Troi dysgwyr yn ddefnyddwyr y Gymraeg - Estyn

Troi dysgwyr yn ddefnyddwyr y Gymraeg

Arfer effeithiol

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol/The National Centre for Learning Welsh


Nodwch sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector a nodwyd yn ystod arolygiad, yn ymwneud â chwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd benodol:

Mae sefydlu corff cenedlaethol wedi darparu ffocws i’r sector ehangu ei ddarpariaeth ffurfiol ac anffurfiol drwy greu a chynnal partneriaethau strategol gydag amrywiaeth o gyrff. Mae’r cyfleoedd sydd wedi eu datblygu drwy gynnal y partneriaethau yn cynnig cyfleoedd amrywiol i bobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn cyd-destunau ystyrlon, gan droi dysgwyr yn ddefnyddwyr y Gymraeg. 

Mae dysgwyr yn cael eu hannog i fanteisio ar yr arlwy newydd gan eu tiwtoriaid a’u darparwyr. Gall y Ganolfan gyfathrebu’n uniongyrchol ac yn effeithiol gyda thiwtoriaid i sicrhau bod pob un tiwtor yn meddu ar wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr. Wrth i gyrff allanol ddod i weld bod eu gwasanaethau i ddysgwyr yn cael eu gwerthfawrogi, mae hyn yn arwain at barhau i gynllunio a datblygu’r gwasanaethau i’r dyfodol.

Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector:

Aeth y Ganolfan ati yn fwriadus i greu partneriaethau strategol gydag amrywiaeth o gyrff (cyhoeddus, gwirfoddol a diwylliannol) er mwyn creu cyfleoedd i’w dysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’w gwersi ac i hyrwyddo’r cyfleoedd a’r manteision allai godi o gynnwys dysgwyr fel rhan o gynlluniau gwaith y partneriaid. Drwy egluro mwy wrth bartneriaid am broffil, gallu ac awydd dysgwyr i ymwneud â phrofiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, llwyddwyd i gynnal trafodaethau buddiol ac adeiladol. Roedd y Ganolfan yn gallu rhannu gwybodaeth am niferoedd dysgwyr, proffil oed ac egluro’r lefelau dysgu gwahanol. Mae bodolaeth un corff cenedlaethol am y tro cyntaf (sef y Ganolfan) i gynnal sgyrsiau gyda chyrff cenedlaethol eraill, gan gynnwys Cyngor Llyfrau Cymru, Amgueddfa Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, BBC Radio Cymru, S4C, Meithrin, Mentrau Iaith Cymru, Merched y Wawr ac eraill, wedi esgor ar weithredu creadigol. Wrth gytuno ar gynlluniau, mae’r Ganolfan wedi gallu cefnogi’r partneriaethau yn ymarferol, er enghraifft drwy gynnig hyfforddiant neu gymorth wrth farchnata. O ganlyniad i’r gwaith partneriaethol, mae dysgwyr wedi gallu ymarfer eu Cymraeg, a magu hyder i fwynhau defnyddio’r iaith. Mae isadeiledd y Gymraeg hefyd wedi ei gefnogi a’i gryfhau drwy gynyddu gwerthiant siopau Cymraeg, er enghraifft.

Hefyd datblygwyd partneriaethau strategol effeithiol gyda chyrff cenedlaethol er mwyn gwireddu amcanion y cynllun ‘Cymraeg Gwaith’ sy’n dysgu’r Gymraeg i gyflogeion. Drwy gydweithio gyda phartneriaid, er enghraifft y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Cwlwm, mae cyrsiau teilwredig wedi eu datblygu. Mae 1,329 o gyflogwyr unigryw wedi manteisio ar y cynllun ‘Cymraeg Gwaith’ ers ei gychwyn yn 2017. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector:

Mae’r Ganolfan a’i phartneriaid yn dymuno croesawu dysgwyr i’r ‘byd Cymraeg’ ac wedi rhoi anogaeth mewn amgylchedd cynhwysol. Er enghraifft, mae’r Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg a ddarperir gan BBC Radio Cymru yn cyflwyno dysgwyr i raglenni a cherddoriaeth yr orsaf yn ogystal â rhoi llais i ddysgwyr a chodi proffil dysgwyr ymhlith siaradwyr Cymraeg.

Enghraifft arall o bartneriaeth ffrwythlon yw’r cydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru, sydd wedi esgor ar gyhoeddi cyfres o dros ugain o lyfrau i ddysgwyr, sydd wedi’u graddoli ar y gwahanol lefelau dysgu. Mae’r Ganolfan wedi cynorthwyo’n ymarferol drwy roi hyfforddiant i olygyddion, a thrwy rannu geirfa addas i ddysgwyr. Mae dysgwyr wedi elwa drwy gael mynediad at ddeunyddiau darllen sy’n addas i’w lefel, gyda’r gyfres o lyfrau yn agor cil y drws ar fyd o lyfrau Cymraeg o bob math. 

Mae’r bartneriaeth gyda Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi esgor ar weithgareddau drwy’r flwyddyn, nid yn unig yn ystod cyfnod yr Eisteddfod. Er enghraifft cynhaliwyd gŵyl ddarllen lwyddiannus i ddysgwyr gyda phartneriaid yn cynnwys Golwg 360, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru, sydd wedi rhoi cyfle i ddysgwyr wrando ar, a darllen straeon newydd sbon gan awduron profiadol. Mae hyn yn arwain at wella sgiliau dysgwyr a’u cyflwyno i’r byd diwylliannol Cymraeg.

Mae’r Ganolfan wedi sefydlu perthynas weithio dda gyda’i phartneriaid gydag aelodau o uwch-dîm y Ganolfan yn cyfarfod gyda’r sefydliadau yn rheolaidd. Mewn rhai achosion mae Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth wedi ei sefydlu. Mae’r cyfarfodydd yn cynnwys cyfle i adolygu gweithgaredd ac i ailgynllunio i’r dyfodol.
 
Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnull cyfarfod yn dymhorol gyda’i holl bartneriaid cymunedol er mwyn rhannu arfer dda a chyd-gynllunio.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr:

Mae darparwyr y Ganolfan yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cyfleoedd buddiol i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i wersi ffurfiol. O ganlyniad, mae’r mwyafrif helaeth o’r dysgwyr yn cael cyfle i ymarfer a mwynhau’r iaith mewn awyrgylch anffurfiol, gan ddod i wybod mwy am ddiwylliant Cymraeg hefyd. Mae’r Cynllun ‘Siarad’ lle gofynnir i siaradwyr Gymraeg ‘baru’ gyda dysgwyr am 10 awr er mwyn sgwrsio yn enghraifft lwyddiannus o gydweithio gyda gwirfoddolwyr ar draws Cymru. Mae’r holl waith yn ganolog i weledigaeth y sector o greu siaradwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn hytrach na dysgwyr goddefol. O ganlyniad, mae’r Ganolfan yn cyfrannu’n effeithiol at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn