod pawb yn dilyn y cwricwlwm cywir ar gyfer eu hanghenion ar draws pob cyfnod allweddol. 

Effaith

Mae’r strategaethau amrywiol i ddisgyblion a’r ffocws ar gefnogi lles staff (cyswllt UDA a mewnbwn cwmni cymell), yn golygu bod pob unigolyn yn yr ysgol yn teimlo fel bod eu llais yn cael eu clywed. Mae hyn wedi magu’r ymdeimlad o berthyn i ‘Dîm Llan’ ymysg disgyblion, staff, rhieni, Llywodraethwyr, y clwstwr ac asiantaethau allanol. O ganlyniad i’r holl strategaethau hyn, mae lefelau presenoldeb wedi cynyddu’n sylweddol er nad ydynt, fel yn llawer o ysgolion Cymru eto gystal ag oeddent cyn y pandemig.  


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn