Sefydlu dulliau rheoli ymddygiad a gwobrwyo, o ganlyniad i  gyfrifoldeb y disgyblion.

Arfer effeithiol

YGG Tan-y-Ian

Golygfa ystafell ddosbarth gyda myfyrwyr yn eistedd wrth ddesgiau, un yn codi eu llaw, tra bod athro yn sefyll ger bwrdd gwyn yn esbonio gwers.

Gwybodaeth am yr ysgol 

Ysgol Gynradd Gymraeg yng Nghlas ar gyrion dinas Abertawe yw Ysgol Tan-y-lan. Yn ogystal â defnyddio’r Gymraeg fel ei phrif gyfrwng, mae’n rhoi sylw priodol i’r dimensiwn Cymreig yn ei bywyd a’i gwaith. Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 2011 ar safle hen Ysgol Fabanod y Graig gyda disgyblion oed meithrin a derbyn. Mae’r ysgol wedi mynd o nerth i nerth wrth i’r rhifau gynyddu yn flynyddol. Ym mis Ionawr 2022 agorwyd adeilad newydd. Mae gan yr adeilad hwn gyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n galluogi’r ysgol i barhau i gynnig cyfleodd amhrisiadwy i’r disgyblion.  Mae gan yr ysgol dîm o staff cyfeillgar a gweithgar. Maent yn cydweithio’n agos gyda’i gilydd a chyda llywodraethwyr a rhieni’r ysgol i sefydlu ysgol sy’n hapus, diogel ac ysgogol ar gyfer y disgyblion.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol  

Arwyddair yr ysgol yw ‘Bydd dda, bydd ddoeth, bydd wych, bydd fi’ sydd wedi ymgorffori yn ei chyd-destun a’i gweledigaeth. Mae ethos o falchder yn treiddio trwy’r ysgol gyfan.  Mae Ysgol Tan y Lan wedi cydnabod effaith gwrando ar lais y disgybl ers y cychwyn cyntaf. O ganlyniad i’r hyn mae gwrando ar lais y disgyblion wedi ei sefydlu yn gadarn yn yr ysgol. Mae’r ysgol wedi cyd-weithio’n agos gyda’r holl rhanddeiliaid er mwyn creu cymuned gynhwysol a gofalgar, sy’n hyrwyddo gwerthoedd cadarn fel ymddygiad da a pharch. Y disgyblion sydd wrth wraidd y dulliau rheoli ymddygiad a gwobrwyo llwyddiannus sydd wedi lledaeni ar draws yr ysgol. Mae disgyblion wedi dangos perchnogaeth a balchder drwy ymgorffori ethos parchus a gofalgar. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd 

Mae’r ‘Ysgol Ymddygiad’ wedi eu harddangos ym mhob dosbarth a chyfeirir ati yn ddyddiol i gefnogi a hybu parch ac ymddygiad arbennig. Nod bob disgybl yw dringo’r ‘Ysgol Ymddygiad’ wrth ddyfalbarhau i wneud cynnydd personol ac i ddangos agwedd cadarnhaol tuag at eu gwaith. Mae’r awydd gan bob un o’r plant i ddringo’r ysgol yn ddyddiol. Mae bob dydd yn ddechreuad newydd ac yn gyfle i bob un o’r disgyblion i sicrhau eu bod yn rhoi cynnig arni ac yn barod i ddysgu. Mae’r disgyblion yn annog a chanmol ei gilydd wrth iddynt ddringo’r ysgol.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr? 

Erbyn hyn mae lles ac agwedd disgyblion tuag at eu dysgu yn gryfder yn yr ysgol. Mae’r perthnasoedd gwaith cynnes ac effeithiol sy’n bodoli rhwng oedolion a disgyblion yn sicrhau bod bron bob un yn teimlo’n ddiogel ac yn gwneud cynnydd. Mae gweithredu hyn yn sicrhau bod bron bob un disgybl yn ymddwyn yn rhagorol yn ystod eu gweithgareddau, wrth weithio’n annibynnol, ac wrth chwarae gyda’u ffrindiau yn ystod amseroedd egwyl a chinio. Mae’r ethos cartrefol yn meithrin amgylchedd ddysgu hapus a chartrefol. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar safonau a medrau ym mhob agwedd o’u gwaith. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda? 

Mae staff o leoliadau addysgol eraill wedi ymweld â’r ysgol i arsylwi ar y strategaeth ar waith.  Rhannwyd yr arfer gyda lleoliadau eraill o fewn y Sir, ysgolion Sir Gaerfyrddin a Sir Castell Nedd Port Talbot.