Technoleg ddigidol ym mywyd ysgol gynradd

Arfer effeithiol

Cornist Park C.P. School


 

Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Cornist Park yn y Fflint yng ngogledd Cymru.  Mae dros 300 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae tuag 17% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn ymdrechu i roi i ddisgyblion y medrau gydol oes sydd eu hangen arnynt fel dinasyddion modern yr 21ain ganrif.  Mae’r ysgol yn galluogi disgyblion i fanteisio ar ystod eang o ddyfeisiau technoleg ddigidol a phrofiadau yn ystod eu bywyd yn yr ysgol.  Mae’r dyfeisiau wedi dod yn offer digidol sy’n cael eu defnyddio i ennyn diddordeb disgyblion a’u hysbrydoli i fod yn ddysgwyr creadigol ac annibynnol.

Gweithredu a rhannu arfer

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Cornist Park yn deall y gall technoleg ddigidol ond gwella addysgu a dysgu os yw staff yn hyderus wrth ei defnyddio.  Bob blwyddyn, mae staff yn cwblhau archwiliad medrau i roi gwybodaeth werthfawr i’r ysgol i lywio’r cylch cynllunio datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).  Mae’r archwiliad yn llywio cynllun gweithredu digidol blynyddol, sydd hefyd yn cyfrannu at y cynllun datblygu ysgol.  Mae Arweinydd Digidol Staff yr ysgol yn trefnu cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff.  Yna, mae aelodau staff yn unigol yn arfarnu ei effaith ar ddisgyblion. 

Ers cyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD), mae’r ysgol wedi addasu ei gweithdrefnau ar gyfer archwilio medrau staff.  Mae’n darparu hyfforddiant i staff ar bob llinyn o’r FfCD bob hanner tymor.  Mae hyn yn eu galluogi i adeiladu ar eu dealltwriaeth a’u medrau presennol a dod yn gwbl hyderus wrth gyflwyno pob llinyn o’r FfCD.  Mae’r ysgol hefyd yn rhoi amser ychwanegol i athrawon y tu allan i’r dosbarth er mwyn iddynt gael cyfle i gydweithio’n agos â’r Arweinydd Digidol Staff i ddefnyddio medrau, annog creadigrwydd ac addasu eu cynlluniau tymor canolig i gynnwys y FfCD mewn ffyrdd ystyrlon a chreadigol. 

Mae’r ysgol yn credu bod dinasyddiaeth ddigidol wrth wraidd ymgorffori technoleg ddigidol ym mywyd yr ysgol.  Un o nodau allweddol yr ysgol yw galluogi disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach i gysylltu, cydweithio a chyfathrebu ar-lein mewn ffordd gyfrifol a diogel.  Mae’r holl staff yn  cael hyfforddiant e-ddiogelwch cyfredol blynyddol ac yn llofnodi polisïau defnydd derbyniol.  Mae hyfforddiant ymsefydlu i aelodau staff newydd yn cynnwys sesiwn ddiogelu ychwanegol sy’n cynnwys materion yn ymwneud ag e-ddiogelwch a dinasyddiaeth ddigidol. 

Er mwyn cynyddu cymhwysedd digidol ei disgyblion, staff a chymuned ehangach yr ysgol, gan gynnwys rhieni, llywodraethwyr ac aelodau’r gymuned, mae gan yr ysgol grwpiau o ddisgyblion sy’n arwain ar ddysgu digidol.  Mae’r Arweinwyr Digidol Disgyblion hyn yn helpu’r Arweinydd Digidol Staff i hyfforddi a chynnig cymorth parhaus i staff yn yr ysgol ac mewn ysgolion ledled Sir y Fflint.  Hefyd, mae’r ysgol wedi datblygu rôl llywodraethwr e-ddiogelwch sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth o ddysgu digidol ymhlith y llywodraethwyr, ac yn cydweithio’n agos â’r Arweinwyr Digidol a’r grŵp e-ddiogelwch.  Er mwyn annog rhieni i gymryd rhan, mae’r ysgol wedi penodi ‘e-riant’ hefyd, sy’n cynorthwyo ‘e-gadlanc’ yr ysgol a’r timau arweinwyr digidol â’u digwyddiadau a chyfarfodydd.

Mae arolygon rhieni a luniwyd ar y cyd gan yr Arweinydd Digidol Staff, Arweinwyr Digidol Disgyblion a’r grŵp e-ddiogelwch, yn nodi anghenion hyfforddiant rhieni.  Trwy ddadansoddi canlyniadau’r arolygon, mae’r ysgol wedi trefnu digwyddiadau fel noson rieni ‘Freaked Out’, ‘Digifest’ a gweithdai ‘Digi Family’ i addysgu rhieni am ddefnyddio technoleg ddigidol gartref i helpu eu plant i ddysgu, a sicrhau eu bod yn cadw eu plant a nhw’u hunain yn ddiogelwch ar-lein.  Trwy’r digwyddiadau hyn, mae’r staff wedi darganfod bod rhieni’n gwrando ac yn ymateb yn fwyaf effeithiol wrth gael eu haddysgu gan y disgyblion.  O ganlyniad, mae’r plant yn arwain ar gyflwyno ac addysgu dan oruchwyliaeth yr Arweinydd Digidol Staff.  Yn ogystal, mae tîm e-gadlanciau’r ysgol a’r arweinwyr digidol yn trefnu ‘desg ddigidol’, lle gall rhieni alw heibio i ofyn am e-ddiogelwch neu broblemau technegol ym mhob noson rieni.

Mae tîm e-ddiogelwch yr ysgol hefyd wedi cynnal sesiwn galw heibio mewn banc lleol yn y Fflint i gwsmeriaid ddysgu sut i gadw eu manylion banc yn ddiogel ar-lein.  Gwnaethant addysgu cwsmeriaid am negeseuon e-bost gwe-rwydo, sut i gydnabod un a beth i’w wneud amdani. 

Effaith

Mae’r ysgol wedi llwyddo i wella a datblygu medrau cymhwysedd digidol disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach, ac mae disgyblion wrth wraidd digwyddiadau hyfforddiant llwyddiannus. 

Mae athrawon wedi ymgorffori technoleg ddigidol a dysgu digidol ar draws y cwricwlwm drwy ystod o brofiadau cyfoethog i ddisgyblion yn yr ystafell ddosbarth.  Mae hyn yn galluogi disgyblion i wneud cynnydd cyflym a chyflawni safonau rhagorol mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn