Y Broses Sgrinio Cymorth Dysgu - Estyn

Y Broses Sgrinio Cymorth Dysgu

Arfer effeithiol

Coleg Sir Gâr a / and Coleg Ceredigion


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Diben a rhesymeg y broses sgrinio Cymorth Dysgu ddwyieithog yw hyrwyddo diwylliant ac ethos o gynwysoldeb, sy’n llywio arferion addysgu a dysgu, yn cefnogi darpariaeth ac yn nodi anghenion hyfforddi staff. Mae’r broses yn helpu hwyluso arfer yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Deddf Cydraddoldeb 2010.

Yn dilyn ymchwil, yn 2019, datblygodd Cydlynydd ADY y coleg a’r tîm rheoli Cymorth Dysgu blatfform electronig i’r holl ddysgwyr ei gwblhau ar sail eu proffiliau unigol. Y rhesymeg ar gyfer gweinyddu’r broses sgrinio electronig yw darparu cyfle i ddysgwyr heb ddiagnosis ffurfiol, neu nad ydynt wedi datgelu yn y gorffennol bod ganddynt angen dysgu ychwanegol a/neu anabledd (ADY), i hunanfyfyrio a chofnodi proffil a niwroamrywiaeth y dysgwr. Niwroamrywiaeth yw’r cysyniad lle bydd gwahaniaethau niwrolegol yn cael eu cydnabod a’u parchu gan bobl eraill fel pob amrywiad dynol arall.

Mae’r holiadur sgrinio cymorth dysgu yn rhoi gwybod i staff am sut orau i gynorthwyo’r dysgwr ac yn hwyluso creu’r proffil un dudalen. Mae’r broses yn darparu adborth uniongyrchol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd i staff addysgu’r cwricwlwm trwy system gwybodaeth reoli ddynodedig. Mae’n hyrwyddo hunanymwybyddiaeth o broffiliau dysgwyr unigol i hwyluso addasiadau rhesymol a gwahaniaethu yn y dosbarth.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Caiff y broses sgrinio ei gweinyddu fel rhan o’r sefydlu cymorth dysgu ar draws pob campws. O fewn dwy wythnos gyntaf tymor yr hydref, mae’r holl ddysgwyr addysg bellach, addysg uwch a dysgu yn y gwaith newydd a’r rhai sy’n dychwelyd yn llenwi’r holiadur electronig. Mae’r broses wyneb yn wyneb hon yn galluogi dysgwyr i gwrdd ag aelodau allweddol o staff cymorth dysgu a chael eu cynorthwyo trwy gydol y broses i gofnodi proffil cyfoethog o bob dysgwr unigol.  

O ran hygyrchedd, gall dysgwyr ddefnyddio technoleg gynorthwyol (e.e. meddalwedd darllen) i fynd at y fformat hawdd ei ddarllen. Mae’r sgriniwr wedi cael ei ysgrifennu gan ddefnyddio iaith gadarnhaol i rymuso ac annog dysgwyr i rannu gwybodaeth werthfawr am eu hanghenion dysgu.

Mae pob dysgwr yn llenwi holiadur ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys:

  • Rheoli amser
  • Gwaith darllen ac ysgrifenedig
  • Cof, canolbwyntio a threfnu  
  • Anghenion cymdeithasol a chyfathrebu, sensitifrwydd synhwyraidd a delio â newidiadau annisgwyl
  • Gwahaniaethau dysgu, cyflyrau meddygol ac iechyd
  • Addasiadau blaenorol i arholiadau

Caiff dysgwyr gyfle i ddatgelu unrhyw ddiagnosis a chyflyrau blaenorol, a rhoi sylwadau ar eu canfyddiadau o rwystrau rhag dysgu. Hefyd, gallant adrodd ar strategaethau yn canolbwyntio ar yr unigolion y maent yn eu cyflogi ar hyn o bryd, ac sy’n gweithio iddyn nhw.  

Wedi i ddysgwyr gydsynio i rannu a chyflwyno eu hymatebion, anfonir neges e-bost at ddysgwyr gyda manylion cyswllt ar gyfer staff cymorth dysgu a lles allweddol, ar sut i fanteisio ar gymorth sy’n annog annibyniaeth a chyfrifoldeb am eu dysgu, yn ogystal â chyfeirio at wasanaethau sy’n hygyrch iddyn nhw trwy gydol y flwyddyn. Gall dysgwyr a staff fynd at ymatebion a gyflwynwyd a’u gweld trwy’r system gwybodaeth reoli ddynodedig. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?s?

Llenwodd dros 2,500 o ddysgwyr yr holiadur sgrinio yn 2021-2022. Mae’r wybodaeth a gynhyrchir o’r broses sgrinio cymorth dysgu yn cefnogi profiad dysgu yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn hyrwyddo diwylliant cynhwysol o fewn y coleg ar gyfer yr holl ddysgwyr. Mae’r sgriniwr yn gweithredu fel strategaeth ar gyfer codi cymhelliant myfyrwyr ar gyfer dysgu gan eu bod yn gallu myfyrio ar, a dehongli, eu cryfderau unigryw eu hunain a’u rhwystrau rhag dysgu.

Gall athrawon weld pob holiadur trwy’r system gwybodaeth reoli ddynodedig ar sail unigolyn neu ddosbarth. Mae staff addysgu yn defnyddio’r wybodaeth yn gyson i greu proffiliau dosbarth cyfoethog a darparu amgylchedd addysgu a dysgu cynhwysol. Mae staff addysgu wedi dweud bod y wybodaeth sgrinio ddwyieithog yn hanfodol: mae safbwynt y dysgwr yn graff ac yn aml yn darparu sylfaen i sgyrsiau am ddysgu personoledig yn gynnar yn y flwyddyn academaidd. Caiff athrawon ddealltwriaeth fanwl o ystod ac amrywiaeth yr anghenion dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Caiff y wybodaeth ei hymgorffori mewn cynllunio a chyflwyno sesiynau addysgu a dysgu. Hefyd, mae cynorthwywyr cymorth dysgu yn defnyddio gwybodaeth y sgriniwr i gynllunio gweithgareddau sy’n briodol i angen dysgwyr a gofynion cymorth unigol. Mae’r tîm cymorth dysgu, ar y cyd â’r tîm addysgu a dysgu, yn parhau i  gynorthwyo staff addysgu i ddefnyddio’r wybodaeth yn y sgriniwr a rhannu’r ethos fod ‘ADY yn gyfrifoldeb pawb’ yn y coleg. 
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Cyflwynwyd hyfforddiant ar gyfer holl staff y coleg i ledaenu rhesymeg y broses sgrinio Cymorth Dysgu, ynghyd â chreu pecyn cymorth i gynorthwyo staff addysgu i ddarparu profiad dysgu cynhwysol. Felly, mae staff nid yn unig yn cael gwybod am niwroamrywiaeth eu dysgwyr, rhoddir offer a syniadau iddynt eu hymgorffori yn eu harferion i ddiwallu anghenion dysgwyr hefyd. Rhannwyd astudiaethau achos arfer dda gydag Awdurdodau Lleol a Fforwm Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru Gyfan hefyd.

Gwybodaeth am y coleg

Daeth Coleg Sir Gâr a Coleg Ceredigion yn goleg integredig ym mis Awst 2017, a chyfeirir ato nawr fel un coleg, gyda dau frand a saith campws ledled Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae’r ddau gampws sy’n ffurfio Coleg Ceredigion yn Aberystwyth ac Aberteifi. Mae gan Coleg Sir Gâr bum campws yn Rhydaman, Gelli Aur, Ffynnon Job, Pibwrlwyd a Llanelli. Mae’r coleg integredig yn cyflwyno ystod eang o gyrsiau galwedigaethol gyda chyfleoedd dilyniant ar gael ar y rhan fwyaf o gyrsiau i’r lefel nesaf, prentisiaethau ac addysg uwch.  

Ar hyn o bryd, mae gan y coleg 5,505 o ddysgwyr addysg bellach, y mae 2,795 ohonynt yn ddysgwyr amser llawn, a 2,710 yn ddysgwyr rhan-amser. O’r dysgwyr amser llawn, mae 80% yn ddysgwyr yn Sir Gâr, a 20% yng Ngheredigion. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn