Sicrhau bod disgyblion yn ganolog i addysgu a dysgu

Arfer effeithiol

Gladestry C.I.W. School


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llanfair Llythynwg ym mhentref Llanfair Llythynwg ym Mhowys.  Mae ychydig dros 40 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 4 ac 11 oed.  Mae gan yr ysgol ddau ddosbarth oedran cymysg.  Ers yr arolygiad diwethaf, yn unol â pholisi’r awdurdod lleol, nid yw’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion oedran meithrin mwyach. 

Mae pob un o’r disgyblion yn wyn Prydeinig ac nid oes unrhyw ddisgybl yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol nac yn siarad Cymraeg gartref.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 15% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. 

Ers yr arolygiad yn 2009, nid oes unrhyw newidiadau wedi bod i staff addysgu.  Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2001.  Mae’r pennaeth yn cael 1.6 diwrnod bob pythefnos i gyflawni ei chyfrifoldebau arwain ac mae’n addysgu’r dosbarth cyfnod allweddol 2 am weddill yr amser.

Strategaeth a chamau gweithredu

Mae pob un o’r staff, y disgyblion, y llywodraethwyr a’r rhieni yn credu yn egwyddor arweiniol yr ysgol, sef y dylai disgyblion fod wrth wraidd y broses addysgu a dysgu ac y dylai disgyblion berchnogi eu hysgol a phopeth sy’n digwydd ynddi.  Mae hyn yn ganolog i ethos, gweledigaeth ac arfer ddyddiol yr ysgol ac yn golygu bod disgyblion yn gwneud dewisiadau gwybodus yn gyson ynglŷn â beth maent yn ei ddysgu, a sut.

Un o’r prif sbardunau ar gyfer dull yr ysgol o ddatblygu’r cwricwlwm ac addysgeg oedd cyhoeddi’r fframwaith sgiliau anstatudol i ddysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru  (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008a).  Fe wnaeth y ddogfen hon, ynghyd ag arweiniad ychwanegol ar ffurf ‘Manteisio i’r eithaf ar ddysgu – Gweithredu’r cwricwlwm diwygiedig’ (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008b), symbylu’r ysgol i fabwysiadu cwricwlwm newydd ac addasu’r ffordd yr oedd athrawon yn hwyluso dysgu.  Mae’r ddogfen yn ailadrodd nodau’r cwricwlwm fel a ganlyn:

  • canolbwyntio ar y dysgwr
  • sicrhau bod datblygu medrau priodol yn cael ei weu trwy’r cwricwlwm
  • canolbwyntio ar barhad a dilyniant ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed
  • cynnig llai o gynnwys pwnc gyda ffocws cynyddol ar fedrau

Hwn oedd y man cychwyn ar gyfer gofyn i ddisgyblion beth hoffent ei ddysgu, a sut.  Er 2008, mae addysgeg a chwricwlwm yr ysgol wedi datblygu, ond mae llais y disgybl, parch i bawb, annibyniaeth a chreadigrwydd yn parhau’n ganolog.  Mae llawer o arferion addysgu presennol yr ysgol yn enghreifftio’r 12 egwyddor addysgegol a amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) yn dda. 

Mae’r ddwy athrawes yn yr ysgol yn hynod lwyddiannus o ran annog disgyblion i wneud eu penderfyniadau eu hunain.  Maent yn gofyn cwestiynau i ddisgyblion, fel

  • beth ddylem ni ei wneud nesaf, yn eich barn chi?
  • beth yw’r ffordd orau y gall yr oedolion neu’ch cyfoedion eich helpu chi?
  • sut gallwch chi helpu’ch hun i wella? 

