Rhoi gwerth ar lais y dysgwr - Estyn

Rhoi gwerth ar lais y dysgwr

Arfer effeithiol

Castell Alun High School


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector:

Ysgol gyfun gymunedol 11 i 18 oed cyfrwng Saesneg yw Castell Alun High School sydd wedi’i lleoli ym mhentref Yr Hob, Sir y Fflint. Mae 1,374 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, ac mae 307 ohonynt yn y chweched dosbarth.

Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal eang sy’n cynnwys cymunedau gwledig yn bennaf o Benyffordd, Penymynydd, Kinnerton, Ffrith, Llanfynydd, Treuddyn, Coed-llai, Yr Hob a Chaergwrle. Mae gan ryw 5% o ddisgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17.7%, ac mae 7.3% o ddisgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae’r disgyblion sy’n dechrau yn yr ysgol yn cynrychioli’r ystod gallu llawn. Mae gan ryw 4.3% ohonynt angen addysgol arbennig. Mae’r ffigur hwn yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 19.2%. Mae gan lai na 1% o ddisgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig. Mae’r ffigur hwn yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 2.5% ar gyfer Cymru gyfan.

Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ac nid oes unrhyw ddisgyblion yn cael cymorth i ddysgu Saesneg fel iaith ychwanegol ar hyn o bryd. Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel eu mamiaith.

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu ymhellach trwy hunanarfarnu effeithiol trwy ddarparu profiadau dysgu o ansawdd da a hyrwyddo disgwyliadau uchel tra’n cydnabod ac yn dathlu llwyddiant i bawb.

Fel rhan o broses hunanarfarnu fwy myfyriol ac ar y cyd gyda staff a disgyblion fel ei gilydd, newidiwyd diwylliant yr ysgol ychydig bach, lle mae athrawon yn fodlon derbyn a gwerthfawrogi llais y dysgwr a lle caiff barn a sylwadau disgyblion eu defnyddio i ddylanwadu ar ddeilliannau a phrofiadau dysgu. Caiff safbwyntiau a barn disgyblion eu hintegreiddio yn y prosesau hunanarfarnu ar draws yr ysgol ar bob lefel.

Mae ystyried safbwyntiau dysgu disgyblion er mwyn gwella dysgu yn rhan annatod o broses hunanarfarnu’r ysgol. Mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u gwerthfawrogi yn yr ysgol ac mae manteision amrywiol wedi deillio o hyn.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector:

Mae cynghorau grwpiau blwyddyn yn gyfrwng effeithioli roi llais i ddisgyblion. Mae ‘Rheolwyr Datblygu Disgyblion’ yn sicrhau bod o leiaf tri chyfarfod yn cael eu cynnal fesul tymor a bod cynrychiolwyr grwpiau blwyddyn yn cael eu hethol gan eu cyfoedion. Disgwylir iddynt adrodd yn ôl yn ffurfiol wrth eu grwpiau tiwtor a mynd i’r afael â phwyntiau gweithredu.

  • Mae’r cyngor ysgol yn cynnwys disgyblion a ddewiswyd o’r Cyngor Grwpiau Blwyddyn ac fe gaiff ei gadeirio gan ddau ddisgybl chweched dosbarth a ddewiswyd. Trwy drafod â’r pennaeth cynorthwyol sy’n gyfrifol am drefniadau bugeiliol, cynhelir cyfarfodydd bedair gwaith y tymor. Mae’r pennaeth yn mynychu pob cyfarfod ac fe gaiff pwyntiau gweithredu eu dosbarthu i bob un o’r staff, ac mae cynrychiolwyr blwyddyn yn eu hadrodd yn ôl wrth ddisgyblion fel rhan o wasanaethau mewn sesiynau tiwtor blwyddyn a grŵp.
  • I sicrhau bod llais gan bob grŵp o ddysgwyr, beth bynnag fo’u gallu neu’u cefndir, mae Rheolwyr Datblygu Disgyblion, fel rhan o’u proses hunanarfarnu, yn cyfarfod yn rheolaidd gyda grwpiau o ddysgwyr a nodwyd, er enghraifft disgyblion a nodwyd trwy astudiaeth agwedd. Rhoddir adborth o’r cyfarfodydd hyn i gynrychiolydd yr uwch arweinyddiaeth sydd ynghlwm wrth bob grŵp blwyddyn ac fe’i trafodir fel rhan o agenda’r Rheolwyr Meysydd Dysgu gyda’u hunigolyn cyswllt o’r uwch arweinyddiaeth.
  • Mae cylch bob dwy flynedd yr Adolygiadau Meysydd Dysgu a’r Adolygiadau Cwricwlwm Cyfnod Allweddol tymhorol yn defnyddio llais y disgybl fel uned annatod o’r broses adolygu. Mae disgyblion yn mabwysiadu rôl cyfoedion sy’n holi yn ogystal â chynrychiolwyr cyfoedion, a rhoddwyd hyfforddiant iddynt ar dechnegau holi effeithiol. Gofynnir iddynt roi sylwadau ar addysgu a dysgu ac fe gaiff eu hymatebion eu cynnwys yn y ddogfennaeth derfynol a gyhoeddir i bob aelod o staff. Rhoddir adborth i ddisgyblion ar eu heffeithiolrwydd yn y broses hefyd ac fe’u defnyddir i ddarparu hyfforddiant llais y disgybl.
  • Mae cyflwyno Grwpiau Gweithredu Pynciau Llais y Disgybl yn galluogi disgyblion ar draws y cyfnodau allweddol i weithio’n agos â Meysydd Dysgu i drafod materion addysgu a dysgu fel cynnwys y cynlluniau gwaith a’r gweithdrefnau asesu.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr:

