Rhoi llais cyfartal i ddisgyblion, staff a rhanddeiliaid wrth greu ysgol newydd - Estyn

Rhoi llais cyfartal i ddisgyblion, staff a rhanddeiliaid wrth greu ysgol newydd

Arfer effeithiol

Ysgol Y Deri


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol breswyl arbennig a gynhelir gan awdurdod lleol Bro Morgannwg yw Ysgol Y Deri.  Agorwyd yr ysgol ym mis Tachwedd 2014 ar ôl uno Ysgol Erw’r Delyn, Ysgol Maes Dyfan ac Ysgol Ashgrove.  Mae’r ysgol yn rhannu safle a chyfleusterau ag ysgol uwchradd prif ffrwd.  Mae 246 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng tair ac un deg naw oed ar hyn o bryd.  Mae gan yr holl ddisgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig ar gyfer anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu cymedrol neu anhwylderau’r sbectrwm awtistig.  Daw disgyblion i’r ysgol o Fro Morgannwg, yn ogystal ag o awdurdodau lleol cyfagos Caerdydd, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe.  Saesneg yw mamiaith bron pob un o’r disgyblion.  Mae tri deg pump y cant o’r disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd ers i’r ysgol agor.

Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer gallu amrywiol o ‘Ar Drywydd Dysgu’ i Safon Uwch, sy’n ei gwneud yn unigryw yng Nghymru.  Mae ganddi 240 o staff ar y safle.  Mae’r ysgol yn adeilad newydd a agorwyd ym mis Tachwedd 2014, lai na dwy flynedd cyn ei harolygiad.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Yn 2009, ffurfiwyd cynllun gan yr awdurdod lleol i uno’i dair ysgol arbennig yn un, gan gydleoli’r ysgol ar safle rhanedig gydag ysgol uwchradd prif ffrwd drws nesaf.   Pan benderfynwyd uno, roedd tri phennaeth, ac ar ôl sefydlu’r corff llywodraethol cysgodol, roedd pedwar corff llywodraethol. 

Penderfynodd dau o’r penaethiaid ymddeol a chytunodd y cyrff llywodraethol ffedereiddio.  Penodwyd y pennaeth a oedd yn weddill yn yr ysgol newydd, fel Pennaeth Gweithredol pob un o’r pedair ysgol i ddechrau.  Wedyn, sefydlwyd tîm arweinyddiaeth ar gyfer yr ysgol newydd a oedd yn cynnwys aelodau o’r timau presennol.  Cymerodd bum mlynedd i gyd i gynllunio’r ysgol, a’i hadeiladu.  

Roedd gan y tair ysgol ddiwylliannau unigol ac unigryw iawn.  Yr her i’r tîm arweinyddiaeth oedd dod â’r staff at ei gilydd a gwneud hyn gyda gweledigaeth ar y cyd ac ymdeimlad ar y cyd o berchnogaeth, gan felly sicrhau bod yr ysgol newydd yn dod yn un ysgol sydd â’i hunaniaeth unigryw ei hun. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Roedd y tîm arweinyddiaeth yn glir ynglŷn â’r heriau oedd o’u blaen ac roeddent wedi’u trwytho’n dda yn yr ymchwil y tu ôl i reoli newid yn llwyddiannus, gan gynnwys gwaith gan yr Athro Michael Fullan, ymhlith eraill.  Blaenoriaeth allweddol y tîm oedd rhoi strategaethau addas ar waith i sicrhau bod gan ddisgyblion, staff a rhanddeiliaid eraill leisiau cyfartal wrth ddylunio’r ysgol newydd: ei chyfleusterau, cwricwlwm, gweledigaeth ac ethos.

Nodwyd pedwar maes allweddol, sef:
1. Rheoli newid ar gyfer y staff
2. Y dyluniad a’r ddarpariaeth yn yr ysgol newydd
3. Y cwricwlwm ar gyfer yr ysgol newydd
4. Dealltwriaeth a rheolaeth o’r disgyblion gan y staff a sut byddent yn dod at ei gilydd

Penderfynwyd y byddai’r staff a’r disgyblion yn cael eu ‘cymysgu’ o ddiwrnod cyntaf yr ysgol newydd.  Felly, y dasg gyntaf oedd galluogi’r timau staff i gyfarfod â’i gilydd.  Trefnwyd ymarferion meithrin tîm ar ddiwrnodau HMS ar y cyd i alluogi’r staff o bob un o’r tair ysgol i ddod i adnabod ei gilydd.

Sefydlwyd timau arbenigol gyda chynrychiolwyr o bob ysgol ac o blith staff cymorth a staff addysgu i ddylunio a chynghori ynglŷn â’r adeilad newydd, y ddarpariaeth, y cwricwlwm, ac i nodi anghenion hyfforddi.  Ymgysylltodd pawb oedd eisiau rôl a defnyddiwyd sawl cyfrwng ar gyfer rhannu’r deilliannau, gan gynnwys e-bost a Yammer.

