Sicrhau addysgu o ansawdd uchel trwy ddatblygiad proffesiynol - Estyn

Sicrhau addysgu o ansawdd uchel trwy ddatblygiad proffesiynol

Arfer effeithiol

Lamphey C.P. School

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Llandyfái wedi’i lleoli ym mhentref Llandyfái, tua dwy filltir i’r dwyrain o dref Penfro. Mae’n darparu ar gyfer disgyblion y pentref a’r ardaloedd cyfagos.  Daw tuag 82% o’r disgyblion o’r tu allan i’r dalgylch.  Mae tuag 8% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Ar hyn o bryd, mae 219 o ddisgyblion cyfwerth ag amser llawn ar y gofrestr, rhwng tair ac 11 oed.  Mae gan oddeutu 13% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae gan dri disgybl ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig.  Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er 2011.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan arweinwyr yr ysgol ddisgwyliadau ar gyfer codi safonau a gwella ansawdd addysgu ar draws y ddau gyfnod allweddol trwy ddefnyddio datblygiad proffesiynol i sicrhau safonau cyson uchel.  Mae’r gweithdrefnau hunanarfarnu cadarn a thrylwyr ac ethos pob rhanddeiliad o roi her yn cael eu defnyddio’n gyson i arwain gwella’r ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae tîm rheoli’r ysgol yn cyfarfod yn wythnosol i roi rhaglen weithgar, bwrpasol o hyfforddiant mewnol ar waith i gefnogi meysydd cryfder a gwendidau a amlygwyd gan yr holl staff a llywodraethwyr trwy graffu’n fanwl ar ddeilliannau ar draws yr ysgol.  Caiff arfer dda wrth addysgu ei rhannu trwy fyfyrdod beirniadol, gonest a thrafodaeth agored sy’n seiliedig ar weithdrefnau hunanarfarnu cynhwysfawr.  Caiff blaenoriaethau ar gyfer hyfforddiant eu cynllunio’n systematig i dargedu’r meysydd gwella penodol a amlygwyd yng nghynllun datblygu’r ysgol ac o drafodaeth broffesiynol barhaus.  Mae hyfforddiant wedi canolbwyntio ar arferion addysgegol penodedig er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth addysgu ar draws yr ysgol o ansawdd uchel.

Mae datblygiad proffesiynol i’r staff wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:

  • Mae cyfarfodydd staff yn canolbwyntio’n bennaf ar ddysgu ac addysgu, gydag eitemau cadw tŷ wedi’u symud i’r safle ar y cyd i staff ar HWB.
  • Mae’r uwch dîm rheoli yn cyfarfod yn wythnosol i gynllunio a darparu hyfforddiant priodol a pherthnasol i reolwyr canol, gyda’r nod o ddatblygu eu harbenigedd wrth arwain newid arloesol a blaengar ar draws yr ysgol.
  • Mae arweinwyr y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2 yn cynllunio agendâu cyfarfodydd cyfnod ar y cyd i sicrhau ymagwedd barhaus a chyson at ddysgu, ac maent yn monitro deilliannau ar y cyd i arwain gwelliannau.
  • Caiff gweithio cymunedol mewn triawdau ei hyrwyddo, i amlygu a rhannu mentrau dysgu ac addysgu llwyddiannus. Mae cyfansoddiad y triawdau wedi sicrhau gweithio traws cyfnod.
  • Caiff modelu pedagogaidd penodol ei gyflawni trwy recordio addysgu ar fideo at ddiben craffu, gan arwain at drafodaeth feirniadol ond cefnogol yn seiliedig ar wella ansawdd y ddarpariaeth. Caiff fideos eu storio’n ganolog ar gyfer datblygiad proffesiynol annibynnol, parhaus.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r ysgol wedi ymroi’n weithgar i ymestyn cyfleoedd am ddysgu archwiliadol o ansawdd uchel, yn amgylchedd awyr agored yr ysgol ac mewn amrywiaeth eang o ymweliadau oddi ar safle’r ysgol.  Mae ffocws y cyfleoedd dysgu hyn wedi bod ar wella amrywiaeth o fedrau, yn enwedig datblygu medrau rhifiadol ac ymresymu uwch i ddisgyblion ar draws y ddau gyfnod allweddol.  Yn dilyn mentrau o’r fath, mae data yn dangos bod perfformiad disgyblion yn y Profion Rhifedd Cenedlaethol yn 2017 yn well na chyfartaledd yr awdurdod lleol a chyfartaledd Cymru mewn medrau gweithdrefnol ac ymresymu.  Bellach, mae gan y ddarpariaeth llythrennedd fwy o ffocws ar ddatblygu medrau llafaredd disgyblion ac addysgu ysgrifennu yn benodol ar draws y cwricwlwm i ddisgyblion, trwy raglen strwythuredig o hyfforddiant mewnol.  O ganlyniad i hyn, mae disgyblion wedi cyflawni deilliannau llythrennedd o ansawdd uchel ar draws yr ysgol, yn enwedig yn eu hysgrifennu estynedig.  Mae’r ysgol wedi rhoi arfer dda iawn y cyfnod sylfaen ar waith yn llwyddiannus ac mae’n canolbwyntio ar ddatblygu annibyniaeth disgyblion mewn darpariaeth barhaus ac estynedig trwy ddefnyddio parthau gweithio yn effeithiol.  Mae’r strategaethau hyn yn sicrhau bod safonau cyrhaeddiad erbyn diwedd y cyfnod sylfaen yn parhau’n gyson uwchlaw’r cyfartaleddau lleol a chenedlaethol mewn llythrennedd, datblygiad mathemategol, a datblygiad personol a chymdeithasol.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae dysgu effeithiol yn yr awyr agored wedi’i gyflawni trwy amrywiaeth gynhwysfawr o strategaethau datblygu proffesiynol ac fe’u rhannwyd fel a ganlyn:

