Y Cartref: Y tu hwnt i ddrysau Ysgol Gynradd Parc Tredegar – Datblygu Medrau Bywyd Disgyblion - Estyn

Y Cartref: Y tu hwnt i ddrysau Ysgol Gynradd Parc Tredegar – Datblygu Medrau Bywyd Disgyblion

Arfer effeithiol

Tredegar Park Primary School


Ein Hysgol

Mae Ysgol Gynradd Parc Tredegar wedi’i lleoli ar gyrion Casnewydd, De Cymru. Ffurfiwyd yr ysgol yn sgil uno Ysgol Fabanod Dyffryn ac Ysgol Iau Dyffryn yn 2017, ac mae wedi parhau i gefnogi’r gymuned ac anghenion ei dysgwyr. Ar hyn o bryd, mae 43% o ddisgyblion yr ysgol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, 12% ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol a 10.8% ohonynt yn siarad Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY).

Byd o Gyfleoedd

Gweledigaeth yr ysgol ‘I agor byd o gyfleoedd…’ oedd yr amcan sylfaenol wrth ddatblygu’r defnydd o ‘Y Cartref’ yn Ysgol Gynradd Parc Tredegar. Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a’r pwyslais ar fedrau am oes, penderfynodd yr ysgol ddatblygu cynllun gwaith a fyddai’n annog ac yn cefnogi annibyniaeth, yn ogystal â medrau a gwybodaeth y gallai disgyblion eu defnyddio yn y dyfodol. Mae’r fenter yn cefnogi ymagwedd gyfannol at les ac yn cefnogi’r syniad fod lles da yn galluogi dysgu llwyddiannus.

Pwy sydd angen cymorth?

Fel ysgol yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (safle 39 ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) sydd â lefelau uchel o ddiweithdra a phroblemau iechyd meddwl yn y gymuned, nododd yr ysgol fod angen cynnig amrywiaeth o ymagweddau at gefnogi lles. Yn ogystal â gweithgareddau ystafell ddosbarth, penderfynodd staff y dylai fod ffocws ar gyd-destunau dilys ar gyfer dysgu i greu effaith ar fedrau a chynnydd. Awgrymodd tystiolaeth anecdotaidd fod llawer o deuluoedd yn ceisio annog annibyniaeth gartref ymhlith eu plant. Roedd yr ysgol eisiau sicrhau diogelwch a lles disgyblion tra’n datblygu medrau bywyd go iawn ar yr un pryd. Trwy addysgu disgyblion sut i reoli risg, nod staff oedd datblygu gwydnwch cynyddol ymhlith disgyblion.

Gwrando ar Ddysgwyr

I ddechrau, cynhaliwyd ymchwiliad ‘Gwrando ar Ddysgwyr’ i sefydlu beth roedd plant yn ei ddeall am aros yn ddiogel gartref, pwysigrwydd glanweithdra a sut i gwblhau rhai tasgau cynnal a chadw syml. Yn sgil yr holiaduron, canfu staff fod gan lawer o’r disgyblion ddiddordeb mewn dysgu medrau bywyd sylfaenol a allai eu cynorthwyo gartref a’u cymhwyso yn eu bywydau yn y dyfodol.

Y Cartref

Ar sail yr hyn a ddywedodd dysgwyr wrth staff a thrwy adroddiadau gan y Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd a’r Gymuned, buddsoddodd yr ysgol mewn creu ‘Cartref’. Cafodd y Tîm Arweinyddiaeth Disgyblion eu cynnwys mewn dewis dodrefn, offer ac ategolion, a rhannwyd yr ystafell yn adrannau, gan gynnwys cegin, ardal fwyta, lolfa ac ystafell wely.

Bod yn Barod am Oes

Cydnabu staff bwysigrwydd ymagwedd gytbwys wrth greu cynllun gwaith a pheidio â chanolbwyntio ar grŵp penodol o ddisgyblion yn unig, er enghraifft disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a fyddai’n creu stereoteip annheg. Creodd yr ysgol gwricwlwm ‘Bod yn Barod am Oes’ (‘Set for Life’) a gynhelir dros y flwyddyn ysgol gyfan ac yn gynyddol ar gyfer pob grŵp blwyddyn. Datblygwyd cynllun hanner tymor, yn cwmpasu’r themâu canlynol:

  • Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf
  • Cadw Pethau’n Lân
  • Canllaw Teithio
  • Moesgarwch wrth y Bwrdd
  • Rheoli Arian
  • Synnwyr yn y Cartref

Mae athrawon dosbarth yn cynllunio ar gyfer y gwersi hyn, a chân eu cynnal yn ‘Y Cartref’. Caiff y plant gyfle i ddysgu ac ymarfer medrau am oes, sy’n amrywio o gau botymau i gynllunio cyllideb ar gyfer yr aelwyd.
 

Ymyrraeth i Fod yn Barod ar gyfer y Dyfodol

Ar sail adborth gan staff addysgu a Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd a’r Gymuned yn yr Ysgol, penderfynodd staff fod angen ymyrraeth benodol ar gyfer nifer o ddisgyblion a oedd wedi dweud bod ganddynt broblemau penodol gartref. Roeddent eisiau sicrhau bod y disgyblion hyn yn gwybod sut i aros yn ddiogel gartref a rhoi dealltwriaeth iddynt o sut i helpu eu hunain ac annog annibyniaeth. Crëwyd ail gynllun gwaith, yn cwmpasu’r medrau mwyaf sylfaenol i gynorthwyo disgyblion i aros yn lân, wedi eu bwydo ac yn ddiogel. Cyflawnir yr ymyrraeth ar gyfer disgyblion targedig o Flynyddoedd 4, 5 a 6 ac mae’n cwmpasu’r themâu canlynol:

  • Diogelwch yn Gyntaf
    Arbenigwr Trydan – Deall Offer – Llwyddo
  • Bwyda Fi
    Coginio – Popty Ping – Defnyddio’r Popty
  • Cadw Popeth yn Lân
    Llestri Brwnt – Gwaredu’r Llwch – Golchi Dillad
  • Ydych Chi’n Gallu ei Drwsio?
    Tasgau Bob Dydd – Cyfeillion Beicio – Plymwaith Perffaith
  • Amdanaf i
    Fy Amser i – Hobïau Hapus – Gofalwyr Ifanc
     

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Caiff pob un o’r disgyblion gyfle i ddatblygu medrau am oes
  • Mae gan ddisgyblion ddealltwriaeth gliriach o sut i’w cynorthwyo eu hunain gartref 
  • Lles a rhyngweithio cymdeithasol gwell gydag oedolion a chyfoedion
  • Datblygwyd gallu dysgwyr i ‘Lywio cyfleoedd a heriau bywyd’ fel y nodwyd yn y Cwricwlwm i Gymru