Sefydlu dull ysgol gyfan o addysgu

Arfer effeithiol

Tredegar Comprehensive School


Cyd-destun

Ysgol gymysg 11-16 oed yn awdurdod lleol Blaenau Gwent yw Ysgol Gyfun Tredegar.  Mae tua 650 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Mae tua 21% o’r disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan 28% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. 

Mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel eu mamiaith ac yn dod o gefndir gwyn Prydeinig.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er 2012.  Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cynnwys dirprwy bennaeth a dau bennaeth cynorthwyol.

Strategaeth a chamau gweithredu

Wedi iddi ymuno â’r ysgol, nododd y pennaeth lawer o ddiffygion ar unwaith yn nealltwriaeth athrawon ac arweinwyr canol o ddata.  Roedd hyn yn cynnwys diffyg ymwybyddiaeth o sut i ddefnyddio dangosyddion cenedlaethol i fesur perfformiad disgyblion o gymharu â’r rheiny mewn ysgolion tebyg, yn ogystal â sut i ddefnyddio data i fesur cynnydd a deilliannau disgyblion unigol a grwpiau o ddisgyblion.  Dros gyfnod, roedd hyn wedi atal yr ysgol rhag datblygu asesiad cywir o ba mor dda roedd disgyblion yn cyflawni, ac o gryfderau’r ysgol a’i meysydd i’w datblygu o ganlyniad.  Roedd y grŵp staff presennol wedi hen ennill ei blwyf, roedd trosiant staff yn isel ac roedd perthnasoedd ar bob lefel yn yr ysgol yn dda iawn.  Fodd bynnag, at ei gilydd, nid oedd y diwylliant yn yr ysgol yn ddyheadol.  Roedd uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn aneglur ynglŷn â’u rolau a’u cyfrifoldebau ac nid oeddent yn dwyn staff i gyfrif yn ddigon da am eu perfformiad. 

Nododd rownd gyntaf yr arsylwadau gwersi a gynhaliwyd gan y pennaeth ac aelodau o’r uwch dîm arweinyddiaeth, er bod enghreifftiau o arfer dda mewn addysgu, fod disgwyliadau o ddisgyblion yn isel ac nid oedd cynllunio athrawon yn herio disgyblion unigol yn ddigon da.  Roedd cyfleoedd i athrawon rannu arfer dda ac elwa ar ddysgu proffesiynol yn gyfyngedig.  Ar draws yr ysgol, canolbwyntiai athrawon ac arweinwyr yn ormodol ar y barnau oedd ynghlwm wrth arsylwadau gwersi heb roi rhyw lawer o sylw i effaith eu haddysgu ar ddysgu disgyblion.

Roedd y pennaeth newydd, ynghyd â chynrychiolwyr o’r awdurdod lleol a’r consortiwm, yn rhannu’r un farn am yr angen i godi safonau cyrhaeddiad a phresenoldeb yn yr ysgol.  Roedd y pennaeth yn glir ei bod yn hanfodol datblygu arweinyddiaeth addysgu a dysgu yn yr ysgol.  I wneud hyn, byddai angen iddi gryfhau gallu arweinwyr canol ac uwch arweinwyr i ddeall a defnyddio data i ysgogi gwelliannau yn neilliannau disgyblion.  Ar yr un pryd, byddai angen i’r ysgol sefydlu dull cyffredin o addysgu a oedd yn canolbwyntio’n fwy ar effaith yr addysgu ar ddysgu a llai ar farnau oedd ynghlwm wrth wersi ac athrawon unigol.

I ddechrau, rhoddodd y pennaeth raglen gynhwysfawr o ddysgu proffesiynol ar waith gydag uwch arweinwyr ac arweinwyr canol, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio data ar lefel ysgol gyfan a lefel disgyblion unigol fel ei gilydd.  Roedd hyn yn cynnwys datblygu cyd-ddealltwriaeth ymhlith staff o’r dangosyddion perfformiad pwysicaf yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4 a defnyddio’r rhain i fesur perfformiad cymharol yr ysgol yn erbyn ysgolion eraill tebyg. 

Yn ychwanegol, nid oedd prosesau’r ysgol i arfarnu cyrhaeddiad a chynnydd disgyblion unigol wedi’u datblygu’n ddigonol.  Gweithiodd y pennaeth gyda staff i gryfhau systemau i olrhain a monitro perfformiad a phresenoldeb disgyblion a nodi rhaglenni ymyrraeth addas ar gyfer y disgyblion hynny yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt.  Sicrhaodd hyn fod pob un o’r staff yn meddu ar ddealltwriaeth glir o gynnydd disgyblion, yn ogystal â pherfformiad yr ysgol yn gyffredinol.  Yn ei dro, galluogodd hyn staff ar bob lefel i nodi cryfderau’r ysgol a blaenoriaethau ar gyfer gwella yn fwy cywir.

Yn gysylltiedig â hyn, rhoddodd y pennaeth ystod o fesurau ar waith i gryfhau graddau her ac atebolrwydd yn yr ysgol.  Adolygodd arweinwyr ddull yr ysgol o reoli perfformiad i sicrhau bod targedau rheoli perfformiad yn mynd i’r afael â blaenoriaethau ysgol gyfan.  Roedd y rhain yn cynnwys targedau heriol ond realistig ar gyfer athrawon a oedd yn canolbwyntio ar ddeilliannau disgyblion ac wedi’u cysylltu â lefelau cyflawniad blaenorol disgyblion.  Sicrhaodd adolygiad o strwythur cyfarfodydd yr ysgol fod cyfarfodydd ar draws yr ysgol yn canolbwyntio’n gyson ar flaenoriaethau’r ysgol, yn ogystal â darparu cyfleoedd cynyddol i staff gyfrannu at drafodaethau a hunanarfarnu.

Wrth ategu’r datblygiadau hyn, roedd y pennaeth yn glir ei bod yn hanfodol datblygu diwylliant o ddysgu proffesiynol yn yr ysgol a allai gynorthwyo athrawon i wella a dod yn fwy cyson yn eu harfer.  Gofyniad canolog i hyn oedd datblygu iaith ar y cyd i drafod addysgu a dysgu a allai hwyluso cydweithio llwyddiannus a rhannu arfer effeithiol.

Fel rhan o’r cymorth a drefnwyd i’r ysgol gan yr awdurdod lleol, ymwelodd y pennaeth ag ysgol yn Lloegr yn fuan ar ôl iddi gael ei phenodi, a gwnaeth yr ethos a’r dull o ddatblygu addysgu yn yr ysgol argraff dda arni.  Ym mis Medi 2013, dechreuodd dau aelod o staff o’r ysgol hon weithio gydag arweinwyr canol o Ysgol Tredegar ar raglen bwrpasol i ddatblygu addysgu yn yr ysgol gyda ffocws ar wella cynllunio athrawon i ddangos her gynyddol, dysgu gweithredol ac effaith.

Yn 2014, penodwyd pennaeth yr ysgol bartner yn Lloegr yn ymgynghorydd her ar gyfer Her Ysgolion Cymru Tredegar.  Cryfhaodd hyn y gweithio mewn partneriaeth a oedd wedi datblygu rhwng y ddwy ysgol ymhellach a galluogodd weddill y staff addysgu yn yr ysgol i gwblhau’r rhaglen addysgu a dysgu bwrpasol.  Yn dilyn hyn, cofrestrodd grŵp bach o staff ar raglen athrawon rhagorol , eto wedi’i hwyluso gan staff o Loegr. 

Defnyddiodd yr ysgol ran o’i chyllid Her Ysgolion Cymru i fuddsoddi mewn ystod o raglenni addysgu a hyfforddi.  Mae hyn wedi galluogi staff yn yr ysgol i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau dysgu proffesiynol sydd wedi’u cysylltu’n agos â’u cyfrifoldebau addysgu ac arwain a’u hanghenion datblygiadol. 

Elfen bellach o strategaeth y pennaeth fu sicrhau bod ymagweddau cyson at arfer dysgu ac addysgu yn cael eu datblygu rhwng yr ysgol uwchradd a’i hysgolion cynradd partner.  Yn hanesyddol, bu gan yr ysgolion berthnasoedd gweithio cadarnhaol ar hyd yr amser ac mae hyn wedi cryfhau ymhellach yn y blynyddoedd diwethaf trwy’r ffocws ar y cyd ar strategaethau addysgu a dysgu. 

