Y broses i newid rheolaeth yn Ysgol Sant Christopher - Estyn

Y broses i newid rheolaeth yn Ysgol Sant Christopher

Arfer effeithiol

St Christopher’s School


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn 2019, yn dilyn cyfnod o ansefydlogrwydd mewn arweinyddiaeth, newid cyflym yng nghymhlethdod anghenion disgyblion a’r angen i weithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru a gweddnewid ADY, gorchmynnodd y corff llywodraethol i’r pennaeth newydd gyflawni newid sylweddol ar draws yr ysgol. Mae’r corff llywodraethol wedi bod yn allweddol yn hyrwyddo, yn cefnogi ac yn hwyluso newid, mewn partneriaeth â’r pennaeth a’r uwch dîm arweinyddiaeth newydd.

Sicrhaodd y corff llywodraethol a’r pennaeth fod rhesymeg glir ar gyfer newid. Roedd hyn yn allweddol i sicrhau bod pob un o’r staff yn deall yr angen, roeddent yn rhan o’r newid ac yn deall y rhesymeg ar gyfer newid. O’r herwydd, mae staff ar draws yr ysgol wedi bod yn allweddol o ran diffinio, dylanwadu ar, ac arwain newid ym mhob un o feysydd gwaith yr ysgol.

Sut gwnaethom ni hyn?

Ar y cychwyn, gweithiodd tîm arweinyddiaeth yr ysgol yn agos ag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys y consortiwm rhanbarthol ac arbenigwyr allanol i sefydlu gwaelodlin a chytuno ar flaenoriaethau allweddol ar gyfer newid dros gyfnod o dair blynedd. Rhoddodd y waelodlin gytunedig hon gyfarwyddyd clir i’r uwch dîm arweinyddiaeth a’r corff llywodraethol am yr hyn roedd angen ei wella a ffurfiodd sail cynllun gwella’r ysgol. Roedd yn bwysig i bawb dan sylw yn y broses rheoli newid yr ymgynghorwyd yn llawn â’r holl bartneriaid trwy gydol y broses, a bod yr holl newidiadau’n cael eu gwneud mewn ymgynghoriad â phob un o’r staff, y disgyblion a’r rhieni / gofalwyr.

Mae’r corff llywodraethol wedi bod trwy newid sylweddol dros y tair blynedd ddiwethaf, yn ailwerthuso’i rôl fel ffrind beirniadol i’r ysgol. Mae cyflwyno llywodraethwyr fel cadeiryddion i’r is-bwyllgor sy’n monitro cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau strategol yn golygu bod gan y llywodraethwyr ddealltwriaeth drylwyr bellach o gryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w datblygu. Maent wedi defnyddio’u

meysydd arbenigedd yn dda i gefnogi uwch arweinwyr a staff trwy’r cyfnod hwn o newid sylweddol.

Sefydlwyd tîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys staff yr ysgol, Gyrfa Cymru, yr awdurdod lleol, llywodraethwyr a’r coleg addysg bellach i adolygu’r cynnig dysgu, y pecyn achredu, gofal a chymorth, a seilwaith yr ysgol o’r herwydd.

Cytunodd y corff llywodraethol i ehangu’r uwch dîm arweinyddiaeth a datblygodd yr ysgol rôl y penaethiaid cynorthwyol i fod yn benaethiaid sectorau, gan roi ymreolaeth a chymorth iddynt gynnal eu sector. Rhoddwyd y dull sectorau ar waith ym mis Medi 2020, gan ddarparu strwythur ar gyfer staff a disgyblion. Mae pob sector yn darparu arlwy cwricwlwm teilwredig i ddiwallu anghenion penodol eu disgyblion a gweithio gyda’i gilydd yn agos i gefnogi pontio wrth iddynt symud o un sector i’r llall.

Trafododd yr ysgol newid rheolaeth o ran y diwrnod ysgol. O ganlyniad, mae pob un o’r staff cymorth bellach yn mynychu diwrnodau hyfforddiant mewn swydd yr ysgol ac yn cael eu cynnwys yn llawn ym mhob un o feysydd datblygu’r ysgol, gan gynnwys datblygu ymagweddau at y pedwar diben, arlwy’r cwricwlwm a datblygu’r camau bach ar gyfer dysgu’r disgyblion.

Mabwysiadodd yr ysgol fodel cydweithredol ar gyfer datblygu ei hymagwedd at y Cwricwlwm i Gymru. Mae’n canolbwyntio ar ddyheadau pontio sydd gan ddisgyblion a’r medrau sydd eu hangen arnynt i gefnogi eu cyfnod pontio. Mae dadansoddi ac archwilio’r pedwar diben gyda staff, disgyblion a rhieni wedi arwain at arlwy cwricwlwm clir a dilynol ym mhob sector sy’n rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu ym mhob un o’u meysydd dysgu.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau?

Mae cyflwyno’r dull sectorau wedi galluogi a grymuso staff addysgu a staff cymorth, fel ei gilydd. O ganlyniad i’r dull sectorau a mabwysiadu’r model cynradd ar draws yr ysgol, mae staff wedi gwella’u medrau mewn meysydd penodol o ddiddordeb ac arbenigedd. Mae hyn wedi golygu bod disgyblion yn teimlo’n llai pryderus ynglŷn â symud a newid ac yn gwneud cynnydd cryf ym mhob un o’u meysydd dysgu.

Mae’r newid i reolaeth o ran y diwrnod ysgol wedi galluogi’r ysgol i ymestyn y dysgu proffesiynol ar gyfer pob un o’r staff. O ganlyniad, mae bron pob un o’r staff cymorth bellach yn mynychu ein diwrnodau hyfforddiant mewn swydd, gan arwain at ddatblygu gweithlu hynod arbenigol.

Mae’r datblygiadau cydweithredol ar y Cwricwlwm i Gymru a’r cynnig dysgu i ddisgyblion yn golygu bod disgyblion yn gwneud cynnydd cryf mewn meysydd sy’n bwysig iddyn nhw ac ar eu cyfer. Mae disgyblion bellach yn gadael yr ysgol gydag ystod eang o achrediad pwrpasol sy’n cefnogi eu cyfnod pontio i addysg bellach neu hyfforddiant.

 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn