Taith Gwricwlaidd Bwrpasol a Chydweithredol - Estyn

Taith Gwricwlaidd Bwrpasol a Chydweithredol

Arfer effeithiol

Pendoylan C.I.W. Primary School


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Dechreuodd taith gwricwlaidd bwrpasol yr ysgol sawl blwyddyn yn ôl pan addaswyd y Pedwar Diben yn weledigaeth i’r ysgol, a fyddai’n ateb galwadau cyd-destun yr ysgol ac yn cynnig tegwch a chynhwysiant i unrhyw ddysgwr yr 21ain Ganrif yng Nghymru. O’r cychwyn, cydnabu arweinwyr yr ysgol rym datblygu ar y cyd a chynhwysont yr holl randdeiliaid wrth lunio’r weledigaeth hon. Y nod ym Mhendeulwyn yw ‘Ysbrydoli’ trwy ein cwricwlwm a’n haddysgeg hynod arloesol; ‘Myfyrio’, gan ganiatáu amser i ddisgyblion ystyried eu taith hunanwella bersonol eu hunain yn ofalus; a ‘Thrawsnewid’, trwy roi cyfleoedd i fynd â dysgu’r tu hwnt i gatiau’r ysgol ac annog dinasyddiaeth weithgar trwy ymgysylltu â materion cyfoes, yn lleol ac yn fyd-eang.

Er mwyn gwireddu gweledigaeth uchelgeisiol hon yr ysgol, cydnabu arweinwyr y byddai angen cyfleoedd datblygu proffesiynol o ansawdd uchel ar y staff. Mae partneriaethau cryf ag ysgolion eraill bob amser wedi bod wrth wraidd ymarfer sy’n hunanwella a bu hyn yn arbennig o effeithiol wrth gydweithredu yng Ngrwpiau Gwella Ysgol CSC a datblygu addysgeg ynghylch dysgu cydweithredol a chreadigrwydd. Mae’r ysgol hefyd wedi sefydlu cysylltiadau cryf â Phrifysgol Abertawe ac roedd yn rhan o grŵp astudiaeth ymchwil a oedd yn datblygu Algebra trwy ddefnyddio ‘Dulliau bar’. Fodd bynnag, efallai mai’r ymchwil fwyaf effeithiol oedd gwaith a wnaed yng nghanolfan NACE ar her wybyddol. Er enghraifft, fel rhan o ‘droell ymholi’, defnyddiodd uwch arweinwyr adnodd ‘Dyfnder Gwybodaeth’ Webb i wella cynllunio ac asesu ‘tasgau cyfoethog’, yng nghyd-destun astudio effaith ffermydd gwynt ar yr amgylchedd lleol. Darganfuont fod ehangder gwybodaeth plant a’u hannibyniaeth wrth ddysgu wedi gwella’n sylweddol o ganlyniad i’r cynnydd hwn mewn her wybyddol. Yn sicr, mae diwylliant o hunanfyfyrio gan staff ac addysgeg effeithiol wedi llunio sylfaen gadarn y seiliodd yr ysgol ddyluniad presennol ei chwricwlwm arni. 
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ddwy flynedd yn ôl, sefydlodd yr ysgol gysylltiadau cryf â’r tair ysgol ganlynol ym Mro Morgannwg: Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr-y-fro ac Ysgol Gynradd Llanfair. Clwstwr ‘orbit’ yw’r enw a roesant ar eu hunain, oherwydd er bod taflwybrau eu horbit yn amrywio weithiau oherwydd gwahanol gyd-destunau’r ysgolion, mae ganddynt i gyd yr un dyheadau a gweledigaeth i ddisgyblion o ran y Pedwar Diben. 

Cytunodd y cydweithrediad â syniadau cysyniadol y Cwricwlwm newydd i Gymru (pam), ond serch hynny, roedd yn dasg aruthrol iddynt drosi hyn yn gwricwlwm o ansawdd uchel yn yr ysgol (beth i’w addysgu a phryd i’w addysgu). Fodd bynnag, o’r cychwyn, rhannodd yr ysgolion lefel ddofn o ddealltwriaeth ynghylch yr hyn a oedd, yn eu barn nhw, yn ofynion digyfnewid iddynt o ran dylunio’r cwricwlwm:  

  • Roedd angen ffocws ar y cwricwlwm ac roedd angen iddo fod yn gydlynus a chyflawni gweledigaeth y Pedwar Diben.
  • O fewn y cwricwlwm, roedd rhaid rhoi gwybodaeth a medrau mewn trefn resymegol, gynyddol. 
  • Deallont fod angen gwybodaeth ragofynnol i fanteisio ar ddysgu newydd ac, felly, roedd dyfnhau dysgu yn broses gylchol.
  • Roedd yn rhaid i’r cwricwlwm adlewyrchu natur hierarchaidd a dilynol disgyblaethau pwnc sy’n ofynnol er mwyn dyfnhau dysgu. 
  • Roedd angen mynediad teg i gynnwys ar draws y Cydweithrediad rhwng yr ysgolion.

