Sŵn llwyddiant – defnyddio cerddoriaeth i ddatblygu medrau llythrennedd
Quick links:
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae Ysgol Gynradd Rhydypenau yn ysgol arloesi lle y rhoddir blaenoriaeth uchel i gerddoriaeth. Mae’r ysgol wedi nodi bod amser cynllunio, paratoi ac asesu athrawon yn fodd o gyflawni rhagoriaeth o ran darpariaeth cerdd. O ran y gyllideb, mae cyllid yn cael ei ddyrannu i gyflogi athro profiadol sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth. Mae gan y pwnc ei ystafell ddosbarth ei hun, sydd â chyflenwad da o ystod eang o offerynnau. Mae hyn yn galluogi cysondeb a dilyniant o un wythnos i’r llall ac yn galluogi disgyblion i feithrin cysylltiadau effeithiol rhwng cerddoriaeth, llythrennedd a rhifedd. Mae corau a chlybiau cyfansoddi caneuon allgyrsiol yn ychwanegu at y cyfleoedd cerddorol sydd ar gael i bob disgybl. Cerddorfa’r ysgol yw un o’r rhai mwyaf o unrhyw ysgol gynradd yng Nghymru.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Mae’r ysgol o’r farn bod cerddoriaeth yn rhan hanfodol o ddatblygiad plentyn. Mae cynllun gwaith manwl yn canolbwyntio ar y pedwar prif linyn (canu, chwarae, cyfansoddi ac arfarnu). Mae disgyblion yn archwilio ystod o offerynnau yn rheolaidd, fel dysgu sut i chwarae’r iwcalili a’r gitâr, ac yn cysylltu eu gwaith cyfansoddi â’r fframwaith cymhwysedd digidol trwy feddalwedd cyfansoddi cerddoriaeth. Mae disgyblion yn elwa o ran eu lles, gwaith tîm a’u gwydnwch a, thrwy gynllunio’n ofalus, caiff cerddoriaeth ei defnyddio yn Rhydypenau i gyflawni safonau uchel mewn llythrennedd hefyd.
Caiff disgyblion brofiad o ddefnyddio eu medrau ysgrifennu mewn cysylltiad â’r cwricwlwm cerddoriaeth, fel trwy greu ‘rapiau’ yn ymwneud â masnach deg a chyfansoddi fersiynau ‘canu’r felan’ o ganeuon gwreiddiol ar gyfer gwasanaethau. Caiff cerddoriaeth ei defnyddio’n effeithiol i ddatblygu medrau llefaredd; mae disgyblion yn gwrando ar gyfansoddiadau ac yn siarad at ddiben penodol, yn arfarnu’r hyn y maent wedi’i glywed gan ddefnyddio geirfa gerddorol dechnegol. Bob tymor, mae’r ysgol yn cynnal cyngerdd cymunedol ac yn mynd â disgyblion i berfformio mewn lleoliadau fel Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae’r perfformiadau hyn yn darparu ffocws gwerthfawr ar gyfer gwersi a chlybiau. Mae ymweliadau rheolaidd â’r cartref gofal lleol a’r llyfrgell yn rhoi rhagor o gyfleoedd i ddisgyblion rannu eu doniau, datblygu eu hyder a chryfhau cysylltiadau cymunedol. Mae ymweliadau gan gyn-ddisgyblion ac aelodau ‘Goldies Cymru’ hefyd yn ysbrydoli dysgwyr yn eu gwaith.
Mae’r staff yn cydweithio’n agos fel tîm Celfyddydau Mynegiannol, a galluogodd cydweithio diweddar i grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 6 greu cerdd am Martin Luther King. Troswyd y gerdd hon yn gân. Rhoddwyd y gân i gôr yr ysgol a recordiwyd ei berfformiad. Yna, defnyddiwyd y recordiad gan y clwb dawns i gynllunio dawns – a datblygwyd y cwbl o’r darn cychwynnol o ysgrifennu creadigol, gyda’r athrawon a’r disgyblion yn cydweithio â’i gilydd.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Cydnabuwyd ansawdd ysgrifennu’r disgyblion trwy ennill gwobrau mewn cystadlaethau cenedlaethol, fel Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru, a gwahoddiadau i berfformio mewn lleoliadau mawreddog, fel Y Senedd. Mae’r ystod eang o brofiadau cerddorol yn caniatáu llawer o gyfleoedd i ddisgyblion ymgysylltu â’u dysgu. Mae arddangos cyfansoddiadau gwreiddiol yn ystod cyngherddau cymunedol yn darparu her i ddysgwyr mwy abl, oherwydd eu bod yn gwybod y gall gwaith o ansawdd uchel sy’n cael ei greu yn y dosbarth gael ei berfformio ar lwyfan o flaen eu rhieni a’u cyfoedion. Mae’r cysylltiad amlwg hwn hefyd yn gwthio cerddorion mwy abl mewn tasgau cyfansoddi, lle y cânt eu hannog i arwain a chynorthwyo disgyblion eraill, a chyrraedd eu potensial trwy greu darnau unigol soffistigedig o fewn gwaith ensemble.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae’r athro cerdd yn ‘Hyrwyddwr y Celfyddydau’ ar gyfer y rhanbarth, ac mae’n mynd i ysgolion ar draws de Cymru yn rheolaidd i ddarparu gweithdai sy’n cysylltu llythrennedd a cherddoriaeth. Caiff gwaith disgyblion ei rannu’n rheolaidd ar Twitter (#rpsmusic2018). Sefydlwyd rhwydwaith o gydlynwyr cerdd cyfagos, sydd â’r nod o rannu adnoddau a syniadau, a chynorthwyo gweithwyr proffesiynol nad ydynt yn arbenigwyr. Byddai’r ysgol yn croesawu diddordeb gan unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan.