Argymhellion
Dylai ysgolion cynradd ac uwchradd:
- barhau i ganolbwyntio ar godi safonau ysgrifennu annibynnol ac estynedig disgyblion, gan roi sylw agos i gynnwys, mynegiant a chywirdeb;
- parhau i wella gallu disgyblion i ddarllen er gwybodaeth a defnyddio medrau darllen lefel uwch;
- mynd i’r afael â thanberfformio gan ddisgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim mewn Saesneg, gan gynnwys ar gyfer disgyblion mwy abl, trwy dargedu a gweddu cymorth i’w hanghenion dysgu unigol;
- darparu gwaith heriol mewn Saesneg i ymestyn pob disgybl, yn enwedig y rhai mwy abl;
- cytuno sut i addysgu sillafu, atalnodi a gramadeg a darparu cysondeb mewn dulliau, fel addysgu rheolau a strategaethau sillafu;
- gwella arferion asesu ar gyfer dysgu a marcio gwaith disgyblion;
- sicrhau cydbwysedd gwell rhwng deunydd llenyddol a deunydd anllenyddol ac ymdrin â phob un o’r saith genre ysgrifennu;
- gweithio gydag ysgolion eraill i rannu arferion safoni a chymedroli effeithiol; a
- rhannu mwy o wybodaeth i gynorthwyo cyfnod pontio disgyblion i’r ysgol uwchradd.
Yn ychwanegol, dylai ysgolion uwchradd:
- wella addysgu ysgrifennu fel proses trwy annog disgyblion i gynllunio, adolygu, golygu a gwella eu gwaith eu hunain; a
- gwneud mwy o ddefnydd o lafaredd cyn darllen ac ysgrifennu, er mwyn helpu disgyblion i ddatblygu ac ymestyn eu dealltwriaeth a gwella ansawdd eu gwaith.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- wella dibynadwyedd a dilysrwydd asesiadau athrawon trwy adolygu meini prawf asesu a chyflwyno safoni allanol yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3.