Argymhellion
Er mwyn gwella’r niferoedd sy’n ymgymryd â phrentisiaethau, dylai Llywodraeth Cymru barhau i wneud y canlynol:
- defnyddio ‘Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau’ i dargedu hyrwyddo prentisiaethau i rieni a dysgwyr o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a dysgwyr anabl, ac i fynd i’r afael â stereoteipio’r rhywiau;
- mewn partneriaeth â darparwyr DYYG, ysgolion, grwpiau cymunedol pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, grwpiau sy’n cynrychioli pobl anabl, Gyrfa Cymu a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, comisiynu ymgyrch farchnata Cymru gyfan i gynyddu ymwybyddiaeth a hyrwyddo prentisiaethau i grwpiau sydd ar ymylon cymdeithas ac i fynd i’r afael â stereoteipio’r rhywiau. Dylai’r gynulleidfa darged gynnwys rhieni, athrawon, dysgwyr a chyflogwyr;
- gwneud yn siŵr bod cyflogwyr yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt wrth dderbyn prentisiaid ag anghenion cymorth neu ddysgu penodol, gan gynnwys y rheini sydd angen cymorth arnynt i ddatblygu’r Saesneg;
- adolygu’r dyraniad presennol o leoedd prentisiaeth er mwyn bodloni’r galw lleol, gan gynnwys annog sefydliadau’r sector cyhoeddus i dderbyn prentisiaid, gyda ffocws ar recriwtio o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a dysgwyr ag anabledd; a
- gweithio gyda darparwr DYYG i ddatblygu ymhellach eu polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth a’u dulliau gweithredu, gan gynnwys rhannu arfer orau.
Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith:
- weithio’n agosach ag ysgolion, cyflogwyr, arweinwyr cymunedol a sefydliadau sy’n cynrychioli dysgwyr duon a lleiafrifoedd ethnig a dysgwyr anabl er mwyn gwella ymwybyddiaeth o brentisiaethau;
- gweithio’n fwy effeithiol gyda darparwyr addysg lleol ac asiantaethau eraill i wneud yn siŵr bod profiad ac adnoddau gwerthfawr yn cael eu rhannu i gynorthwyo prentisiaid o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig;
- gweithio gydag arweinwyr cymunedol i nodi cydlynwyr cymunedol sy’n barod i gydlynu camau gweithredu i gynyddu ymwybyddiaeth o brentisiaethau yn y cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig;
- defnyddio modelau rôl i hyrwyddo prentisiaethau yn y gymuned; a
- gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff dyfarnu i ddatblygu mwy o ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i gyflwyno rhai elfennau o gymhwyster ar gyfer dysgwyr ag anableddau.