Sut mae’r ysgol wedi datblygu ymagwedd effeithiol ac ymatebol at addysgu a dysgu - Estyn

Sut mae’r ysgol wedi datblygu ymagwedd effeithiol ac ymatebol at addysgu a dysgu

Arfer effeithiol

Grangetown Nursery School


Gwybodaeth am yr ysgol

Sefydlwyd Ysgol Feithrin Grangetown yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Cwblhawyd yr adeilad presennol ar ddiwedd y 1980au, ac adeiladwyd estyniad yn 2011. Mae’r ysgol yn cynnig lleoedd rhan-amser ar gyfer 160 o blant rhwng 3 a 4 oed; 80 yn y bore ac 80 yn y prynhawn. 

Caiff yr ysgol ei chynnal yn dda, mae’n cynnwys adnoddau da ac mae mewn cyflwr da gydag amgylcheddau dysgu cynllun agored, wedi’u hystyried yn ofalus, dan do ac yn yr awyr agored. Nod sylfaenol yr ysgol yw darparu amgylchedd hapus, gofalgar, a diogel lle mae’r aelodau ieuengaf o’r gymuned yn ffynnu ac yn datblygu yn ddeallusol, yn emosiynol, yn gorfforol, yn ysbrydol ac yn foesol. 

Mae’r ysgol yn dathlu amrywiaeth y gymuned, gan roi ystyriaeth ofalus i’r amrywiaeth o ddiwylliannau, cefndiroedd, anghenion unigol a rhywedd, a’u parchu. Mae’n sicrhau bod yr amgylchedd yn adlewyrchu natur amlieithog Grangetown. Rhoddir cyfleoedd i bob un o’r plant ddysgu gan ystyried eu cyfnod datblygu unigol. Mae’r ysgol yn gweld mai rhieni a gofalwyr yw addysgwyr cyntaf a phwysicaf eu plant. Ei nod yw datblygu perthnasoedd gweithio cadarnhaol â theuluoedd, gan ystyried eu hanghenion, wrth iddynt gynorthwyo pob plentyn yn ei gamau cyntaf y tu hwnt i’r cartref. Mae’r ysgol wedi datblygu ymagwedd integredig, gan greu cysylltiadau â’r gymuned ehangach, a meithrin perthnasoedd diffuant gyda gweithwyr proffesiynol eraill ac asiantaethau allanol. Mae’r ysgol yn gweithio’n agos ag ysgolion cyfagos er mwyn gwneud y cyfnod pontio o’r ysgol feithrin i’r ysgol gynradd yn brofiad hapus a chadarnhaol. Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd diogel a saff sy’n gyffrous ac yn ysgogol. Yn Ysgol Feithrin Grangetown, mae plant yn ffynnu ac yn ymgysylltu’n ddiffuant â’u dysgu, gan eu gwneud yn ddysgwyr hapus, annibynnol, hyderus ac unigol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae darpariaeth yn yr ysgol wedi cael ei chyflwyno mewn ffordd gyfannol erioed, felly roedd gweithredu Cwricwlwm i Gymru yn rhywbeth yr oedd yr ysgol yn ei ddathlu. Mae staff yn targedu dysgu ym man cychwyn y plentyn ac yn mynd i’r afael â’i anghenion datblygiadol unigol. Maent yn gweld bod gan blant chwilfrydedd greddfol a’u bod yn ddysgwyr arloesol. Eu nod yw canolbwyntio ar chwilfrydedd y plant i sicrhau bod profiadau dysgu yn berthnasol a dilys. Roedd Cwricwlwm i Gymru yn cefnogi eu darpariaeth ac yn ei godi ymhellach.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Caiff addysgu a dysgu ymatebol ei ymgorffori o fewn yr ysgol ac mae wrth wraidd y cwricwlwm. Mae deall dysgwyr a rôl yr oedolyn sy’n galluogi yn hanfodol o fewn y cwricwlwm teilwredig. Mae gwerthoedd yr ysgol yn gynhenid ac yn cael eu cynrychioli o fewn pob profiad rhyngweithio a dysgu a gynigir. Mae cydweithio’r ysgol ag asiantaethau allanol a’u dylanwadau allweddol, fel Reggio, Froebel a Ferre Leavers, wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad yr ysgol. Mae eu cynllunio’n adlewyrchu’r gymuned a’r plant y maent yn eu haddysgu. Mae’n cwmpasu’r plentyn cyfan ac yn ystyried profiadau blaenorol a’u cam datblygu unigol. Mae’r cwricwlwm yn cynnwys elfennau craidd a phrofiadau allweddol, fel llythrennedd bwyd dilys, o’r hedyn i’r plât, gyda’n Big Bocs Bwyd a’n rhandir cymunedol. Caiff plant gyfle i ailymweld, galw i gof ac ymgorffori eu medrau. Cyflwynir pob un ohonynt drwy ddarpariaeth wedi’i chynllunio’n effeithiol ac yn ofalus dan do ac yn yr awyr agored, ac mae ymarferwyr yn ymatebol i arsylwadau a gweithredoedd dysgwyr. Mae deialogau a myfyrdodau proffesiynol dyddiol yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn ystyrlon, yn ddilys ac yn raddol. Mae ymestyn dysgu trwy addysgu ymatebol yn sicrhau lefelau uchel o ymgysylltu ac ymglymiad, meddwl cynaledig ar y cyd a llif organig o addysgu a dysgu.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r effaith wedi bod yn allweddol ar anghenion datblygiadol dysgwyr. Caiff arlwy’r cwricwlwm ei deilwra i’r garfan o blant, gan wahaniaethu darpariaeth o’r bore i’r prynhawn, hyd yn oed. Mae perthnasoedd â phlant a rhieni yn gryfder yn yr ysgol, ac mae effaith y perthnasoedd hyn ochr yn ochr â’r cwricwlwm yn amlwg.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer trwy’r clwstwr lleol o ysgolion a gwaith y gymuned dysgu proffesiynol, a thrwy groesawu ymwelwyr i’r ysgol, yn ogystal.