Sefydlu grwpiau ymddygiad - Estyn

Sefydlu grwpiau ymddygiad

Arfer effeithiol

Ysgol Christchurch


Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gynradd Christchurch wedi’i lleoli yn nhref y Rhyl, mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf.  Mae’r ysgol yn yr ardal ail fwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Daw llawer o ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd, gyda lefelau uchel o ddiweithdra.  Mae 385 o ddisgyblion amser llawn ar y gofrestr a 57 o ddisgyblion oed meithrin.  Mae tua 60% o ddisgyblion â hawl i gael prydau ysgol am ddim.  Mae Darpariaeth arbenigol ag Adnoddau yn yr ysgol ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen.  Mae anghenion dysgu ychwanegol gan oddeutu 36% o ddisgyblion.  Ar hyn o bryd, mae 30 o ddisgyblion yn yr ysgol â Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY), sy’n gynnydd sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.  Mae tueddiadau’n awgrymu y bydd y nifer yn parhau i gynyddu. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei fod yn arfer sy’n arwain y sector

Roedd yr ymddygiadau heriol sy’n gysylltiedig â rhai o’r disgyblion yn yr ysgol yn effeithio’n negyddol, ar eu dysgu nhw ac ar ddysgu disgyblion eraill.  Fe wnaeth staff asesu effaith ymyriadau’r ysgol a theimlo bod angen datblygiad pellach arnynt er mwyn bodloni anghenion disgyblion yn well, yn enwedig y disgyblion ag anghenion cymhleth.

Fe wnaeth yr ysgol nodi anghenion grŵp penodol o ddisgyblion a sefydlu ‘Grŵp Ymddygiad Blodau Haul’ i dargedu’r rhain.  Dyma oedd nodau’r sesiwn:

  • dilyn y cwricwlwm mewn amgylchedd cefnogol
  • annog ymddygiad da trwy atgyfnerthu cadarnhaol a gwobrwyo
  • meithrin amgylchedd lle y gall ymddygiad gael ei drafod yn agored
  • gwella hunan-barch a hunanddisgyblaeth
  • cynorthwyo â datblygiad medrau cymdeithas ac emosiynol

Mae’r ystafell wedi’i gosod fel ei bod yn gynnes ac yn groesawgar.  Mae’r ardaloedd yn y dosbarth yn cynnwys lloches dywyll, ardal fechan gydag anifeiliaid anwes, parth synhwyraidd a chornel tawel.

Mae disgyblion penodol yn defnyddio’r adnodd yn y prynhawn.  Mae’r sesiwn yn dechrau gyda chyfle i ddisgyblion ymlacio a chynnal adolygiad o’u bore yn y dosbarth.  Yna, maent yn mynd i sesiynau sy’n seiliedig ar y cwricwlwm, mewn grwpiau bychain, gyda chymorth unigol i ddisgyblion pan fo’i angen.  Mae staff yn rhannu’r gwersi trwy ddarparu sesiwn o weithgarwch corfforol cyn dechrau ar elfen olaf y prynhawn, sy’n dod i derfyn gydag arfarniad o’r prynhawn a llenwi llyfrau ymddygiad unigol y disgyblion. 

Trwy ddefnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion, fe wnaeth yr ysgol benodi dau Fentor Dysgu, Mentor Lles a Dysgu a chynorthwyydd addysgu gyda chyfrifoldebau penodol am SIY.  Creodd yr ysgol bedwar amgylchedd addysgu newydd a wnaeth fodloni anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr.  Mae gan bob mentor ffocws gwahanol iawn yn gysylltiedig â’i faes arbenigedd ei hun.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  1. grŵp ymddygiad ac anogaeth
  2. tri grŵp anogaeth a lles ar draws y ddau gyfnod
  3. darpariaeth therapi iaith a lleferydd traws cyfnod
  4. grwpiau ffocws ar lythrennedd a rhifedd
  5. darpariaeth SIY traws cyfnod

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae staff yn asesu’r holl ddisgyblion sy’n mynychu’r grwpiau cymorth ymddygiad ac anogaeth ar ddechrau’r rhaglen a thrwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio Proffil Boxall.

Mae’r holl ddisgyblion sydd wedi cymryd rhan yn y ddarpariaeth anogaeth wedi dangos gwelliant sylweddol o gymharu â’u sgorau gwaelodlin.  Mae hyn i’w weld yn amlwg yn eu hymddygiad o ddydd i ddydd yn yr ysgol.

Mae’r disgyblion sy’n mynychu’r grwpiau ymyrraeth dysgu wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn mathemateg a sillafu. 

Mae staff wedi gweld effaith gadarnhaol y grwpiau ymyrraeth, o’r grwpiau anogaeth yn cynnig cychwyn cadarnhaol i’r diwrnod ysgol i ddarparu lloches dawel ac ymlaciol ar adegau pan fydd disgyblion yn cael trafferth â’u hemosiynau.  Maent yn cydnabod anghenion unigol pob disgybl ac yn deall pwysigrwydd cynnig darpariaeth bwrpasol iddynt, yn yr ysgol.

Mae disgyblion eu hunain yn amlygu manteision y grwpiau ymyrryd hyn, er enghraifft:

Blwyddyn 5

“Rwy’n hapus pan gewn ni ein gwobrau.  Mae’n fy ngwneud i’n hapus pan rwy’n gwybod ein bod ni i gyd wedi gweithio gyda’n gilydd fel grŵp.”

Blwyddyn 5

“Os ydw i wedi cael bore drwg, mae’r ymlacio’n fy helpu i gael y pethau drwg allan o fy meddwl fel y gallaf i fynd ymlaen â gweddill y dydd.”

Blwyddyn 4

“Rwy’n mwynhau’r fraint o ofalu am yr anifeiliaid.”

Blwyddyn 4

“Rwy’n hoffi’r lloches dywyll gan ei fod yn helpu i fi dawelu.”

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gyda’r clwstwr y lleol, y teulu o ysgolion a’r consortiwm rhanbarthol i rannu cynllunio ar y cyd a syniadau am arfer orau.  Mewn digwyddiad ‘rhannu carlam’ diweddar i’r clwstwr, rhoddodd athrawon a staff cymorth gyflwyniad yn amlinellu sut maent yn defnyddio ‘mentor dysgu’ a rhaglenni cymorth bugeiliol yr ysgol i gefnogi teuluoedd agored i niwed.  Roedd y ffocws ar sut maent yn gwella deiliannau i ddisgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim a chânt effaith nodedig ar hybu presenoldeb da a lefelau uchel o les.  Hefyd, mae’r awdurdod lleol yn annog ymarferwyr eraill i ymweld â’r ysgol a gweld y rhaglen ‘mentor dysgu’ ar waith.