Symudiadau rheoledig: Defnydd effeithiol o symudiadau rheoledig gan awdurdodau lleol ac ysgolion
Adroddiad thematig
Mae ein hadroddiad diweddaraf yn edrych ar sut gall ysgolion oresgyn y rhwystrau rhag rheoli symudiadau disgyblion.
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A1 Ddarparu arweiniad clir, cyfredol i awdurdodau lleol, ysgolion ac UCDau ar ddefnyddio symudiadau rheoledig a rhaglenni cymorth bugeiliol, yn enwedig yn ymwneud ag amserlenni rhan-amser
- A2 Cryfhau amddiffyniad cyfreithiol a mesurau amddiffynnol yn ymwneud â symudiadau rheoledig i adlewyrchu’r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd i ddisgyblion sy’n cael eu gwahardd yn barhaol
- A3 Casglu a chyhoeddi data ar symudiadau rheoledig a gwaharddiadau ar lefel awdurdodau lleol a chenedlaethol
- A4 Ystyried ehangu mesurau perfformiad, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 4, i hyrwyddo arfer gynhwysol ar lefel ysgolion ac awdurdodau lleol
Dylai awdurdodau lleol:
- A5 Ddarparu’r gallu i ddisgyblion a’u teuluoedd fanteisio ar wybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd cyn ac yn ystod y broses symudiad rheoledig
- A6 Monitro defnydd a phriodoldeb rhaglenni cymorth bugeiliol ar lefel ysgolion
- A7 Casglu data ar symudiadau rheoledig a defnyddio’r wybodaeth hon i arfarnu effeithiolrwydd rhaglenni cymorth bugeiliol
- A8 Hyrwyddo datblygu a defnyddio protocolau symudiadau rheoledig rhwng ysgolion, lle bynnag y bo hynny’n bosibl
- A9 Sicrhau y gall disgyblion a’u teuluoedd fanteisio ar gyngor ac asesiadau arbenigol yn brydlon er mwyn sefydlogi lleoliadau mewn ysgolion cartref lle bynnag y bo hynny’n bosibl
Dylai ysgolion:
- A10 Sicrhau y gall disgyblion a’u teuluoedd fanteisio ar wybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd
- A11 Adolygu’r defnydd o raglenni cymorth bugeiliol yn sgil arweiniad cenedlaethol a lleol yn gynnar yn y broses symudiadau rheoledig
- A12 Sicrhau y caiff gwybodaeth allweddol ei rhannu â’r ysgol sy’n derbyn yn ystod y cyfarfod cychwynnol