Strategaethau effeithiol yn cefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol disgyblion

Arfer effeithiol

Redhill Preparatory School


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae staff yn Ysgol Baratoadol Redhill yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddeallusrwydd emosiynol.  Maent yn ymwybodol ei bod yn bwysig i ddisgyblion gael cydbwysedd yn gymdeithasol ac yn emosiynol i fod yn ddysgwyr hapus a llwyddiannus.

Trwy arsylwi, holiaduron a grwpiau ffocws, daeth staff yn ymwybodol fod y byd modern yn cael effaith niweidiol ar wydnwch emosiynol a chymdeithasol disgyblion.  Yn genedlaethol, ceir tystiolaeth gynyddol o wydnwch gwael ymhlith disgyblion o bob oedran, sy’n arwain at iechyd meddwl gwaeth mewn ysgolion, ac yn ddiweddarach mewn bywyd.  Penderfynodd arweinwyr Ysgol Baratoadol Redhill ymdrechu hyd yn oed yn fwy i gefnogi anghenion cymdeithasol ac emosiynol yr holl ddisgyblion er mwyn hyrwyddo iechyd meddwl gwell trwy wella deallusrwydd emosiynol.

Ailfywiogodd yr ysgol ei harferion presennol ar gyfer amser cylch, grwpiau ‘Cawr Mawr Cyfeillgar’ (‘Big Friendly Giant’), a holiaduron i ddisgyblion, sy’n ymwneud yn benodol â lles cymdeithasol ac emosiynol.  Ychwanegodd staff fentrau newydd hefyd, fel hunangofrestru emosiynau, sesiynau medrau sy’n benodol i les cymdeithasol ac emosiynol, yn ogystal â mecanweithiau cymorth y tu allan i’r ystafell ddosbarth fel ‘Parafeddygon’.  Yn ychwanegol, enillodd sawl aelod o staff dystysgrifau cwnsela a chyflogwyd cwnselydd hyfforddedig gan arweinwyr i gynnig cymorth un i un i ddisgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae amser cylch yn fenter ysgol gyfan a werthfawrogir yn fawr erbyn hyn.  Caiff y sesiwn ei hamserlennu ar draws yr ysgol ar yr un pryd.  Mae hyn yn sicrhau bod staff a disgyblion yn deall a gwerthfawrogi ei gwerth.  Mae’r sesiwn hon yr un mor bwysig â phynciau craidd, ym marn y staff.  Maent yn sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn ystod sesiynau amser cylch bob wythnos ac maent yn trefnu fforwm agored a gonest lle caiff pob un o’r disgyblion gyfle i rannu eu meddyliau a’u teimladau.  Fel dosbarth, mae disgyblion yn sgwrsio â’i gilydd i amlygu gwahaniaethau, anawsterau a dod o hyd i strategaethau ymarferol a phriodol i helpu pob un o’r disgyblion i deimlo eu bod yn perthyn ac yn cael eu gwerthfawrogi gan y grŵp.  Mae Amser Cylch yn helpu staff i ddod i adnabod eu disgyblion yn dda, ac mae’n darparu rhwydwaith agosach o gymorth sy’n meithrin perthnasoedd gweithio cadarnhaol.

Mae Cewri Mawr Cyfeillgar yn arwain yr ysgol gyfan yn ystod gwasanaeth wythnosol.  Mae gan bob grŵp arweinydd, sydd fel arfer yn swyddog o Flwyddyn 6, a disgyblion o bob dosbarth i greu ‘teulu’.  Mae’r grwpiau teuluol oedran cymysg hyn yn annog perthyn.  Mae pob sesiwn yn dechrau a gorffen â datganiad wedi’i animeiddio o arwyddair yr ysgol, sef ‘Gweithio, gofalu, rhannu a dysgu, law yn llaw, er mwyn bod yn bopeth y gallwn fod.’  Mae athrawon yn seilio sesiynau ar amcanion dysgu lles emosiynol a chymdeithasol ac yn dod â chymuned yr ysgol at ei gilydd mewn gweithgareddau hwyliog a difyr.  Ceir cyfleoedd i ddisgyblion alw mentrau ysgol gyfan i gof, sy’n gwella lles cymdeithasol ac emosiynol, er enghraifft y ‘blwch gofidiau’, setiau meddwl, arddulliau dysgu neu ‘beth i’w wneud os ydych yn cael eich bwlio’.  Mae disgyblion yn helpu a chefnogi ei gilydd yn ystod y gweithgareddau hyn, a daw’r agosrwydd hwn at eu cyfoedion yn amlwg yn eu perthnasoedd a’u hyder gwell y tu allan i’r sesiynau.

Holiaduron a hunangofrestru.  Mae pob disgybl yn cofrestru bob bore a phrynhawn gan ddefnyddio lliwiau emosiwn, cymeriadau neu eiriau emosiwn.  Gall disgyblion newid eu hemosiwn trwy gydol y dydd.  Mae staff yn gwneud nodyn o unrhyw emosiynau negyddol ac yn dod o hyd i amser i ganfod y rhesymau sydd wrth wraidd dewis y disgyblion.  Yn aml, caiff y mater ei ddatrys ar unwaith.  Fodd bynnag, mae staff yn mynd i’r afael â materion mwy cymhleth trwy neilltuo amser yn ddiweddarach yn y dydd, rhannu â rhieni neu gyfeirio at gwnselydd yr ysgol.  Hefyd, mae staff yn defnyddio amrywiaeth o holiaduron gyda’r holl ddisgyblion i helpu nodi ac olrhain lles cymdeithasol ac emosiynol disgyblion.  Maent yn cydnabod bod disgyblion sydd â llai o hunan-barch yn debygol o deimlo’n ddi-werth, a theimlo’u bod yn cael eu bwlio a’u herlid, a bod angen cymorth arnynt i ddatblygu meddwl mwy cadarnhaol.

Sesiynau Medrau. Mae’r rhain yn dair sesiwn wythnosol fer ar gyfer holl ddisgyblion yr ysgol iau.  Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn unol â’u hanghenion.  Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau traddodiadol fel sesiynau hybu academaidd a sesiynau ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog, ond ceir cyfleoedd hefyd i fynd i’r afael ag anghenion ehangach fel teipio cyffwrdd, hyfforddiant ‘ymwybyddiaeth ofalgar’ neu hyfforddiant deallusrwydd emosiynol.  Mae’r gweithgareddau yn hynod bersonoledig i wella medrau disgyblion.  Caiff hyn effaith gadarnhaol ar wella hunan-dyb llawer o ddisgyblion, sydd yn ei dro yn arwain at hunan-barch gwell.

Grŵp hunangymorth wedi’i enwi gan y disgyblion yw ‘Parafeddygon’ (‘Paramedics’), sef sesiwn wythnosol y gall unrhyw ddisgybl ei mynychu.  Gall disgyblion gyfeirio eu hunain neu ffrindiau.  Maent yn cyfarfod ag aelod o staff, yn bwyta byrbrydau ac yn cymryd rhan mewn sesiynau amser cylch oedran cymysg.  Maent yn ‘gwella’ eu hunain o ofidiau, bod yn swil, yn ofnus neu’n flin trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau penodol.  Mae’r athro, sydd â gwybodaeth am gwnsela, yn gweithredu fel hwylusydd, ond caiff y sesiynau eu harwain gan ddisgyblion yn bennaf, gyda disgyblion yn dod o hyd i’w hatebion eu hunain.  Mae llawer o ddisgyblion sy’n mynychu yn gwella eu gallu i adnabod eu hemosiynau eu hunain, ac emosiynau pobl eraill, gwahanu gwahanol deimladau a’u labelu’n briodol.  Defnyddiant y wybodaeth emosiynol hon i arwain eu meddwl a’u hymddygiad, ac maent yn rheoli a/neu’n addasu emosiynau yn unol ag amgylcheddau.  Gall disgyblion elwa ar wasanaeth cwnsela un i un yr ysgol hefyd.  Mae hyn yn hynod fuddiol i ddisgyblion os byddant yn wynebu argyfwng, fel profedigaeth.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae dadansoddiad yr ysgol o holiaduron i ddisgyblion yn dangos bod staff yn nodi anghenion cymdeithasol ac emosiynol disgyblion yn gynnar a bodlonir eu hanghenion yn rhwyddach.  Gan fod yr ysgol yn cydnabod anghenion pob disgybl, maent wedi lleihau llawer o rwystrau rhag dysgu, sy’n arwain at welliant mewn deilliannau.

Mae disgyblion yn gwrando’n well, maent wedi ennill dealltwriaeth well ohonyn nhw eu hunain a phobl eraill, ac maent yn fwy empathig.  Maent yn fwy agored a gonest ac mae eu hanghenion yn fwy eglur, sy’n eu galluogi i gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn haws.  Mae delio â materion ar unwaith yn galluogi disgyblion i fwrw ymlaen â’u gwaith trwy symud ymlaen yn emosiynol.  Mae disgyblion yn dod i ddeall eu hunain ac yn dangos mwy o ‘ddiddordeb yn gymdeithasol’ mewn pobl eraill.  Mae disgyblion yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i fod eisiau mynd gam ymhellach a gwneud gwahaniaeth i’w bywydau eu hunain, yn ogystal â bywydau pobl eraill.  Er enghraifft, mae disgyblion yr ysgol iau yn ymdrechu i newid y gyfraith o ran diogelu cŵn gwasanaeth.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Gwahoddwyd yr ysgol i rannu ei harfer effeithiol trwy siarad â darparwyr tebyg am y modd y mae’r ysgol yn sicrhau diwylliant o les i bawb.  Mae staff wedi rhannu mentrau penodol ag ysgol leol arall, er enghraifft ar sut i greu amgylchedd dysgu digynnwrf sy’n addas yn gymdeithasol ac yn emosiynol i ddisgyblion ag anghenion penodol.