Y Cwricwlwm i Gymru – sut mae consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn cynorthwyo ysgolion?
Cytunodd Estyn gyda Llywodraeth Cymru i gynnal arolwg thematig i adolygu a gwerthuso effaith y cymorth a’r dysgu proffesiynol a ddarperir gan gonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i ysgolion ac UCDau i gynorthwyo cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn genedlaethol. Mae ffocws penodol ar yr effaith y mae cymorth wedi’i chael ar ddealltwriaeth ymarferwyr o ddatblygu a dylunio’r cwricwlwm, ac ar wella addysgu a dysgu i alluogi cwricwla cryf ym mhob ysgol yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hwn yn dilyn ein hadroddiadau am y cwricwlwm a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae’r rhain yn cynnwys Paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru – astudiaethau achos a chameos o ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig (Estyn, 2020c) sy’n adrodd ar y cryfderau a’r rhwystrau y mae’r ysgolion hyn wedi eu profi fel rhan o’u gwaith cwricwlwm. Yn ychwanegol, edrychodd ein hadroddiad Arloesi’r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd (Estyn, 2018a) ar sut roedd ysgolion cynradd yn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae hwn yn rhan o gyfres o adroddiadau sy’n rhoi arweiniad yn ystod y cyfnod hwn o newid mewn addysg. Mae adroddiadau blaenorol yn cynnwys: Gwella Addysgu (Estyn, 2018b), Paratoi ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (Estyn, 2018c), Datblygu arweinyddiaeth – astudiaethau achos o ddysgu proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth ysgolion (Estyn, 2020a) a Partneriaethau â chyflogwyr mewn ysgolion uwchradd ac arbennig (Estyn, 2020b). Mae’r adroddiad hwn hefyd yn defnyddio’r canfyddiadau a rannwyd yn adroddiadau blynyddol diweddar PAEM (Estyn, 2018d; 2019; 2020d).
Y gynulleidfa a fwriedir ar gyfer yr adroddiad hwn yw Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion.
Cafodd y gweithgarwch a gynlluniwyd ar gyfer yr adolygiad thematig ei adolygu a’i addasu yn unol â chyfyngiadau COVID-19. Mae’r adroddiad yn defnyddio canfyddiadau o arolygiadau a gynhaliwyd cyn mis Mawrth 2020, ymweliadau â phob un o’r pedwar consortiwm, y tri awdurdod lleol nad ydynt mewn consortiwm ac ymweliadau ar y safle ac ymweliadau rhithwir â detholiad o ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig ledled Cymru. Fel rhan o’u gwaith parhaus, ymgysylltodd ein harolygwyr cyswllt â’r 19 awdurdod lleol sy’n gweithio fel rhan o gonsortiwm rhanbarthol i ddysgu am y cymorth a ddarperir i ysgolion. Fel rhan o’r broses casglu tystiolaeth, defnyddiom ni holiadur agored i gasglu barn arweinwyr a staff ysgolion.