Yn sgil sicrhau’r delfrydau hyn, dechreuont ar y daith i ymgysylltu â’r holl randdeiliaid i gyfoethogi a gwella dyluniad y cwricwlwm. Cynhaliodd y pedair ysgol fforymau a gweithdai gyda rhieni, disgyblion a llywodraethwyr, ac ymgysylltont yn allanol ag CSC ac Estyn hefyd. 

O ganlyniad i’r ymgynghoriadau hyn, daeth y dull canolog i’r amlwg, sy’n cael ei alw’n ‘Gysyniad Lens’. Yn yr un modd ag y daw lens â mwy o eglurder a ffocws, mae ‘Cysyniadau Lens’ yr ysgolion yn dwyn mwy o ddiffiniad i’r datganiadau ‘Beth sy’n bwysig’ ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad. Mae’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad wedi’u trefnu’n ‘Lensys’. Er enghraifft, mae gan y Celfyddydau Mynegiannol 5 Lens:

  1. Crefftwyr, Artistiaid a Genres Nodedig Cymru a’r Tu Hwnt
  2. Arbrofi â Deunyddiau ac Adnoddau 
  3. Emosiynau, Hwyliau ac Amgyffredion 
  4. Rhannu a Chyflwyno Syniadau 
  5. Myfyrio ac Ymateb fel Cyfranogwr ac fel Cynulleidfa 

O dan bob Lens y mae’r datganiadau ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ perthnasol, y Camau Cynnydd ac ysgol fedrau, gwybodaeth a phrofiadau a awgrymir, sy’n datblygu’n gynyddol o’r dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6. Mae Cysyniad Lens yn sicrhau ehangder a chydbwysedd ar draws y cwricwlwm ac mae’n cydnabod natur ddilyniannol disgyblaethau pwnc. Trwy eu mapio ar draws grwpiau oedran, mae’r ysgolion wedi sicrhau bod parhad, dilyniant a lefelau her cynyddol i ddisgyblion. Fodd bynnag, mae’r hyblygrwydd hefyd i ddisgyblion fynd at unrhyw bwynt penodol ar yr ysgol yn ôl eu cam dysgu.

Caniataodd dull y Lens i’r ysgolion gael dealltwriaeth gyffredin o elfennau ‘pa’ a ‘phryd’ y  cwricwlwm yr oedd angen eu haddysgu’. Ochr yn ochr â Chysyniadau Lens, roedd yr ysgolion hefyd yn datblygu dealltwriaeth gyffredin o addysgeg a ‘Sut’ byddai eu cwricwlwm yn cael ei gyflwyno o ran cysylltu dysgu ar draws y cwricwlwm. Roedd hi’n bwysig osgoi bod yn rhy ragnodol a pheidio â llesteirio arloesi ym mhob ysgol. Ar yr un pryd, roeddent am gysoni eu dulliau i roi cyfleoedd parhaus am gydweithredu a rhannu arfer dda ymhlith ymarferwyr. Felly, penderfynont ar themâu ‘Llinyn Aur’ sy’n mapio’r lensys (gan gynnwys y datganiadau ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’) ar draws y cwricwlwm. Ym mhob un o’r pedair ysgol, byddant i gyd yn addysgu’r un ‘Llinyn Aur’ fesul tymor dros gylch dwy flynedd. Er enghraifft, llinyn y tymor hwn yw ‘Canlyniadau’. Ar lefel ysgol, mae’r llinynnau hyn yna’n cael eu trosi’n ‘Anturiaethau Dysgu’ gwahanol, sy’n dechrau gyda chwestiynau ymholi, er enghraifft ‘Beth wnaeth y Rhufeiniaid fyth i chi?’. Caiff y rhain eu datblygu’n dasgau cyfoethog, sy’n darparu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu ac yn caniatáu lle i lais y disgybl fynd â’r dysgu i gyfeiriadau gwahanol. Mae’r antur yn dod i ben gyda dathliad o’r dysgu, sef digwyddiad arddangos fel arfer.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Roedd gweld y cwricwlwm cydweithredol, pwrpasol yn dod i’r amlwg ac, o ganlyniad, dechrau cyflawni gweledigaeth ysbrydoledig yr ysgol yn hynod gyffrous a buddiol. Mae staff yn frwd am gyflwyno’r ddarpariaeth newydd hon ac, o ganlyniad, mae llawer o symbyliad gan bron bob un o’r dysgwyr, maent yn hoelio sylw ac mae eu nodau personol yn uchelgeisiol yn gyson. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar safonau ac fe’i hadlewyrchir yn gryf yn yr enillion sylweddol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn eu gwneud wrth adfer ar ôl y pandemig.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Cafodd Clwstwr ‘Orbit’ y fraint o rannu dull Dylunio’r Cwricwlwm yng Nghynhadledd Rithwir CSC ar y Cwricwlwm i Gymru haf y llynedd. Hefyd, rhannodd yr ysgolion eu taith gyda Chlwstwr Gwledig ehangach y Fro o fewn yr awdurdod lleol fel rhan o ddigwyddiad arddangos yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.