Mewn ymateb i adborth gan ddisgyblion, mae’r ysgol wedi cyflwyno’r canlynol:

  • creu cyfres o adnoddau llythrennedd a rhifedd i athrawon a disgyblion eu defnyddio i gefnogi a datblygu’r medrau pwysig hyn;
  • datblygu gorsaf radio ysgol a chynnwys system deledu fewnol yr ysgol;
  • mae cyflwyno gwobrau bwyta’n iach yn galluogi disgyblion i gasglu credydau tuag at gael pryd am ddim. Trwy ymgynghori â rheolwr arlwyo’r ysgol, gwnaed newidiadau i fwydlenni’r ysgol a mentrau newydd fel man gwerthu bar brechdanau bwyta’n iach;
  • mae cyfleusterau gwell i ddisgyblion yn sgil grŵp o ddisgyblion yn cyfarfod bob mis â’r pennaeth i asesu adeiladau’r ysgol. Mae eu gwaith gyda’r bwrsar a’r gofalwr o ran ariannu’r gwelliannau hyn wedi bod yn broses ddysgu gadarnhaol ar gyfer disgyblion a staff fel ei gilydd;
  • mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan grwpiau fel ‘Gwirfoddolwyr y Mileniwm’ a’r grŵp ADCDF wedi ymestyn perthynas yr ysgol gydag asiantaethau allanol a’r cynnig llwyddiannus diweddar i ‘Ymddiriedolaeth Thomas’ (ymddiriedolaeth ysgolion) wedi galluogi disgyblion is eu gallu i gael cyllid ar gyfer ystod eang o weithgareddau sy’n gysylltiedig â darparwyr allanol; ac
  • mae Cyngor Chwaraeon Addysg Gorfforol y Disgyblion yn cydweithio â’r Pennaeth Addysg Gorfforol a’r Swyddog 5×60. Maent yn cynllunio digwyddiadau chwaraeon a’r gweithgareddau allgyrsiol ar sail dymuniadau disgyblion ac fe’u cynigir fel rhan o’r ‘Clwb Ar Ôl yr Ysgol’ ddwywaith yr wythnos.

At ei gilydd, mae’r ffocws ar lais y disgybl fel cyfrwng ar gyfer hunanarfarnu effeithiol wedi arwain at broses fwy agored, gwybodus ac uchelgeisiol lle mae gan yr ysgol agenda ymarferol ar gyfer newid lle gall disgyblion nodi meysydd i’w gwella ymhellach. Mae gan ddisgyblion fwy o ran yn y broses hunanarfarnu, ac felly, maent yn falch iawn o’u lle yng nghymuned yr ysgol. Mae hyn wedi gwneud cyfraniad pwerus at ethos hynod gynhwysol a gofalgar yr ysgol a gwelir yr effaith yn y cyfraddau cyfranogi eithriadol o uchel ar draws ystod o weithgareddau yn yr ysgol, a thros y tair blynedd diwethaf yng nghyfnod allweddol 4, mae perfformiad yr ysgol yn y dangosyddion sy’n cynnwys Saesneg a mathemateg wedi bod uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer ysgolion tebyg yn gyson. Yn unol â’r hyn a nodwyd yn eu hadroddiad arolygu diweddar, mae lles disgyblion yn gryfder amlwg yn yr ysgol. ‘Mae disgyblion yn Castell Alun High School yn gwerthfawrogi eu hysgol yn fawr. Maent yn mwynhau bywyd ysgol yn llawn ac yn cymryd rhan yn frwdfrydig ym mhob un o’r profiadau a’r cyfleoedd dysgu a ddarperir gan yr ysgol. Mae eu hagweddau cadarnhaol at ddysgu yn cael effaith gref iawn ar bresenoldeb, ymddygiad a safonau. Mae eu hymddygiad yn eithriadol o dda. Mae lefel y gofal, y pryder a’r parch sydd gan ddisgyblion at ei gilydd yn rhagorol. Nid oes arnynt ofn cynnig neu dderbyn cymorth gan ei gilydd ac fe gaiff hyn effaith gadarnhaol ar eu cynnydd a’u cyflawniad. Mae bron pob un o’r disgyblion yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael cymorth da yn yr ysgol’.Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer dda hon mewn amrywiaeth o ffyrdd.

  • Mae rhan staff mewn rhaglenni datblygiad proffesiynol ar draws nifer o ysgolion wedi darparu fforwm ar gyfer rhannu arfer dda.
  • Mae’r ysgol wedi defnyddio Rhaglen Cymorth Gwasanaethau Gwella Ysgolion Gogledd Cymru yn gyfrwng ar gyfer rhannu a datblygu arfer dda yn llais y disgybl.
  • Datblygwyd llawer o’r systemau a’r prosesau sy’n cefnogi Llais y Disgybl yn yr ysgol gyda Swyddogion yr Awdurdod Lleol; maen nhw yn eu tro wedi defnyddio’r rhain fel enghreifftiau o arfer dda mewn ysgolion eraill.

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn