Sut mae Ysgol Gynradd Santes Gwladys Bargoed yn datblygu annibyniaeth disgyblion yn y blynyddoedd cynnar, a sut mae hyn yn parhau wrth i ddisgyblion symud trwy’r ysgol.
Quick links:
Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector
Mae Ysgol Gynradd Santes Gwladys Bargoed, sydd wedi’i lleoli ar ochr ogleddol tref Bargoed ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, yn gwasanaethu disgyblion mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf. Mae 433 o ddisgyblion ar y gofrestr, a 79 o blant yn y dosbarth Meithrin. Mae mwyafrif y disgyblion o gefndir ethnig gwyn a’r gweddill o grwpiau ethnig cymysg. Mae 27.4% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a nodwyd bod gan 8.8% ohonynt anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae tri y cant o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, ac nid yw unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.
Yn gyffredinol, mae disgyblion yn dechrau yn y dosbarth Meithrin ymhell islaw’r deilliannau disgwyliedig ym mhob maes dysgu. O ganlyniad, mae’r ysgol yn rhoi pwys uchel ar ddarpariaeth y Blynyddoedd Cynnar. Mae’r dyheadau sydd ganddynt ar gyfer yr holl ddisgyblion, ni waeth beth yw eu hoedran, yn sicrhau eu bod yn cyflawni’r safonau uchaf o’r cychwyn.
Mae staff yn deall pwysigrwydd hyrwyddo’r egwyddorion, yr ymagweddau a’r gwerthoedd a ddisgwylir o oedran cynnar ac wrth i ddisgyblion symud ymlaen trwy’r ysgol. O ganlyniad, gwneir pob ymdrech i annog ymgysylltiad disgyblion a’u mwynhad o ddysgu, tra’n meithrin eu hannibyniaeth ar yr un pryd. O ddiwrnod cyntaf disgybl, mae’r ysgol yn cyflwyno neges gyson eu bod yn dod i’r ysgol i ddysgu, a bod dysgu yn ddifyr ac yn hwyl. Mae hyn yn sefydlu’r meddylfryd sydd gan ddisgyblion trwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol.
Mae’r ysgol yn sefydlu arferion dyddiol sy’n meithrin synnwyr disgyblion o les a diogelwch. Mae sicrhau bod disgyblion yn dod i mewn i amgylchedd tawel a hapus yn hanfodol os ydynt am ddysgu’n effeithiol. Mae’r ysgol yn cynnwys cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion ganu gan ei fod yn gwella teimladau cadarnhaol o les o fewn y lleoliad.
Natur y strategaeth neu’r gweithgarwch y nodwyd ei fod yn arfer sy’n arwain y sector
Mae’r ysgol yn rhoi pwys ar ei sesiynau cysylltu. Cynhelir y sesiynau hyn cyn i ddisgyblion ddechrau yn y dosbarth Meithrin, gan feithrin perthnasoedd â rhieni a gofalwyr a’u galluogi i ymgyfarwyddo â’u hamgylchedd newydd. Mae system mynediad graddol hefyd yn cyfrannu at ddisgyblion yn datblygu synnwyr o les, sydd nid yn unig yn eu galluogi i feithrin perthnasoedd ond hefyd i gaffael hyder cynyddol. Mae’r ysgol yn sefydlu annibyniaeth gynnar wrth i ddisgyblion bontio rhwng dosbarthiadau a symud o’r dosbarth cyn-Meithrin i’r dosbarth Meithrin, a’r dosbarth Meithrin i’r dosbarth Derbyn. Mae’r ysgol yn sicrhau bod disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol yn elwa ar gyfnod pontio estynedig sy’n eu galluogi i ymgartrefu’n hapus yn eu hamgylchedd newydd.
Cydnabyddir bod llais y disgybl yn hanfodol i ddatblygu dysgu’n annibynnol. Mae staff yn gwerthfawrogi’r hyn mae disgyblion ei eisiau o’u hamgylchedd dysgu ac yn neilltuo amser i drafod hyn gyda nhw. Y synnwyr hwn o berchnogaeth sy’n hyrwyddo parch y disgyblion am yr amgylchedd: caiff y gwerthoedd a’r rheolau sydd eu heisiau ar blant eu creu ar y cyd â rhai’r ysgol.
Mae adran Blynyddoedd Cynnar yr ysgol wedi mabwysiadu’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau nas cynhelir, gyda phob un o’r staff yn cael hyfforddiant ar arweiniad Galluogi Dysgu. O ganlyniad, mae staff wedi caffael dealltwriaeth gadarn o’u rôl yn datblygu medrau ac annibyniaeth disgyblion trwy arsylwi effeithiol. Mae staff yn defnyddio ‘sylwi, dadansoddi ac ymateb’ y cylch arsylwi, sy’n rhoi’r plentyn yn ganolog i ddatblygu ei annibyniaeth. Mae staff yn gwerthfawrogi rôl yr Oedolyn sy’n Galluogi ac yn defnyddio adegau addysgadwy i alluogi disgyblion i ddod yn gynyddol annibynnol mewn Amgylchedd Effeithiol. Trwy fodelu, maent yn cynorthwyo disgyblion i ddefnyddio’r ardaloedd y maent yn dewis dysgu ynddynt yn effeithiol. Mae staff yn cynnwys diddordebau disgyblion mewn cynllunio profiadau difyr. Maent yn sicrhau bod disgyblion yn cael digon o amser i ddatblygu medrau mewn amgylchedd heb risgiau.
Mae’r ysgol yn defnyddio adnodd cyhoeddedig i ddatblygu meddwl a meithrin gwydnwch a hyder disgyblion. Mae’r ysgol yn defnyddio arfer asesu ar gyfer dysgu yn effeithiol, gan sicrhau bod disgyblion yn gwybod bod eu cyflawniadau’n cael eu gwerthfawrogi, ac, yn ei hanfod, yn annog disgyblion i fyfyrio ar eu dysgu eu hunain, a’i asesu.
Mae amgylcheddau dan do ac awyr agored yr ysgol yn galluogi disgyblion i gael mynediad at ardaloedd yn hawdd, gan ddatblygu eu hyder fel dysgwyr annibynnol ymhellach.
Effaith ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr
O’u blynyddoedd cynnar ymlaen, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos lefel uchel o annibyniaeth, gan fanteisio ar y gwahanol ddarpariaethau â hyder. Maent yn dewis ardaloedd yr hoffent ymgysylltu â nhw, yn chwarae’n dda gyda’i gilydd, yn rhannu, ac yn cymryd eu tro. O ganlyniad, mae disgyblion yn cyflawni safonau dysgu uchel wrth iddynt symud trwy’r ysgol.
Mae gwaith grŵp, a gyflwynir yn nosbarthiadau blynyddoedd cynnar yr ysgol, yn helpu atgyfnerthu cysyniad disgyblion ohonyn nhw eu hunain fel dysgwyr llwyddiannus. Maent yn gweld adegau lle mae’n ymddangos eu bod yn gwneud pethau’n anghywir fel cyfle i ailfeddwl, ac yn cydnabod bod hyn yn rhan hanfodol o ddysgu.
Mae athrawon yn modelu strategaethau datrys problemau ac yn darparu cyfleoedd mentora ar gyfer disgyblion hŷn. Maent yn annog disgyblion i ddefnyddio’u prosesau meddwl eu hunain i gael atebion, yn dod yn gynyddol hyderus yn mynegi eu dewisiadau, gan gyfiawnhau eu canlyniadau, a myfyrio ar eu dysgu. Maent yn datblygu gallu i ddewis tasgau sy’n ymestyn eu medrau unigol.
Yn unol â datganiad cenhadaeth yr ysgol, mae staff yn annog disgyblion i feddwl yn greadigol trwy ddrama, mathemateg ymarferol, ysgrifennu creadigol, athroniaeth ac elfennau o faes dysgu a phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Mae pob un ohonynt yn ymestyn medrau, yn dyfnhau’r meddwl ac yn ymestyn hunaniaeth y disgyblion fel dysgwyr annibynnol. Mae disgwyliadau uchel pob un o’r staff yn gyrru meddylfryd y disgyblion o’r dosbarth Meithrin trwodd i Flwyddyn 6.
Mae athrawon yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion weithio’n annibynnol, yn ogystal ag ar y cyd, gan ddatblygu hyder ac ymestyn dysgu ar bob lefel. Maent yn dewis testunau sy’n ennyn diddordeb disgyblion ac yn eu galluogi i ddatblygu ystod o fedrau ar draws y cwricwlwm, gan ddarparu cyd-destunau dilys ac ystyr go iawn, sy’n hyrwyddo’r hyder sy’n ofynnol gan ddysgwyr annibynnol bob amser.
O’u diwrnod cyntaf un yn Ysgol Santes Gwladys, cydnabyddir mai hunan-barch yw’r brif elfen wrth ddatblygu dysgwyr hyderus, llwyddiannus ac annibynnol. Caiff llwyddiant yr ymagwedd hon ei gadarnhau gan y safonau uchel iawn a gyflawnir erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol, er gwaethaf lefel yr anfantais yn y gymuned.