Trochi effeithiol: cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd cyflym tra’n eu cynorthwyo i ddysgu a gwerthfawrogi hanes a diwylliant Cymru.

Arfer effeithiol

Dysgu Cymraeg/Learn Welsh Nant Gwrtheyrn


Gwybodaeth am y darparwr

Cyrsiau preswyl yw arbenigedd y Nant ac mae’r cyrsiau rheiny yn digwydd am gyfnodau o 3 neu 5 diwrnod ar y tro. Mae’r Nant hefyd yn darparu ychydig o gyrsiau rhithiol 3 neu 5 diwrnod. Mae gan y Nant gyrsiau unigryw sydd wedi eu creu ar gyfer y profiad dwys o ddysgu o lefel Blasu hyd at Gloywi. Yn ystod 2022-23, darparodd prif ffrwd y Nant 452 o brofiadau dysgu unigol i 411 o ddysgwyr unigol. Mae’r Ganolfan hefyd yn rhedeg cynllun Defnyddio Cymraeg Gwaith. Yn ystod blwyddyn ddiweddaraf y cynllun, gwelwyd 334 o brofiadau dysgu unigol ar 35 o gyrsiau.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ganolfan a welir heddiw ar safle’r hen chwareli ithfaen yn ganlyniad i freuddwyd Dr Clowes yn y 1970au i greu cyflogaeth yn lleol a chefnogi’r ymgyrch genedlaethol i adfer y niferoedd o siaradwyr Cymraeg. Penderfynwyd sefydlu canolfan bwrpasol yn y Nant a fyddai’n adfer pentref a oedd yn adfeilion, yn creu gwaith ar gyfer pobl leol ac yn rhoi hwb angenrheidiol i’r iaith Gymraeg.

Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn ar bob lefel yn cyfuno dysgu iaith gyda chyfleoedd i brofi a gwerthfawrogi hanes a diwylliant Cymru yn cynnwys yr ymgyrch genedlaethol fawr a fu i godi arian i ddatblygu safle’r Nant.

Mae sicrhau bod ein dysgwyr yn deall hanes y Gymraeg a’r diwylliant arbennig sy’n unigryw iddi, yn ffordd o gefnogi eu perthynas gyda’r Gymraeg ac yn gyfle i agor y drafodaeth am berchnogaeth.

Mae’r cyfuniad o glywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio, dysgu geirfa a phatrymau newydd yn y dosbarth, hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith, a thrafodaeth am gadernid iaith yn golygu bod dysgwyr yn caffael iaith, yn rhoi’r medrau newydd ar waith yn syth ac yn gwneud cynllun ymarferol ar lle a sut i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gadael y safle.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r profiad dysgu yma yn y Nant yn dechrau ar fore dydd Llun wrth i ddysgwyr gyrraedd y safle. Cynhelir cyfarfod Croeso i egluro trefn yr wythnos. Rhan bwysig o’r Cyfarfod Croeso yw gosod disgwyliadau’r staff o’r dysgwyr. Rydym yn eu hannog i berchnogi’r safle fel man diogel i hawlio’r iaith gan wneud defnydd cynyddol ohoni wrthi i’r wythnos fynd yn ei blaen.

Mae pob aelod o staff Nant Gwrtheyrn yn siarad Cymraeg ac wedi eu hyfforddi ar sut i gefnogi dysgwyr. Maent yn ymwybodol o’r lefelau a phatrymau addas i’w defnyddio ac yn annog y dysgwyr i gyfathrebu yn Gymraeg ar bob cyfle. Mae hyn yn cynnwys staff Caffi Meinir, gofalwyr y safle, staff y dderbynfa, swyddogion llety ac uwch swyddogion. Maent yn modelu ymddygiad cadarn yn ieithyddol.

Yn y dosbarth mae’r dysgu yn canolbwyntio ar iaith darged sy’n annog defnydd iaith yn ystod wythnos yr ymweliad. Golyga hyn fod y dysgwyr wedi eu harfogi i ymdopi gyda’r sefyllfaoedd y maent yn debygol o’u profi. Mae hyn yn bwysig iawn o ran gosod y Gymraeg mewn cyd-destun, perchnogi’r iaith, codi hyder a chreu defnydd iaith.

Yn ogystal, mae tiwtoriaid profiadol yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith mewn ffordd gynnil a sensitif. Dyma gyfle pwysig i’r dysgwyr archwilio eu perthynas gyda’r iaith, cael y cyfle i drafod heriau personol a chefnogi ei gilydd o safbwynt yr heriau rheiny. Mae pob wythnos yn gorffen gyda sesiwn ‘Beth Nesa’ gyda’r dysgwyr yn derbyn gwybodaeth am bosibiliadau dysgu pellach, ond hefyd yn llunio cynllun gweithredu personol. Mae’r dysgwyr felly yn gadael y safle gyda’r bwriad o wneud defnydd ymarferol, cadarn a defnyddiol o’r Gymraeg. Mae cyfuno’r elfennau ymwybyddiaeth a chadernid yma yn arwain at newid ymddygiad ac yn y cyd-destun hwn, i gynyddu defnydd o’r Gymraeg.

Mae’r adnoddau ar safle’r Nant yn bwysig o ran y profiad trochi hefyd. Mae’r Capel, Y Syrjeri a’r Tŷ Cyfnod yn cynnwys arddangosfeydd treftadaeth i gyfoethogi profiad y dysgwyr. Maent yn rhannu gwybodaeth am hanes y safle a’r ardal ond hefyd am hanes y Gymraeg. Gwneir defnydd llawn o’r adnoddau hyn gan y tiwtoriaid drwy holiaduron, helfeydd trysor, cyfle i’r dysgwyr ymateb yn ysgrifenedig, cyflwyniadau ac ati.

Y tu hwnt i’r dysgu mwy ffurfiol, mae pob elfen o ddysgu anffurfiol wedi ei deilwra yn ofalus i sicrhau fod y dysgwyr yn parhau i gael eu trochi, nid yn unig yn yr iaith ond mewn negeseuon cadarnhaol am ddefnydd iaith. Enghraifft o hyn yw ymweld â Thafarn y Fic a chael clywed côr o fechgyn ifanc lleol yn ymarfer – profiad hollol Gymraeg a Chymreig.

Yn yr un modd, dewisir unigolion neu grwpiau sy’n darparu adloniant i’r dysgwyr yn ofalus. Y bwriad yw agor y drws i fyd a diwylliant y Gymraeg mewn amgylchedd ddiogel. Gall hyn olygu taith gerdded gydag unigolyn sydd wedi dysgu Cymraeg er mwyn casglu geirfa byd natur sydd wedi ei wreiddio yn ardal y Nant, gwrando ar unigolyn yn canu caneuon poblogaidd Cymraeg a chael y cyfle i gyd-ganu, neu gael sgwrs gan unigolion a fu’n rhan o sefydlu’r Nant er mwyn dysgu mwy am daith y Gymraeg.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Canlyniad y profiad trochi a’r ymyraethau hyn yw bod y dysgwyr sydd yn dod i’r Nant yn ymroi yn llwyr i’w taith iaith. Maent yn awyddus i ddysgu ac yn medru gweld eu hunain yn rhan o fywyd y Gymraeg a Chymru a thrwy hynny yn medru ei pherchnogi. Mae ganddynt yr hyder i fod yn rhan o ddigwyddiadau lle mae’r Gymraeg yn amlwg a thrwy hynny, yn dewis mynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel gymunedol. Mae’r hyder yma yn golygu cynnydd mewn defnydd sydd yn ei dro yn golygu cynnydd mewn medrau. Mae’r cylch cadarnhaol hwn yn golygu bod dysgwyr yn medru gwneud cynnydd cyflym mewn amser byr.

Mae’r amrywiaeth o ddulliau dysgu ffurfiol ac anffurfiol, y gofodau amrywiol ar y safle, y cyfle i ddarparu adloniant a theithiau yn golygu bod dysgwyr yn cael y cyfle i ymlacio a mwynhau’r profiad dysgu hwn. Mae’r wythnos o ddysgu hefyd yn wythnos i archwilio eu perthynas gyda’r iaith. Mae hyn yn golygu bod gennym ddysgwyr bodlon sy’n dewis ymweld dro ar ôl tro ar eu taith iaith.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn