TGCh yng nghyfnod allweddol 3: Effaith TGCh ar ddysgu disgyblion yng nghyfnod allweddol 3 mewn ysgolion uwchradd – Gorffennaf 2014
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- wella’r ffordd y caiff TGCh ei chyflwyno a’i monitro ar draws y cwricwlwm i sicrhau parhad a dilyniant ym medrau TGCh disgyblion;
- sicrhau bod pob elfen o’r rhaglen astudio TGCh yn cael ei hastudio’n dda ar draws y cyfnod allweddol;
- gwella ansawdd yr addysgu fel bod disgyblion yn datblygu eu gallu i weithio’n annibynnol ac yn gwneud cynnydd wrth ddatblygu eu medrau TGCh yn ystod gwersi TGCh ac mewn pynciau eraill ar draws y cwricwlwm;
- darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol perthnasol a digonol ar gyfer pob un o’r athrawon;
- gwella cywirdeb asesiadau athrawon;
- cysylltu’n effeithiol â’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo i sicrhau parhad wrth gynllunio’r ffordd y caiff TGCh ei chyflwyno ar draws cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 fel nad yw disgyblion yn ailedrych ar fedrau yn ddiangen a cholli diddordeb mewn gwersi; a
- gwella’r cysylltu rhwng yr adran TGCh ac adrannau pwnc eraill fel bod gan ddisgyblion fwy o gyd-destunau i gymhwyso a datblygu eu medrau.
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- sicrhau bod cymorth cwricwlwm TGCh ar gael i bob ysgol uwchradd;
- monitro safonau a darpariaeth TGCh fel pwnc ac effeithiolrwydd y defnydd a wneir ohoni ar draws y cwricwlwm; a
- chynorthwyo ysgolion i wella cywirdeb a dibynadwyedd asesiadau athrawon.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- rhoi fframwaith statudol perthnasol ar gyfer TGCh o’r Cyfnod Sylfaen i’r sector ôl-16 ar waith ac adolygu gorchmynion pwnc y Cwricwlwm Cenedlaethol i adlewyrchu datblygiadau presennol mewn technoleg; a
- chynorthwyo awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i fynd i’r afael â’r materion technegol sy’n cyfyngu mynediad at adnoddau TGCh mewn ysgolion uwchradd.