Sesiynau cymorth yn helpu ymddygiad a dysgu - Estyn

Sesiynau cymorth yn helpu ymddygiad a dysgu

Arfer effeithiol

Ysgol Uwchradd Tywyn


 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer

Mae ein gweledigaeth o wasanaethu pob disgybl a sicrhau fod pob un yn cyrraedd ei lawn botensial yn greiddiol i’n gwaith.   Dros amser, rydym wedi buddsoddi llawer o amser ac adnoddau i sicrhau fod ein staff yn meithrin awyrgylch weithgar, barchus a chynhyrchiol mewn gwersi ac yn cynnig anogaeth a chefnogaeth bwrpasol i’n disgyblion bob amser.  Mae hyn wedi arwain at sicrhau ymddygiad rhagorol ac agweddau cadarnhaol at ddysgu gan lawer o ddisgyblion. 

Fodd bynnag, yn 2014, daethpwyd i’r penderfyniad fod angen trefniadau ac ymyraethau mwy arbenigol ar gyfer nifer fwyfwy o ddisgyblion oedd yn cyrraedd yr ysgol gydag anawsterau neu’n datblygu problemau emosiynol a chymdeithasol wrth iddynt dyfu.   Mae ein perthynas gydag asiantaethau arbenigol allanol wedi bod yn elfen gref o’n llwyddiant dros y blynyddoedd i gyfeirio disgyblion at wasanaethau penodol.  Penderfynwyd cynyddu prosesau mewnol er mwyn i ni allu bod yn fwy rhagweithiol wrth ddiwallu anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol disgyblion a dibynnu llai ar weithdrefnau adweithiol, allanol.  I’r perwyl hwn, sefydlwyd dwy ganolfan fewnol, sef ‘Hafan’ ac ‘Encil’.  Y naill ar gyfer darparu cefnogaeth a’r llall yn galluogi amser adfyfyriol a thawel i ddisgyblion sydd yn methu ymdopi yn y gwersi prif lif o dro i’w gilydd.

Disgrifiad o’r strategaeth neu ddarpariaeth

Mae staff yr Hafan yn rhedeg amryw o gyrsiau arbenigol a phenodol.  Mae’r rhain yn agored i bob disgybl yn yr ysgol.  Bydd cyfeiriadau yn dod gan yr uwch dim arwain, staff, rhieni neu’r Swyddog Cynhwysiad a bydd trafodaethau yn digwydd yn rheolaidd i benderfynu pa ddisgyblion fyddai’n elwa o’r cyrsiau hyn.  Bydd asesiadau yn cael eu gwneud, gan rieni, aelodau o staff ysgol a’r disgybl ei hun.  Mae’r sgoriau o’r asesiadau gwirio yn cael eu dadansoddi ar gyfrifiadur ac mae staff yr Hafan wedyn yn defnyddio’r canlyniadau i greu sesiynau pwrpasol byr sydd yn ffocysu ar agweddau penodol. 

Ymhlith y cyrsiau mwyaf defnyddiol y mae’r canlynol:

Cwrs hunan-barch: Sesiynau grwpiau bach o oddeutu 6 disgybl gan gyd-weithio ar weithgareddau a gemau datblygu hunan barch, hyder a delwedd corfforol gadarnhaol. 

Rheoli pryder: darpariaeth o strategaethau ymdopi mewn sefyllfaoedd pan mae disgyblion yn or-bryderus neu yn poeni am bethau’n aml.

Rheoli Tymer: Sesiynau sydd yn ffocysu ar wahanol strategaethau ac yn gosod gweithgareddau rheoli tymer.

Cymorth Galar: Cwrs i ddisgyblion sydd wedi dioddef profedigaeth lem o fewn y teulu.  

Clwb Cystadweithio: Clwb sy’n cefnogi disgyblion Blwyddyn 7 wrth iddynt ymgartrefu a chymdeithasu ar ddechrau eu gyrfa ysgol

Clwb Cymdeithasol: Rhaglen ar gyfer plant yn eu arddegau sydd yn cael ei defnyddio gyda grwpiau o ddisgyblion sydd yn cyfarfod am un wers yr wythnos i ddatblygu eu sgiliau emosiynol, cyfathrebu a chymdeithasu trwy chwarae amrywiaeth o gemau a gweithgareddau.  Mae rhaglen pellach ar gyfer gwella medrau disgyblion hŷn sydd yn ei chael yn anodd i wneud a chadw ffrindiau.

Rhaglen Llythrennedd Emosiynol: Rhaglen asesiad ac ymyrraeth ar gyfer disgyblion 11-16 oed. Ymysg y pynciau a drafodir mae  hunanymwybyddiaeth, hunan-reolaeth, cymhelliant ac empathi.  Mae gosod nodau a gwaith yn ymwneud â theimladau yn gynwysedig yn y rhaglen.  Mae’r sesiynau hyn yn digwydd ar ôl ysgol yn wythnosol.

Yn ogystal â’r ymyraethau uchod, mae’r Hafan yn ardal llesol a thawel lle gall ddisgyblion ddod i fyfyrio, i ddarllen neu i siarad gyda’i gilydd neu gyda staff ar amseroedd di-gyswllt.  Trefnir sesiynau meddylgarwch buddiol pob wythnos ar gyfer unrhyw ddisgyblion sydd eisiau ymuno. 

Pan fydd disgybl yn methu ag ymdopi mewn gwersi ac yn arddangos ymddygiad amhriodol neu negyddol rhoddir amser iddo fyfyrio yn y ganolfan adnodd Encil.  Wedi cyfnod yn cydweithio gyda staff Hafan ar strategaethau gwella agwedd at ddysgu bydd y disgybl yn ail-ddechrau gwersi prif lif.  Rhoddir cerdyn ‘Adroddiad Hafan’ i’r disgybl er mwyn i athrawon a staff cymorth nodi gweithredoedd cadarnhaol ac ymddygiad priodol.  Adroddiad sy’n cofnodi canmoliaeth yw hwn, nid adroddiad sy’n gorfodi athrawon i nodi ymdrechion gwael.  Gwobrwyir ymdrechion teg disgyblion yn briodol.

Effaith y gwaith ar ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion

Mae niferoedd sylweddol o ddisgyblion yn mynychu’r sesiynau cefnogol a restrir uchod.  Mae llawer o ddisgyblion yn rhan o amrywiaeth o glybiau a gweithgareddau allgyrsiol buddiol eraill hefyd.  Mae disgyblion yr ysgol yn dangos balchder yn eu hysgol ac yn werthfawrogol o’r awyrgylch gartrefol, deuluol braf sydd iddi. 

Nid oes gwaharddiad parhaol wedi bod y yr ysgol ers nifer helaeth o flynyddoedd ac nid yw’r ysgol wedi gwahardd yr un disgybl am dymor penodol ers medi 2015.  Mae cyfraddau presenoldeb dros y pedair mlynedd diwethaf yn gryf ac yn cymharu’n ffafriol iawn gyda chyfraddau presenoldeb mewn ysgolion tebyg eraill.  Mae presenoldeb disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn dda iawn ac yn gyson uwch na’r hyn a welir yn genedlaethol.   Mae’r canran o absenoldebau cyson a’r nifer o ddisgyblion sy’n absennol yn gyson wedi lleihau’n sylweddol dros amser ac mae gan yr ysgol lefel isel iawn o absenoldebau anawdurdodedig.

Mae arweinwyr a staff yr ysgol yn ymddiried yn llwyr yng ngallu’r disgyblion i ysgwyddo cyfrifoldebau ac ymgymryd â rolau arweiniol.  Mae llawer o ddisgyblion ar draws yr ysgol yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr at fywyd a gwaith yr ysgol ac yn frwdfrydig ac aeddfed wrth gyflawni eu dyletswyddau.  Er enghraifft, mae disgyblion hŷn wedi’u hyfforddi i fentora cyfoedion ac i gynorthwyo disgyblion iau gyda darllen.  Mae nifer o ddisgyblion yn arwain ar amrywiol fforymau, megis y Fforwm Eco, y Fforwm Cymraeg a’r Fforwm Byw’n Iach.

O ganlyniad i ddarparu ymyraethau pwrpasol a rhoi cyfleon gwerthfawr i’n disgyblion, maent yn meddu ar fedrau cymdeithasol cryf sydd yn eu galluogi i datblygu’n ddinasyddion parchus ac annibynnol.