Bu’r timau a gafodd eu cynnwys mewn dylunio’r adeilad yn gweithio gyda disgyblion a phenseiri i sicrhau y byddai’r adeilad yn bodloni anghenion staff a dysgwyr.  Anogwyd y timau hyn i feddwl yn ddychmygus fel nad oedd yr ysgol yn syml yn ail-greu’r hyn a oedd yn bodoli eisoes.  Fe wnaeth y prosiect ddechrau’r cysyniad o ‘Lysgenhadon Adeiladu’ hefyd, sef dau ddisgybl o bob un o’r pedair ysgol yn cymryd rhan yn y prosiect (gan gynnwys yr ysgol prif ffrwd).  Roeddent yn ymweld â’r safle’n rheolaidd ac yn adrodd yn ôl i’w cyfoedion yn yr ysgolion trwy adroddiadau llafar, cyflwyniadau a fideo.

Wrth i’r cwricwlwm gael ei gynllunio, arbrofwyd ag ef yn y tair ysgol, ac ymgynghorwyd â disgyblion ynglŷn â’i addasrwydd.  Wedyn, sicrhaodd proses adborth fod y cwricwlwm yn cael ei ddatblygu yn unol ag anghenion pob un o’r disgyblion.  Sefydlwyd llwybrau cymhwyster ar gyfer dysgwyr 14-19 a safonwyd gweithdrefnau asesu a chofnodi.  Prynwyd gwisgoedd newydd i’r staff, a ddyluniwyd gan ddisgyblion a rhieni.

Cynhaliwyd cyfres gynlluniedig o gyfnewid staff dros ddwy flynedd y cyfnod adeiladu.  Roedd hyn yn cynnwys parau o staff yn gweithio am gyfnodau o bythefnos yn yr ysgolion nad oedd ganddynt unrhyw brofiad ohonynt.  Treuliodd pob aelod o staff o leiaf bythefnos yn un o’r tair ysgol arall.  Fe wnaeth hyn helpu nodi anghenion hyfforddi a rhoddodd gyfleoedd i staff rannu profiadau.

Bu’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cyfnewid ar draws yr ysgolion hefyd, er eu bod yn ‘cyfnewid’ am gyfnod llawer hwy i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gadarn o anghenion disgyblion a staff.  Roedd hefyd yn bwysig dod i adnabod y staff ym mhob ysgol a sefydlu perthynas yn gynnar.  Aeth disgyblion yn y grŵp oedran 14-19 i wahanol ysgolion hefyd i gymryd rhan mewn diwrnod dewisiadau bob wythnos.  Cymerwyd gofal i sicrhau nad oedd yr un ysgol yn arwain yr ysgolion eraill a bod gan bawb ran gyfartal yn yr ysgol newydd.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Roedd staff a disgyblion wedi cael eu paratoi’n dda ar gyfer yr ysgol newydd.  Roeddent yn gyfarwydd â’r adeilad ac wedi cyfarfod ag athrawon a ffrindiau ysgol newydd. Roedd dealltwriaeth ar y cyd o anghenion y disgyblion, ac roedd staff wedi’u paratoi’n dda i fodloni eu hanghenion corfforol, emosiynol ac addysgol.

Gallai’r ysgol gyflwyno fframwaith cwricwlwm, cymwysterau ac asesu cydlynol i sicrhau bod cyflawniad a safonau’n uchel o’r dechrau.  Llwyddodd pob un o’r disgyblion yn y flwyddyn gyntaf wedi i’r ysgol agor i fodloni eu targedau a gadawodd yr holl ymadawyr ag o leiaf un cymhwyster cydnabyddedig.  Aseswyd bod lles bron pob un o’r disgyblion yn dda neu’n rhagorol.

Mae’r adeilad yn cefnogi cwricwlwm hynod effeithiol, eang ac amrywiol.  Mae ganddo ystod eang o ddarpariaeth, gan gynnwys stiwdio deledu a chegin broffesiynol, i sicrhau bod ystod eang anghenion y dysgwyr yn cael eu bodloni’n llawn.  Mae’r ddarpariaeth ar gyfer TGCh yn gryfder arbennig.  Gwna disgyblion ddefnydd helaeth o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu ar draws y cwricwlwm, ac mae bron pob un o’r disgyblion ar draws yr ysgol yn gwneud cynnydd cryf yn eu medrau TGCh.

Roedd y Llysgenhadon Adeiladu yn siarad yn eang y tu hwnt i’r ysgol, gan gynnwys â gwleidyddion a’r diwydiant adeiladu, a chawsant wobrau am eu gwaith.  Enillodd llysgenhadon Ysgol Y Deri Wobr y Llefarydd ar gyfer Cynghorau Ysgol ac aethant i’r Senedd i annerch Aelodau Seneddol.  Ni ellir gorbwysleisio’r effaith ar eu hyder, eu hunan-barch a’u lles.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi croesawu ymwelwyr o bob cwr o’r DU ac yn rhyngwladol.  Defnyddir fframweithiau ar gyfer y cwricwlwm 14-19 mewn ysgolion eraill.  Cefnogir ysgolion eraill yn eu taith datblygu TGCh mewn darpariaeth, dysgu ac addysgu.  Mae’r ysgol yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru hefyd, yn cynorthwyo a chynghori awdurdodau lleol ar adeiladau ysgol newydd ac yn rhannu ‘gwersi a ddysgwyd’.