Y datblygiad a’r defnydd o amgylchedd dysgu rhithwir effeithiol - Estyn

Y datblygiad a’r defnydd o amgylchedd dysgu rhithwir effeithiol

Arfer effeithiol

Educ8 Training Group Ltd


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Educ8 Training Group yn ddarparwr hyfforddiant annibynnol. Mae Educ8 yn gweithio gyda phedwar is-gontractwr i gyflwyno rhaglenni prentisiaeth i ryw 2500 o ddysgwyr, ac yn cyflogi bron i 200 o staff. Mae Educ8 a’i bartneriaid yn cyflwyno rhaglenni prentisiaeth ar lefelau 1 i 5 ar draws y meysydd dysgu iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant, gofal am geffylau ac anifeiliaid, trin gwallt, medrau rheoli a digidol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ym mis Ebrill 2018, recriwtiodd Educ8 aelod o staff arweiniol ar gyfer y cwricwlwm digidol. Cynlluniwyd y rôl hon i ddatblygu a gweithredu technolegau newydd, arloesol a oedd yn cyfoethogi addysgu a dysgu prentisiaethau, yn enwedig cyflwyno ar-lein. Roedd y buddsoddiad cynnar hwn yn hanfodol pan gyrhaeddodd y pandemig yn 2020. Roedd Educ8 yn gallu symud yn gyflym i addysgu a dysgu ar-lein, ac roedd staff eisoes yn gyfarwydd ag e-bortffolios ac amgylcheddau dysgu rhithwir. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Er 2020, mae Educ8 wedi datblygu eu hamgylchedd dysgu rhithwir (ADRh), Moodle, ymhellach i gynnwys yr holl feysydd dysgu. Mae strategaeth y cwricwlwm yn ymrwymo i greu arlwy arloesol, difyr a heriol. Mae’r cwricwlwm eang yn helpu datblygu medrau personol, cymdeithasol a galwedigaethol dysgwyr. Caiff cynnwys y cwricwlwm a sut caiff ei gyflwyno i ddysgwyr, ac yn rhyngweithio â nhw, ei ddatblygu’n gyfan gwbl mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol. 

Yn ogystal â chynnwys sy’n alwedigaethol benodol, mae pob cwrs Moodle yn cynnwys amrywiaeth o offer addysgu a chynnwys rhyngweithiol sydd wedi’u dylunio gan ystyried y dysgwr. Er enghraifft, gall dysgwyr Trin Gwallt gymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau tiwtorial fideo ymarferol, tra caiff dysgwyr Rheoli eu harwain at ddarllen pellach a phodlediadau pynciol arbenigol. Mae staff cyflwyno yn defnyddio cynnwys Moodle mewn ymweliadau wyneb yn wyneb neu ar-lein i gynorthwyo’u strategaeth addysg, a gallant osod gweithgareddau ychwanegol neu hunanastudio dan arweiniad fel blaengynllun. Mae Moodle hefyd yn storio ystod eang o adnoddau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol, sy’n cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu’r medrau hyn trwy gydol y rhaglen, ac yn darparu dysgu tuag at gymwysterau medrau hanfodol. Caiff themâu trawsbynciol, testunau lles dysgwyr a datblygiad medrau personol eu storio o fewn Moodle, hefyd.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Roedd amgylchedd dysgu rhithwir Moodle yn werthfawr yn ystod cyfnod y pandemig. Cyrhaeddodd ymgysylltu ar y platfform dros 80% o ddysgwyr yn ystod cyfnodau clo, ac roedd dysgwyr yn gallu parhau â’u haddysgu a’u dysgu, hyd yn oed os na ellid cynnal asesiad ffurfiol. Ar ôl y pandemig, mae ymgysylltu’n parhau ar gyfraddau tebyg a dywed dysgwyr fod Moodle yn cefnogi eu datblygiad galwedigaethol a phersonol yn effeithiol, ac yn eu hannog i gymryd perchnogaeth o’u dysgu, gweithio’n annibynnol ac yn eu cymell i ddatblygu medrau lefel uwch.  
 
Tra bod cynlluniau dysgu yn unigol, gall staff cyflwyno, dysgwyr a chyflogwyr weld cynllun gwaith argymelledig ar gyfer pob uned a pharatoi ar gyfer modiwlau yn y dyfodol. Mae swyddogaethau asesu ffurfiannol ar Moodle wedi rhoi’r gallu i staff cyflwyno a dysgwyr wirio a chadarnhau cynnydd dysgu i lywio cynllunio asesu yn effeithiol. Mae Moodle wedi galluogi i fedrau personol a phroffesiynol a themâu trawsbynciol fod ar gael i ddysgwyr o ddechrau eu rhaglen. Gall staff cyflwyno gyfeirio dysgwyr at destunau perthnasol ar gyfer ymchwil a thrafod ac mae hyn ar gael trwy gydol eu dysgu. Dywed dysgwyr eu bod yn cael mynediad haws at destunau sy’n ddiddorol, yn eu barn nhw, ac yn bwysig, gallant elwa ar ystod o adnoddau lles a allai fod yn rhy bersonol i’w trafod gyda’u hasesydd. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Yn fewnol, newidiwyd y Moodle dysgwyr i ‘Moodle staff’. Mae’r platfform yn cynnal sesiynau ymsefydlu ar gyfer staff newydd, sesiynau dysgu a datblygu a sesiynau dysgu proffesiynol galwedigaethol. Mae platfform Moodle wedi’i glonio i’w ddefnyddio ar draws is-gontractwyr, gan roi’r gallu iddynt addasu eu hadnoddau eu hunain a brand eu sefydliad.