Strategaethau effeithiol i ddysgwyr ennill medrau allweddol mewn fframweithiau cymhwyster - Mehefin 2008 - Estyn

Strategaethau effeithiol i ddysgwyr ennill medrau allweddol mewn fframweithiau cymhwyster – Mehefin 2008

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • wneud yn siŵr bod trefniadau cytundebol ar waith gyda darparwyr dysgu yn y gwaith i sicrhau ennill fframweithiau cymhwyster;
  • parhau i ddarparu cymorth a hyfforddiant parhaus ar gyfer medrau allweddol ar lefel genedlaethol i helpu darparwyr dysgu yn y gwaith i wella ansawdd eu hyfforddiant a chynyddu nifer y dysgwyr sy’n cyflawni’r fframweithiau cymhwyster; a
  • gwella’r ffordd y caiff data ei gasglu, ei ddadansoddi a’i ddefnyddio i alluogi darparwyr dysgu yn y gwaith i feincnodi eu perfformiad yn gywir a nodi meysydd o’u gwaith y mae angen eu gwella.

Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith:

  • ddatblygu strategaethau ymhellach i gynyddu cyrhaeddiad dysgwyr mewn medrau allweddol a fframweithiau cymhwyster; a
  • gwneud yn siŵr bod hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith, yn cynnwys medrau allweddol, yn rhan orfodol o raglenni dysgu.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn