Strategaethau ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gan ddysgwyr ar bob lefel

Arfer effeithiol

Grŵp Llandrillo Menai


 
 

Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/partneriaeth

Coleg addysg bellach (AB) yw Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) a ffurfiwyd yn 2012 drwy uno Coleg Llandrillo, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai.  Mae tua 21,000 o ddysgwyr gan y Grŵp, ac o’r rheiny mae 6,000 yn astudio rhaglenni amser llawn yn cael eu darparu ar 13 campws ar draws siroedd Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd.  Mae cymunedau a wasanaethir gan GLIM yn amrywio o ardaloedd â’r poblogaethau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru (Caernarfon, 87%) i’r rheini yng Nghonwy a Sir Ddinbych lle mae llai nag 20% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer ragorol/sy’n arwain y sector

Mae’r coleg yn darparu ystod helaeth ac eang o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog effeithiol. Mae’r coleg yn arwain yn genedlaethol drwy ei ddarpariaeth Sgiliaith effeithiol iawn sy’n cefnogi dwyieithrwydd ar draws y sector AB.  Mae GLlM yn gweithredu strategaeth iaith Gymraeg a chynllun iaith Gymraeg cynhwysfawr sy’n pennu targedau heriol i gefnogi cynnydd dysgwyr yn ystod eu hastudiaeth.

Mae menter Seren Iaith, a gyflwynwyd yn ddiweddar, yn fenter arloesol sy’n arwain y sector sydd yn herio agweddau dysgwyr at ddefnyddio’r Gymraeg, ac yn hyrwyddo defnydd cymdeithasol ac academaidd o’r Gymraeg.  O ganlyniad, mae nifer gynyddol o ddysgwyr yn ymgymryd â dysgu ac asesu gan ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae ymagwedd y Grŵp yn seiliedig ar gynllunio cwricwlwm cydlynus er mwyn galluogi cynnydd yn yr adnoddau ac yn nifer y cyrsiau lle mae dysgu dwyieithog ar gael.  Mae’r holl ddysgwyr sydd wedi astudio TGAU Cymraeg iaith gyntaf yn ymgymryd ag asesiad llythrennedd Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) yn Gymraeg.  Mae hyn yn galluogi tiwtoriaid i gynllunio’n gywir i fodloni anghenion ieithyddol y dysgwyr hyn, a gosod targedau i ddysgwyr wella eu medrau llythrennedd Cymraeg.  Caiff staff gymorth drwy’r tîm Sgiliaith, sy’n cefnogi dwyieithrwydd ar draws y sector AB, ac fe’i lleolir yng Ngholeg Meirion Dwyfor o fewn y Grŵp. 

Fe wnaeth yr ymagwedd uchod nodi’r angen i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth ac mewn cyd-destun cymdeithasol.  O ganlyniad, datblygwyd menter Seren Iaith i gynyddu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, ac i gynyddu ymwybyddiaeth o agweddau a chyfleoedd diwylliannol yr iaith.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Nod rhaglen Seren Iaith yw asesu a chynyddu’r defnydd cymdeithasol presennol o’r Gymraeg ymhlith dysgwyr a mesur agweddau at yr iaith.  Mae dysgwyr yn ymgymryd ag arolwg Seren Iaith ar ddechrau eu cwrs.  Mae’r arolwg yn cynnwys deg o ddatganiadau y mae dysgwyr yn ymateb iddynt drwy ddynodi’r lefel y maent yn cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau hynny.  Yna, defnyddir rhaglen diwtorial a gefnogir gan adnoddau rhyngweithiol o ansawdd uchel i annog dysgwyr i ddefnyddio’r iaith ar sail anffurfiol a chymdeithasol.  Y canlyniad yw bod dysgwyr yn fwy ymwybodol o lawer o’u diwylliant Cymreig, ac mae ganddynt werthfawrogiad ehangach o lawer o berthnasedd y Gymraeg a’r defnydd ohoni.  Caiff dysgwyr eu hannog yn weithredol i ddatblygu’u medrau Cymraeg, ac maent yn ymwybodol o bwysigrwydd medrau Cymraeg yn y gweithle.

Mae datblygiadau pellach yn seiliedig ar ddatblygu deunyddiau a gweithgareddau cymorth sy’n tanategu’r datganiadau yn uniongyrchol e.e. deunyddiau sy’n annog dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfryngau cymdeithasol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae menter Seren Iaith yn rhoi mesur uniongyrchol o effaith gweithgareddau y mae’r dysgwr wedi ymgymryd â nhw yn ystod y flwyddyn academaidd i gynyddu a pharhau’r defnydd o’r Gymraeg yn eu bywyd coleg.

Mae menter Seren Iaith wedi cyfrannu at gyfraddau llwyddo a gyflawnwyd gan ddysgwyr Cymraeg eu hiaith sydd dri phwynt canran yn uwch na chyfartaledd y Grŵp.  Hefyd, mae dysgwyr sy’n ymgymryd ag astudiaethau mewn lleoliad dwyieithog yn dangos lefelau uchel o allu mewn trawsieithu (y defnydd o ieithoedd gwahanol gyda’i gilydd) yn ystod sesiynau addysgu.   Mae gan fwyafrif y dysgwyr sydd wedi ymgymryd â menter Seren Iaith fwy o ddealltwriaeth o bwysigrwydd medrau dwyieithog o ran cael swydd.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn