Sesiynau ymgysylltu â rhieni yn hyrwyddo parhad ym mhrofiadau dysgu plant - Estyn

Sesiynau ymgysylltu â rhieni yn hyrwyddo parhad ym mhrofiadau dysgu plant

Arfer effeithiol

Tiny Tots Day Care Nursery – Malpas


 

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Tiny Tots Malpas Road yn un o dri lleoliad meithrin, dau wedi’u lleoli yn awdurdod lleol Casnewydd, ac un wedi’i leoli yn y Fenni yn Sir Fynwy.  Sefydlwyd Tiny Tots Malpas ym mis Chwefror 1997 ac mae wedi bod yn masnachu fel lleoliad gofal dydd preifat ers 23 mlynedd.  Mae’r feithrinfa wedi’i pherchnogi’n breifat ac wedi’i lleoli mewn tŷ mawr wedi’i drawsnewid, sydd wedi cael ei addasu yn unol ag anghenion meithrinfa, dros ddau lawr.  Mae teuluoedd o gefndiroedd gweithio yn bennaf, a Saesneg yw’r famiaith ar yr aelwyd.  Mae’r lleoliad yn gweithredu bum niwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn o 8:00 tan 18:00.  Mae wedi’i gofrestru i ofalu am 64 o blant bob dydd, rhwng oedran geni a 12 mlwydd oed.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Prif nod y lleoliad wrth gynnal sesiynau ymgysylltu â rhieni yw rhoi cyfle i rieni weld beth mae eu plant yn ei wneud yn y feithrinfa, a’u helpu i gymryd mwy o ran yn nysgu a datblygiad eu plant.  Mae’r sesiynau’n rhoi hyder a dealltwriaeth well i rieni o wahanol bethau y gallent eu gwneud i gefnogi dysgu eu plant gartref.  Mae staff yn darparu cyfleoedd da i rieni ddod i’w hadnabod yn well, wrth iddynt drafod beth ddigwyddodd pan oeddent yn gwneud y tasgau cartref a rhannu syniadau ar gyfer gweithgareddau eraill a’r camau nesaf mewn dysgu.  Mae’r sesiynau’n helpu hyrwyddo parhad ym mhrofiadau dysgu plant rhwng y cartref a’r lleoliad.  Mae hyn yn ychwanegu at effaith y gweithgareddau y mae plant yn eu mwynhau yn y lleoliad, ac yn cryfhau eu dysgu.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae ymarferwyr yn cynnal y sesiynau ymgysylltu â rhieni yn ystod amseroedd agor y feithrinfa.  Cynhelir sesiynau â dwy thema wahanol bob tymor.  Cynhelir y sesiynau gan ddau aelod o staff mewn ystafell ar wahân yn y feithrinfa.  Mae plant a rhieni yn cymryd rhan yn y gweithgareddau gyda’i gilydd.  Mae cynllun gweithredu clir ar gyfer pob sesiwn, fel bod pob un o’r staff yn ymwybodol o’r nodau a’r deilliannau bwriadedig.  Mae’r lleoliad yn cynllunio’r sesiwn i gyd-fynd â phatrymau gweithio rhieni, cyhyd ag y bo modd.  Er enghraifft, mae’n cynnig sesiynau yn y bore a’r prynhawn ac yn cynnal sesiynau ar wahanol ddiwrnodau yn ystod y tymor.  Mae’n ystyried unrhyw faterion iechyd a diogelwch, ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn diwallu anghenion plant nad ydynt yn cymryd rhan yn y sesiynau.  Mae sesiynau ymgysylltu â rhieni yn cynnwys gwaith coed, cerddoriaeth a symud, sesiynau llythrennedd corfforol, y Gymraeg a choginio.

Mae pob sesiwn yn para am dri chwarter awr.  Mae ymarferwyr yn cyflwyno medr, ac mae plant yn ymarfer y medr ochr yn ochr â’u rhieni, fel dysgu sut i daflu dan ysgwydd yn ystod y sesiwn ar fedrau pêl.  Mae cyfle hefyd i blant ddangos i rieni a theuluoedd beth maent wedi bod yn ei ddysgu trwy gydol y tymor.  Mae ymarferwyr wedi sylwi bod rhieni’n cymryd mwy o ran yn y sesiynau wrth i’w hyder wella, a’u bod yn defnyddio eu hyder newydd i barhau i ymarfer y medrau gyda’u plant adref.

Ar ddiwedd pob sesiwn, mae staff yn gofyn i bob un o’r rhieni lenwi ffurflen adborth yn rhoi manylion am yr hyn y gwnaethant ei fwynhau, yr hyn y gellid ei wella, a syniadau ar gyfer sesiynau yn y dyfodol.  Pan gaiff y sesiynau eu cynllunio, mae ymarferwyr yn gwrando’n dda ar awgrymiadau gan rieni, ac yn ystyried eu harsylwadau o ddiddordebau plant yn ofalus.  Maent yn manteisio i’r eithaf ar fedrau rhieni ac arbenigedd staff, ble bynnag y bo modd, i ehangu dyheadau a phrofiadau plant.  Er enghraifft, mae rhieni sy’n feddygon, yn arddwyr ac yn aelodau o’r lluoedd arfog wedi cyfrannu at sesiynau.  Mae staff ag arbenigedd penodol yn arwain sesiynau mewn cerddoriaeth a symud, llythrennedd corfforol a’r Gymraeg.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae’r sesiynau hyn wedi creu cysylltiadau cryf rhwng teuluoedd a staff, ac mae gan rieni ddealltwriaeth well o sut beth yw dysgu yn y feithrinfa.  Mae hyn yn cefnogi lles rhieni a phlant, ac yn cyfrannu at ethos meithringar y lleoliad.

Gall rhieni weld plant yn amgylchedd y feithrinfa yn gweithio gyda staff a gwylio eu medrau’n datblygu.  Mae plant a rhieni wedi magu hyder trwy gydol y sesiynau, ac mae mwy o rieni’n cymryd mwy o ran yn y sesiynau erbyn hyn, a byddant yn eu harwain, lle bo’n briodol.  

Mae cynnwys rhieni yn cryfhau datblygiad medrau plant yn effeithiol.  Er enghraifft, bu gwelliant ym medrau Cymraeg plant yn dilyn y sesiwn ymgysylltu â rhieni, lle ymunodd rhieni yn y dysgu, ac aethant ag adnoddau adref gyda nhw i ymarfer gyda’u plant. 

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r lleoliad yn bwriadu cynnal digwyddiadau Arfer sy’n Werth ei Rhannu yn ystod haf 2020.