Rhoi’r grym i ddisgyblion ddysgu - Estyn

Rhoi’r grym i ddisgyblion ddysgu

Arfer effeithiol

Ysgol y Foryd


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Fabanod y Foryd ym Mae Cinmel yn awdurdod lleol Conwy.  Mae gan yr ysgol 225 o ddisgyblion rhwng tair a saith oed, gan gynnwys 50 o ddisgyblion rhan-amser yn y dosbarth meithrin.  Mae wyth dosbarth yn yr ysgol.

Cyfran gyfartalog y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim dros y tair blynedd ddiwethaf yw tua 29%.  Mae hyn yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 19%.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan 35% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.

Dechreuodd y pennaeth dros dro yn ei swydd ym mis Medi 2017.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae ymchwil yn dangos mai asesu ffurfiannol effeithiol yw un o’r ffactorau pwysicaf sy’n cyfrannu at lwyddiant mewn asesu crynodol.  Mae hyn oherwydd bod gan ddysgwyr syniad clir ynglŷn â sut beth yw gwaith rhagorol, a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gyrraedd y safon hon.  Mae asesu ar gyfer dysgu yn helpu o ran gwneud dealltwriaeth a gwybodaeth ‘yn fwy gweladwy’, fel y mae John Hattie yn ei ddisgrifio.

Mae Ysgol y Foryd wedi ymchwilio ac arbrofi â llawer o wahanol agweddau ar strategaethau asesu ar gyfer dysgu, a thros gyfnod, mae wedi datblygu dull cyson, graddol ac arloesol sy’n gweithio i’r ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r defnydd effeithiol o strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn cefnogi cynnydd a datblygiad disgyblion fel dysgwyr annibynnol.  Ar sail y gwaith gan James Nottingham, mae pob dosbarth yn dyfeisio pwll dysgu gyda’r disgyblion ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, fel ffordd o addysgu’r disgyblion i wynebu heriau a defnyddio camgymeriadau yn gyfleoedd dysgu.

Caiff disgyblion adborth adeiladol er mwyn iddynt ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella eu gwaith.  Bu polisi marcio ysgol gyfan sy’n syml ond yn ystyrlon i’r holl randdeiliaid yn allweddol i gael hyn yn gywir.  Mae disgyblion yn deall pan fyddant wedi gwneud rhywbeth cadarnhaol a phryd y gallant wella ar rywbeth trwy edrych ar liw marcio athrawon; pinc am gadarnhaol a gwyrdd am dwf.  Wedyn, rhoddir cyfle i ddisgyblion wella eu gwaith ar unwaith.

Mae pob dosbarth yn defnyddio ‘partneriaid siarad’ i alluogi disgyblion i weithio mewn parau i drafod eu dysgu a rhannu syniadau.  Cânt eu newid yn rheolaidd i fagu hyder mewn siarad a gwrando.  Mae ‘partneriaid siarad’ yn annog pob un o’r disgyblion i siarad, ac yn aml yn nodi camsyniadau yn gynnar. 

Mae’r ysgol yn credu y dylid rhoi’r ‘pŵer i ddysgu’ i ddisgyblion.  Penderfynodd pob un o’r staff ar chwech o bwerau dysgu, a dyfeisio enwau cymeriadau a storïau ar gyfer pob un ohonynt.  Datblygodd yr ysgol un stori ar y tro, gan ddechrau â gwasanaeth, wedi’i ddilyn gan weithgareddau ym mhob dosbarth i’w hyrwyddo a’u hatgyfnerthu yn y ‘pŵer dysgu’.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn cyfeirio at y cymeriadau wrth ddisgrifio sut   gwnaethant ddysgu, er enghraifft ‘Gwen the gorilla gives it a go!’

Mae dysgu yn Ysgol y Foryd wedi’i seilio ar destunau ac yn cynnwys wythnosau ffocysedig yn seiliedig ar fedrau, gan gynnwys wythnos wyddoniaeth, wythnos y coetir ac wythnos y traeth.  Ar ddechrau pob testun, mae athrawon yn darganfod beth mae’r disgyblion yn ei wybod eisoes, ac mae’r disgyblion yn cyfrannu at y cynllunio gyda syniadau am yr hyn yr hoffent ei ddysgu a sut gallant gyflawni hyn.  Wrth i’r testun fynd rhagddo, mae’r athrawon a’r disgyblion yn cwblhau arddangosfa taith ddysgu i ddangos eu gwybodaeth newydd.  Mae cynllunio wedi’i arwain gan ddisgyblion wedi arwain at deithiau diddorol ac ymwelwyr â’r ysgol, ac mae wedi cynyddu ymgysylltiad disgyblion â’u dysgu eu hunain.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i ddefnyddio’r strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn gyson, mae disgyblion yn dysgu’n annibynnol a gallant nodi’r hyn y mae angen iddynt ei wneud er mwyn gwella’u gwaith.  Maent yn hyderus wrth ddewis eu lefel eu hunain o her.  Canlyniad cadarnhaol gallu’r disgyblion i fyfyrio ar eu dysgu eu hunain a’i wella, er enghraifft, yw’r cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cyflawni deilliant 6 mewn datblygiad personol a chymdeithasol yn y cyfnod sylfaen.

Mae ethos yr ysgol gyfan wedi newid o ganlyniad i’r ymagwedd gyson tuag at asesu ar gyfer dysgu.  Mae gan ddosbarthiadau ‘ddiwylliant meddylfryd twf’ a gwerthfawrogir syniadau a barn disgyblion.  Adeiladir ar y dysgu, ac ni chaiff ei ailadrodd, sy’n sicrhau dilyniant cadarn trwy’r cyfnod sylfaen.  Rhoddir beirniadaeth adeiladol i ddisgyblion, sy’n eu galluogi i ‘dyfu eu hymennydd’.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu ei harfer dda gyda’r holl randdeiliaid trwy gyfarfodydd, diwrnodau agored, cylchlythyrau a Twitter.  Rhannwyd astudiaeth achos arfer effeithiol ar blatfform ‘G6’ y consortiwm i ysgolion yn y rhanbarth ei darllen a’i rhannu. 

Mae Ysgol y Foryd yn rhannu arfer dda sy’n ymwneud ag asesu ar gyfer dysgu ar draws y consortiwm.  Rhoddodd athrawon arweiniol gyflwyniadau i dros 100 o ysgolion, a rhoddodd y pennaeth gyflwyniadau i CALU (cynorthwywyr addysgu lefel uwch) a phenaethiaid fel rhan o’r gynhadledd CALU flynyddol.