Nodwedd allweddol o’r cydweithio hwn fu ymestyn cyfle i staff elwa ar gyfres o raglenni addysgu ar draws y clwstwr.  Mae hyn wedi gwella’n sylweddol y cyfleoedd i athrawon gymryd rhan mewn gweithio a rhwydweithio ar y cyd ar draws sectorau.  Mae’r pennaeth cynorthwyol o Ysgol Tredegar ac arweinwyr addysgu a dysgu o bob ysgol gynradd yn cyfarfod bob hanner tymor i gynllunio datblygiadau mewn addysgu a dysgu, a chynhelir cyfarfodydd addysgu rheolaidd i athrawon ar draws y clwstwr rannu arfer dda ar ôl yr ysgol.

Deilliannau

Mewn cyfnod hynod fyr, mae dull yr ysgol o wella addysgu wedi galluogi staff i sefydlu egwyddorion addysgegol ar y cyd ac iaith gyffredin ar gyfer trafod addysgu a dysgu.  Mae’r rhaglenni wedi ennyn brwdfrydedd ymhlith staff ac wedi darparu dull ysgol gyfan cyson o ran arfer ystafell ddosbarth.  Fel rhan o’r rhaglenni, mae staff wedi elwa ar lawer o gyfleoedd i weithio gyda’i gilydd i rannu arfer dda a datblygu syniadau ac adnoddau.  Mae disgyblion wedi croesawu gweithredu elfennau nad ydynt yn agored i’w trafod ar gyfer gwersi, ac maent yn hoffi’r arferion dyddiol ac arfer gyson ar draws yr ysgol.  Maent yn teimlo bod hyn wedi rhoi mwy o berchnogaeth iddynt o’u dysgu gan eu bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl mewn gwersi.  Gyda’r pwyslais ar gynyddu atebolrwydd pob un o’r staff ar gyfer y deilliannau a gyflawnir gan ddisgyblion yr ysgol, mae’r dulliau hyn wedi cyfrannu’n sylweddol at wella diwylliant her a dyhead yn yr ysgol.

Mae athrawon ar draws clwstwr Tredegar wedi ymateb yn frwdfrydig i fuddsoddiad yr ysgol yn ei rhaglenni addysgu.  Hyd yma, mae 60 o athrawon ar draws clwstwr Tredegar wedi cymryd rhan yn y rhaglen athrawon rhagorol, mae 32 wedi cymryd rhan yn y rhaglen arweinwyr addysg rhagorol, mae 12 wedi cymryd rhan yn y rhaglen gwella athrawon, ac mae 50 cymryd rhan yn y rhaglen cynorthwywyr athrawon rhagorol.  Yn ychwanegol, mae ysgolion yn y clwstwr wedi hyfforddi pump o hwyluswyr i sicrhau cynaliadwyedd.

Mae disgyblion yn elwa’n sylweddol ar barhad a dilyniant effeithiol mewn dysgu.  Er 2012, mae deilliannau yn yr ysgol wedi gwella’n sylweddol.  Er enghraifft, mae deilliannau yn nangosydd lefel 2 gan gynnwys Saesneg a mathemateg yng nghyfnod allweddol 4 wedi codi o 29% yn 2012 i 55% yn 2017.  Fe wnaeth perfformiad mewn llawer o ddangosyddion yn 2017 osod yr ysgol yn y 50% uchaf o ysgolion tebyg yn seiliedig ar gymhwyster i gael prydau ysgol am ddim (Llywodraeth Cymru, 2017c).

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

  • Cryfhau cyfleoedd i ddatblygu arfer ar y cyd trwy raglen arsylwadau cymheiriaid lle mae athrawon yn gweithio gyda’i gilydd i nodi meysydd i’w datblygu a chynllunio gwersi
  • Datblygu cyfleoedd ar gyfer prosiectau ymchwil weithredu ar draws y clwstwr
  • Datblygu pob un o’r staff yn arweinwyr dysgu trwy barhau i fuddsoddi mewn datblygiad proffesiynol sy’n canolbwyntio ar sicrhau safonau dysgu ac addysgu uchel
  • Hyrwyddo cyfleoedd i rannu arfer effeithiol yn yr ysgol, ar draws y clwstwr a thu hwnt

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn