System olrhain yn helpu disgyblion i gyflawni targedau - Estyn

System olrhain yn helpu disgyblion i gyflawni targedau

Arfer effeithiol

St John’s College


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol ddydd gydaddysgol, annibynnol ag iddi ethos Catholig yw Coleg Sant Ioan, sy’n addysgu disgyblion rhwng 3 ac 18 oed.

Mae 540 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, y mae 57 ohonynt yn y dosbarth meithrin a’r babanod, 117 yn yr adran iau, 281 yn yr adran uwchradd, ac 85 yn y chweched dosbarth.  Er bod mwyafrif y disgyblion yn dod o Dde Cymru, mae’r ysgol yn addysgu disgyblion o rannau eraill o Ewrop, UDA, y Dwyrain Canol a’r Dwyrain Pell.

Mae gan ryw 13% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig.  Mae’r ysgol yn annetholus, ac yn gyffredinol, mae disgyblion ym Mlwyddyn 6 yn sicr o gael eu derbyn i’r ysgol uwchradd.  Prif nod yr ysgol yw “sicrhau bod disgyblion yn datblygu eu llawn botensial ym mhob maes o fywyd ysgol.  Yn benodol, mae’r ysgol yn annog plant i ddatblygu agwedd garedig a pharchus tuag at bobl eraill.” 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn y gorffennol, roedd yr ysgol yn defnyddio’r un system olrhain ar gyfer yr holl ystodau oedran.  Wrth werthuso’i heffeithiolrwydd a dadansoddi adborth gan rieni, penderfynodd yr uwch dîm arweinyddiaeth fireinio’r system, gan ei phersonoli ar gyfer gwahanol adrannau o’r ysgol, a’i gwneud yn fwy priodol i oedran.  Prif nodau’r system wedi’i mireinio oedd:

  • Cynorthwyo disgyblion, a darparu ymyrraeth lle bo angen
  • Herio disgyblion i gyflawni o’u gorau
  • Annog dysgu annibynnol a hunanfyfyrio
  • Darparu mwy o gyfleoedd i rieni a disgyblion fonitro cynnydd academaidd trwy gydol y flwyddyn

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn yr ysgol iau, defnyddir lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac ystod o asesiadau safonedig i olrhain disgyblion yn fanwl.  Bydd cydlynwyr pwnc, athrawon a thiwtoriaid dosbarth yn craffu ar wybodaeth olrhain yn drylwyr, fel bod cymorth addysgu yn yr ystafell ddosbarth ac ymyrraeth un i un yn cael eu teilwra yn unol â’r disgybl unigol.  Gosodir targedau bob tymor gyda disgyblion yn eu gwersi Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth a dosbarth.  Caiff y targedau hyn eu monitro’n agos gan bob un o’r athrawon pwnc i sicrhau bod pob disgybl yn gwneud cynnydd.  

Yn yr ysgol uwchradd a’r chweched dosbarth, rhoddir gradd darged i bob disgybl ar gyfer pob pwnc y mae’n ei astudio.  Y radd hon yw’r isafswm y disgwylir i’r disgybl ei chyflawni erbyn diwedd y cyfnod allweddol y mae’n astudio ynddo.  Mae graddau targed yng nghyfnod allweddol 3 wedi’u seilio ar system rifiadol sy’n unigryw i Goleg Sant Ioan.  I ddisgyblion ym Mlwyddyn 9 i  Flwyddyn 13, llythyren yw’r radd darged ar gyfer pob pwnc (A*- G).

Mae’r graddau targed a roddir i ddisgyblion wedi’u seilio ar ystod o ddata ar gyrhaeddiad blaenorol (fel arfer rhagfynegiadau Profion Gallu Gwybyddol neu System Wybodaeth Safon Uwch, gyda her), yn ogystal â barn broffesiynol athrawon.  Rhoddir copi o’u graddau targed i bob un o’r disgyblion ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, sy’n cael ei ludo yng nghefn eu dyddiaduron gwaith cartref, er hwylustod.

Ar ddiwedd pob tymor, rhoddir gradd adolygu i bob disgybl ar gyfer pob pwnc, ar sail eu gwaith trwy gydol y tymor hwnnw.  Wedyn, bydd y disgyblion yn cael taflen (sy’n cael ei phostio gartref ar ôl hynny) yn arddangos eu graddau adolygu, sydd ar ffurf codau lliw, fel a ganlyn:

  • Glas = uwchlaw’r targed
  • Gwyrdd = yn bodloni’r targed
  • Ambr = islaw’r targed
  • Coch = yn sylweddol islaw’r targed

Mae’r ysgol yn mynd ati’n fwriadol i ddileu’r llythrennau neu’r rhifau oddi ar gopïau’r disgyblion o’r daflen i atal disgyblion rhag dadansoddi neu gymharu graddau ei gilydd.

Wedi iddynt gael eu graddau adolygu, bydd disgyblion yn treulio gwers gyda’u tiwtor dosbarth yn trafod a llunio targedau SMART ar gyfer gwella trwy gydol y tymor nesaf.  Mae hyn yn galluogi disgyblion i gymryd perchnogaeth am eu dysgu a’u cynnydd.

Caiff disgyblion a allai fod yn cael trafferth yn academaidd eu hamlygu a’u cyfweld yn unigol gan eu tiwtor dosbarth, eu pennaeth blwyddyn neu’r pennaeth cynorthwyol (academaidd).  Wedyn, mae’r ysgol yn cynnig cymorth ac ymyrraeth, gan gynnwys defnyddio disgyblion hŷn fel arweinwyr dysgu.  Anfonir cerdyn post gartref at ddisgyblion sy’n gweithio’n galed yn gyson a hyd eithaf eu gallu, er mwyn eu llongyfarch.  Gan mai newid ym mhroffil academaidd disgybl yn aml yw’r arwydd cyntaf o bryder bugeiliol, mae’r system hefyd yn cefnogi a llywio’r gwasanaeth bugeiliol rhagorol a ddarperir gan yr ysgol eisoes.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Yn yr ysgol iau, mae bron pob un o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn cyflawni’r dangosydd pwnc craidd yn gyson, gyda 100% yn cyrraedd Lefel 4 eleni.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion y nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol yn cyflawni Lefel 4.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud y cynnydd disgwyliedig neu’n uwch mewn asesiadau Saesneg a mathemateg, ac mae pob grŵp blwyddyn yn gwneud dros 12 mis o gynnydd mewn medrau darllen.

Yn yr ysgol uwchradd, mae bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd uwchlaw’r disgwyl.  Gellir gweld dilyniant clir trwy gydol y flwyddyn wrth i ddisgyblion symud o un lliw i’r nesaf gyda gwaith caled a chymorth gan yr ysgol.  Mae dadansoddiad gwerth ychwanegol ar gyfer TGAU a Safon Uwch yn dangos bod llawer o ddisgyblion yn cyflawni gradd yn uwch ar gyfartaledd na’r radd a ragwelwyd ar eu cyfer yn y Profion Gallu Gwybyddol neu’r System Wybodaeth Safon Uwch.

Ar draws yr ysgol, mae disgyblion yn fwy hyderus yn dadansoddi eu perfformiad eu hunain ac yn creu targedau ystyrlon ar gyfer gwella.  Mae hyn wedi codi safonau ac yn atal disgyblion rhag gorffwys ar eu rhwyfau.