  • Caiff ardaloedd amgylcheddol ar y safle eu hamlygu a’u defnyddio yn y ddau gyfnod i ddatblygu medrau ar draws y cwricwlwm.  Rhannwyd cyfleoedd dysgu gyda myfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chydag athrawon lleol trwy ddigwyddiadau hyfforddiant mewn swydd yn yr ysgol. 
  • Mae uwch arweinwyr wedi gweithio’n agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro i ddatblygu cyfres o adnoddau addysgu ar ddatblygu medrau ymresymu mathemategol a TGCh yn yr awyr agored.  Mae ansawdd y gyfres hon o wersi wedi’i sicrhau ac maent wedi’u gosod ar wefan Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (http://pembrokeshireoutdoorschools.co.uk/cy/hafan/).
  • Gyda chefnogaeth rhaglen Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, mae uwch arweinwyr wedi cyflwyno hyfforddiant mewn swydd ar y ffordd y gall yr awyr agored gael ei ddefnyddio i wreiddio’r pedwar diben (Cwricwlwm i Gymru; Cwricwlwm am Oes). 
  • Mae papurau academaidd a ysgrifennwyd gan aelod staff ar bwysigrwydd amlygiad cynnar i’r awyr agored i ddatblygiad plentyn wedi cael eu cyflwyno mewn cynadleddau, yn lleol ac yn genedlaethol (British Early Childhood Education Research Association, Creative and Critical Thinking in the Early Years, MAC Birmingham).

Mae addysgeg ac arfer ynghylch sut mae’r ysgol yn cynllunio, yn cyflwyno ac asesu llythrennedd wedi’u rhannu fel a ganlyn:

  • gan y cydlynydd llythrennedd, yn arwain ac yn cefnogi cyrsiau hyfforddi ar gyfer yr awdurdod lleol
  • trwy fodelu gwersi a rhannu deilliannau disgyblion gydag ysgolion yn yr awdurdod lleol ac yn y gymuned addysgu ehangach
  • trwy ddatblygu cymuned ysgrifennu fel rhan o fenter Ysgolion Dysgu Proffesiynol Consortiwm ERW

Gweithredwyd y cyfnod sylfaen yn llwyddiannus trwy ystod gynhwysfawr o strategaethau datblygiad proffesiynol sydd wedi’u rhannu trwy’r dulliau canlynol.

  • Mae’r ysgol yn ceisio cyngor yn barhaus gan yr awdurdod lleol, sydd wedi rhoi cyngor ar weithredu arfer rhagorol.  Yna, caiff unrhyw arferion da iawn a amlygir eu rhannu ar draws yr awdurdod lleol yn ystod diwrnodau hyfforddi, ar safle’r ysgol a thu hwnt.  Mae hyn wedi cynnwys prosiect ar greu parthau yn llwyddiannus yn yr ardaloedd awyr agored.
  • Ar hyn o bryd, mae’r ysgol wrthi’n ysgrifennu astudiaeth achos i Lywodraeth Cymru ar sut mae tir yr ysgol wedi’i ddefnyddio i godi safonau llythrennedd, rhifedd a dysgu annibynnol ar draws y cyfnod sylfaen.