Sut mae’r ysgol yn cynllunio profiadau creadigol i ddwysau dysgu’r disgyblion am hanes a diwylliant eu cymuned leol.

Arfer effeithiol

Ysgol Gynradd Nefyn

Plentyn mewn ystafell ddosbarth yn pinio gwaith celf ar fwrdd arddangos.

Gwybodaeth am yr Ysgol 

Mae Ysgol Gynradd Nefyn wedi ei lleoli yn nhref fechan Nefyn, ar arfordir gogleddol Pen Llŷn yng Ngwynedd. Mae’n gwasanaethu’r dref a’r ardaloedd gwledig cyfagos gan ddarparu addysg i ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae disgyblion o Ysgol Morfa Nefyn yn ymuno â’r ysgol ym Mlwyddyn 4. Mae 137 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, yn cynnwys 18 o blant oed meithrin. Mae 11% o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim ac mae 8.4% o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol. Mae tua 76% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol 

Mae Ysgol Gynradd Nefyn yn darparu cyfleoedd creadigol cyfoethog i’r disgyblion i ddatblygu’n bersonol ac yn addysgol, gan osod angor o ofal a lles i bob plentyn cyn iddynt hwylio’r don. Maent yn anelu i sicrhau addysg o’r ansawdd orau bosibl i bob disgybl yn unol â’u hoedran, eu gallu a’u diddordebau er mwyn iddynt dyfu yn bersonoliaethau llawn, datblygu ac ymarfer yr holl ddoniau a chymhwyso eu hunain i fod yn aelodau cyflawn o’u cymuned.  

Mae gan Ysgol Nefyn weledigaeth glir sy’n sicrhau bod y disgyblion yn datblygu’n unigolion mentrus, annibynnol, hyderus a chreadigol.  Mae dysgwyr yn cael eu hannog a’u grymuso i fod yn greadigol ac arloesol.  Mae cwricwlwm Ysgol Gynradd Nefyn yn eang a chytbwys ac yn ffocysu ar ddatblygu medrau creadigol y disgyblion boed yn gelfyddyd, drama, neu gerddoriaeth mewn gweithgareddau trawsgwricwlaidd er mwyn datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol disgyblion ochr yn ochr a’u lles.  

Mae’r ysgol yn rhoi ffocws ar feithrin yn y disgyblion falchder at eu bro a’u gwlad a datblygu ynddynt barch at y byd maent yn byw ynddo, yn gyffredinol ac yn arbennig yng nghyd-destun eu bro a’u hamgylchedd. O ganlyniad, mae’r athrawon yn cynllunio profiadau creadigol a chyfoethog er mwyn dysgu am yr ardal leol a thu hwnt.  Trwy ymgysylltu â’r celfyddydau mynegiannol, caiff y disgyblion gyfleoedd niferus i archwilio eu diwylliant eu hunain, y gwahaniaethau o fewn eu bro, a hanes yr ardal leol yn hyderus.   

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd 

Mae Ysgol Gynradd Nefyn yn sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd creadigol, amrywiol a diddorol trwy ddarparu ar eu cyfer gwricwlwm sy’n berthnasol, yn wahaniaethol, yn eang a chytbwys.  

Mae gweledigaeth cwricwlwm yr ysgol yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau’r disgyblion wrth iddynt ymfalchïo yn eu cynefin, treftadaeth a diwylliant cymunedol. Mae holl gymuned yr ysgol wedi bod yn rhan o greu’r weledigaeth sy’n ffocysu ar ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel, sy’n cyffroi ac yn ysgogi’r dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.   

Mae’r Pennaeth yn gwneud defnydd rheolaidd o grantiau amrywiol i drefnu ymweliadau a gweithdai hynod effeithiol sy’n ehangu gorwelion a dyfnhau medrau celf, drama a cherddoriaeth y disgyblion. Enghraifft o hyn yw cydweithio gydag artistiaid lleol a beirdd cenedlaethol i greu barddoniaeth a murlun sy’n adlewyrchu hanes y gymuned leol. Drwy ddarganfod ffeithiau a gwybodaeth hanesyddol am enwau lleol, atgyfnerthir hunan barch a balchder y disgyblion tuag at eu cynefin.  

Mae’r ymweliadau a’r gweithdai ysgogol yn plethu cyfleodd i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh yn effeithiol iawn. Er enghraifft, wrth ddarparu cyfleoedd bwriadus i ddisgyblion ysgrifennu stori a’i throsi i greu ffilm animeiddio am hanes pysgotwyr penwaig Nefyn. Trwy’r profiadau hyn, mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd cyfoethog i ddwysáu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth am fywydau trigolion ddoe a heddiw. Mae’r profiadau dysgu hefyd yn dyfnhau dealltwriaeth y disgyblion o’u hardal leol a’u hanes. Er enghraifft, maent yn deall manteision byw’n lleol a’r effaith y mae ail gartrefi yn ei gael ar yr ardal drwy greu a pherfformio rap ‘hawl i fyw adra.’ 

Mae’r athrawon yn trefnu ystod eang o ddigwyddiadau mewn partneriaeth a’r gymuned sy’n atgyfnerthu ymdeimlad y disgyblion o berthyn. Er enghraifft, wrth i ddisgyblion ddysgu am bysgotwyr lleol yn yr Amgueddfa forwrol, barddoni a gwneud gwaith celf ar y traeth ac ymweld yn rheolaidd â’r cartref henoed i gyfathrebu a pherfformio. 

Mae’r holl brofiadau dysgu hyn yn cael eu cynllunio’n ofalus ac mae lle amlwg i lais ac anghenion y disgyblion yn y cynlluniau dysgu.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr? 

Mae ffocws cyson yr athrawon ar gynllunio profiadau creadigol i ddwysáu dysgu’r disgyblion am hanes a diwylliant eu cymuned leol yn datblygu medrau llythrennedd, rhifedd, TGCh a chreadigol y disgyblion yn effeithiol. Mae medrau llafar y disgyblion wedi gloywi’n llwyddiannus, er enghraifft wrth defnyddio amrywiaeth addas o eirfa a phatrymau iaith i gyfansoddi a pherfformio cân sianti môr a chymryd rhan mewn gweithdai drama amrywiol. Bu’r prosiect mentergarwch ‘Creu Cadwyni Cymru’ yn gyfrwng addas i ddatblygu medrau rhifedd disgyblion wrth iddynt ddysgu am gostau ac elw. Drwy gydweithio gyda artistiaid a cherddorion enwog lleol, llwyddwyd i ddatblygu balchder y disgyblion at y Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae’r gwaith celf yn cael ei arddangos yn chwaethus ar furiau’r ysgol a’r gwaith rapio, cyfansoddi a barddoni wedi ei gadw ar gof a chadw yn ddigidol.  

Drwy’r profiadau creadigol ac ymarferol cyfoethog a gyflwynir yn yr ysgol mae’r disgyblion yn datblygu’n ddysgwyr mentrus a chreadigol. Cânt brofiadau addysgol o’r ansawdd orau mewn amgylchedd ac awyrgylch lle maent yn gallu tyfu, datblygu ac aeddfedu i ddod yn unigolion hyderus, yn ymwybodol o les eraill ac yn aelodau cyfrifol o’r gymdeithas. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda? 

Mae consortiwm y gogledd, GwE, wedi rhannu’r arfer dda a welir yn llyfrau gwaith y disgyblion gydag ysgolion eraill ar draws y rhanbarth ac mae athrawon o ysgolion eraill wedi dod i weld arfer dda yn yr ysgol.  Mae gwaith creadigol y disgyblion yn cael llwyfan o fewn y gymuned yn rheolaidd mewn arddangosfeydd yn ffenestri’r siopau.