Nid digwyddiadau unigol yw cwestiynau fel hyn ond maent yn digwydd yn rheolaidd ac yn helpu disgyblion i gael rheolaeth dros eu dysgu eu hunain.  Mae sylwadau gan ddisgybl sydd wedi ymuno â’r ysgol yn ddiweddar yn crynhoi dull yr athrawon.  Dywed am ei ysgol flaenorol: ‘Roedd rhywun bob amser yn dweud wrtha’ i beth i’w wneud; doedd neb byth yn gofyn beth roeddwn i eisiau’.  Yn ystod sgwrs am ddysgu gyda’i athrawes am yr hyn yr oedd eisiau ei gyflawni, fe wnaethant edrych gyda’i gilydd ar y gwaith yn ei lyfrau o’r ysgol flaenorol a daeth i sylweddoli nad oedd ei waith, cyn dechrau yn Llanfair Llythynwg, wedi ei herio.  Yr hyn sy’n ddiddorol yw ei sylw na fyddai wedi gwybod na hyd yn oed wedi meddwl am herio’i hun cyn ymuno â’r ysgol.  Mae herio’ch hun, eich gilydd a gofyn pan na fyddwch yn gwybod rhywbeth yn themâu cyffredin a chyson mewn sgyrsiau rhwng pawb dan sylw yn yr ysgol.  Mae athrawon yn modelu sgyrsiau am ddysgu gyda’i gilydd a disgyblion.  Mae eu hadborth rheolaidd a chraff yn helpu disgyblion i wella eu dysgu ac yn eu hannog i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu deilliannau eu hunain. 

Nodwedd lwyddiannus arall ar yr addysgu yn yr ysgol yw lefel uchel yr ymddiriedaeth rhwng staff a disgyblion.  Mae athrawon yn modelu addysgu effeithiol ac yn siarad yn eglur â’r dosbarth am yr hyn sy’n gwneud addysgu effeithiol, fel holi da, disgwyliadau uchel, gwerthfawrogi pob ymateb a chynllunio gwaith sy’n briodol heriol.  Maent yn annog disgyblion, yn enwedig y rheiny yn nosbarth cyfnod allweddol 2, i gynllunio eu gwersi eu hunain ac addysgu gweddill y dosbarth.  Mae disgyblion hŷn yn cefnogi dysgu disgyblion yn y cyfnod sylfaen yn rheolaidd hefyd.  Mae’r arfer hon wedi tyfu dros gyfnod ac mae disgyblion bellach yn hyderus iawn yn cyflwyno gwersi i’w cyfoedion.  Yn nhymor yr haf 2017, rhannodd disgyblion cyfnod allweddol 2 yn grwpiau gyda phob grŵp yn cymryd cyfrifoldeb am gynllunio a chyflwyno gwerth wythnos o wersi ar destun o’u dewis.  Siaradodd yr athrawes â disgyblion am yr hyn y dylai’r cynllun ei gynnwys o ran datblygu medrau a gwybod beth roeddent eisiau i’w cyfoedion ei ddysgu.  Rhoddodd amser cynllunio i’r disgyblion.  Roedd cynllunio’r disgyblion yn cynnwys meini prawf llwyddiant, cysylltiadau â’r fframwaith llythrennedd a rhifedd, ac yn aml, tasgau ar wahanol lefelau.  Pan fydd disgyblion yn addysgu, mae’r athrawes yn arsylwi’n ofalus, yn cyfeirio’r athrawon sy’n ddisgyblion at y rheiny sydd angen cymorth ychwanegol ac yn modelu cwestiynau y gallai disgyblion ddymuno eu gofyn i unigolion a grwpiau.  Eto, mae hon yn broses ddwy ffordd gyda disgyblion hefyd yn awgrymu ffyrdd y gallai athrawon wella eu harfer.  Bob tymor, mae disgyblion Blwyddyn 6 yn arsylwi’r addysgu’n ffurfiol ym mhob dosbarth.  Maent yn llenwi ffurflen sy’n dangos eu meddyliau ar yr hyn y maent wedi’i weld ac yn gosod targedau perthnasol ar gyfer yr athrawon.

I wneud yn siŵr eu bod yn cadw mewn cysylltiad â’r dysgu a’r addysgeg yn y dosbarth arall, mae athrawon yn newid dosbarthiadau am sesiwn bob wythnos.  Maent yn arsylwi ei gilydd yn ffurfiol bob tymor ac yn defnyddio ffurflen y consortiwm rhanbarthol i arfarnu ansawdd y dysgu a safon yr addysgu.  Fodd bynnag, mae’r pennaeth yn ystyried symud oddi wrth yr arfer hon gan ei bod yn teimlo nad yw’n ychwanegu rhyw lawer o werth ac nid yw’n dweud unrhyw beth wrthi hi nad yw hi neu’r athrawes arall eisoes yn ei wybod.  Mae’n ymchwilio i wahanol fodelau cyn gwneud unrhyw newidiadau.  Mae athrawon, disgyblion a llywodraethwyr yn monitro ansawdd y ddarpariaeth a safon y gwaith mewn llyfrau yn rheolaidd.  Defnyddiant y deilliannau o’r gweithgareddau hyn yn eithriadol o dda i lywio blaenoriaethau yng nghynllun datblygu’r ysgol.  Mae athrawon a disgyblion yn llunio cynlluniau gweithredu manwl, sy’n canolbwyntio’n dda ar wella safonau ac addysgu.  Er enghraifft, mae’r ysgol bellach yn blaenoriaethu elfen ‘mentro’n bwyllog’ Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) gan fod disgyblion wedi nodi bod hwn yn faes y mae angen iddynt ei wella.

Mae’r pennaeth yn ymwybodol iawn, fel ysgol fach mewn lleoliad gwledig, fod angen iddi fod yn rhagweithiol wrth sefydlu perthnasoedd proffesiynol gyda darparwyr eraill.  Mae’n sgwrsio â phennaeth yr ysgol arloesi leol bob wythnos i sicrhau ei bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ym maes ehangach addysg.  Mae’n darllen yn helaeth hefyd i ddilyn hynt a helynt ymchwil a datblygiadau cwricwlaidd newydd.  Mae’r pennaeth yn rhannu’r wybodaeth hon gyda staff eraill yn yr ysgol.  Mae athrawes y cyfnod sylfaen yn mynd ati i chwilio am wybodaeth ac yn defnyddio fforymau ar-lein i ddysgu am yr arfer mewn ysgolion eraill a rhannu syniadau.  Mae’r ddwy athrawes yn awyddus iawn i gydnabod eu bod yn gyfrifol am eu dysgu proffesiynol eu hunain ac yn cymryd y cyfrifoldeb o ddifrif. 

Deilliannau

O ganlyniad i’r lefelau eithriadol o dda o barch yn yr ysgol a phenderfyniad athrawon i hwyluso dysgu trwy eu harferion addysgu, mae’r ysgol yn gwneud cynnydd da iawn o ran dangos enghreifftiau o lawer o’r egwyddorion addysgegol sy’n ategu’r cwricwlwm newydd. 

Mae athrawon:

  • yn cynnal ffocws cyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm
  • yn annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain
  • yn cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a pherthnasoedd cadarnhaol
  • yn annog cydweithio
  • yn herio pob un o’r disgyblion trwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrech gynaledig wrth fodloni disgwyliadau sy’n uchel ond y mae modd iddynt eu cyflawni
  • yn defnyddio cyfuniad o ddulliau, gan gynnwys y rheiny sy’n hyrwyddo datrys problemau, meddwl creadigol a beirniadol
  • yn gosod tasgau ac yn dewis adnoddau sy’n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb
  • yn creu cyd-destunau go iawn ar gyfer dysgu
  • yn defnyddio egwyddorion asesu ar gyfer dysgu
  • yn atgyfnerthu cyfleoedd trawsgwricwlaidd yn rheolaidd, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion eu hymarfer

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

  • Gweithio gydag ysgol leol arall i rannu arfer gan ddefnyddio technoleg fideo
  • Cymryd rhan mewn prosiect ymchwil weithredu ynglŷn â chymryd risgiau corfforol pwyllog
  • Ystyried ymhellach pa mor dda y mae’r ysgol yn cymharu fel sefydliad sy’n dysgu