Sut defnyddiodd Ysgol Gynradd Adamsdown arweinyddiaeth ddosbarthedig i gefnogi prosesau hunanwerthuso llwyddiannus a rhoi newidiadau ysgol gyfan ar waith

Arfer effeithiol

Adamsdown Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol neu’r darparwr

Mae Ysgol Gynradd Adamsdown yn ysgol gymunedol sydd wedi’i lleoli yn ardal canol dinas Adamsdown yng Nghaerdydd. Mae mwyafrif helaeth y dalgylch yn disgyn ymhell o fewn y 10% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae llawer o blant yn Adamsdown yn wynebu rhwystrau rhag dysgu, sef Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) (72%), anghenion dysgu ychwanegol (ADY) (9%), yn derbyn prydau ysgol am ddim (65%), materion amddiffyn plant, tai gwael, problemau iechyd a phresenoldeb gwael.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ar ôl cael eu gosod mewn categori Estyn, ‘angen gwelliant sylweddol’, yn 2015, dechreuodd yr ysgol ar daith gyflym i sicrhau bod arweinyddiaeth yn cael ei dosbarthu ar draws y tîm addysgu. Cafodd pob aelod o’r staff addysgu hyfforddiant trylwyr i fod yn arweinwyr cwricwlwm, a dyrannwyd cyfrifoldebau iddynt yn unol â’r raddfa gyflog athrawon. Yn ychwanegol, arweiniodd archwiliad o fedrau a phrofiadau athrawon, ochr yn ochr â rhaglen dysgu proffesiynol gynhwysfawr dros flwyddyn academaidd, at roi rhaglen hunanwerthuso effeithiol ar waith. Sicrhaodd y camau hyn fod yr ysgol yn cael ei thynnu o gategori Estyn ar ôl pedwar tymor yn unig. Caniataodd hyn gyfle i’r pennaeth adolygu gweledigaeth ac arferion yr ysgol cyn gweithredu’r cwricwlwm newydd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Er mwyn cynnal gwelliannau diweddar a wnaed, roedd angen i’r pennaeth adolygu gweledigaeth yr ysgol gyda’r holl randdeiliaid. Roedd hyn yn cynnwys ymgorffori rhaglen fonitro, gwerthuso ac adrodd i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn ymwybodol o waelodlin safonau’r ysgol ar draws pob maes o fywyd yr ysgol, wedi’i dilyn gan y blaenoriaethau cyn cyflwyno cwricwlwm newydd. Wedyn, datblygwyd llinell amser i roi’r weledigaeth ar waith. Trwy gyfres o ddiwrnodau hyfforddiant ysgol gyfan, datblygodd rhanddeiliaid yr ysgol ei nodau ar gyfer y 3 i 5 mlynedd nesaf. Ailysgrifennwyd gweledigaeth yr ysgol i adlewyrchu anghenion amrywiol y dysgwyr yn gywir. Roedd y broses hon yn cynnwys arweinwyr, llywodraethwyr, staff, disgyblion, rhieni a chysylltiadau â’r gymuned.

I gefnogi’r tîm arweinyddiaeth i roi’r weledigaeth ar waith, cynhaliwyd treial arloesol i gyflwyno system newydd ar gyfer grwpio disgyblion yn 2017. Arweiniwyd hyn gan y pennaeth cynorthwyol ac athrawon ar y raddfa gyflog uwch. Dadansoddwyd data a gynhyrchwyd o gyfarfodydd cynnydd disgyblion, a dangosodd fod disgyblion wedi gwneud cynnydd cyflym yn y treial. Dadansoddwyd y data hwn gan arweinwyr â chyfrifoldeb addysgu a dysgu ar draws y pynciau craidd, sef Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth. Adolygwyd yr holl agweddau ar y cwricwlwm, wedi’i gefnogi gan athrawon ar y brif raddfa gyflog a oedd yn arwain meysydd pynciau sylfaen.

Roedd cyfrifoldebau arwain yn ystod y cyfnod treialu yn cynnwys adrodd i randdeiliaid, arwain cyfarfodydd, monitro, gwerthuso ac adrodd am weithgareddau, mynychu cyfleoedd dysgu proffesiynol, ymchwil, a dadansoddi data disgyblion yn helaeth.

Cafodd yr holl staff addysgu eu cynnwys mewn datblygu’r system newydd hon, gan sicrhau bod y gymuned gyfan yn parhau i ddylanwadu ar welliannau yn sgil newidiadau i’r agenda genedlaethol ac anghenion esblygol y disgyblion. Arweiniodd hyn at ymrwymiad cynyddol gan y gymuned i ddeall yr anghenion a’r rhesymau dros newid.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r ysgol wedi rhoi system newydd arloesol ar waith ar gyfer addysgu a dysgu ac wedi llwyddo i greu cwricwlwm ar gyfer dysgwyr sy’n sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gwneud cynnydd o’u mannau cychwyn unigol.

Mae arweinyddiaeth ddosbarthedig wedi ymestyn set sgiliau ymarferwyr, gan sicrhau eu bod i gyd wedi gallu chwarae rôl mewn datblygu rhaglen wella’r ysgol. Darparon nhw dystiolaeth sylweddol i sicrhau dilyniant ar y raddfa gyflog uwch, yn ogystal â datblygu i arweinyddiaeth ganol ac uwch arweinyddiaeth.

Cafodd Adamsdown adroddiad cryf gan Estyn ym mis Mai 2023.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Trwy astudiaethau achos amrywiol a gasglwyd ynghyd gan y consortiwm a Phrifysgol Caerdydd.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn