Rhoi dysgu digidol wrth wraidd y cwricwlwm - Estyn

Rhoi dysgu digidol wrth wraidd y cwricwlwm

Arfer effeithiol

Darran Park Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol 

 
Mae Ysgol Gynradd Darran Park yn awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf.  Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion rhwng tair ac un ar ddeg oed.  Mae 340 o ddisgyblion mewn 12 dosbarth, y mae tri ohonynt yn ddosbarthiadau oedran cymysg.  Ceir dosbarth cymorth dysgu yr awdurdod lleol ar gyfer hyd at wyth o ddisgyblion y cyfnod sylfaen hefyd.
 
Mae tua 22% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sy’n debyg i’r cyfartaledd cenedlaethol.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan 32% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol.  Daw bron pob un o’r disgyblion o gartrefi Saesneg eu hiaith.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i ychydig iawn o ddisgyblion. 
 
Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar hyn o bryd, ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau mewn perthynas â’r cwricwlwm.
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

 
Yn dilyn yr argymhellion yn adroddiad arolygiad yr ysgol gan Estyn yn 2011 ynghylch diffyg darpariaeth ar gyfer cyfleoedd TGCh ar draws y cwricwlwm, aeth yr ysgol ar ei thaith i fynd i’r afael â’r broblem hon. 
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch 

 
Mae dysgu digidol wrth wraidd y cwricwlwm yn Ysgol Gynradd Darran Park.  Mae’r ysgol yn credu bod sefydlu gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol, sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid, wedi bod â rhan bwysig yn ei thaith ddigidol. 
 
Mae’r ysgol yn credu bod datblygiad staff yn hanfodol ar gyfer effeithiolrwydd addysgu a dysgu o ran dysgu digidol.  Pan gyflwynodd arweinwyr y fframwaith cymhwysedd digidol (FfCD), cwblhaodd pob un o’r staff addysgu a’r staff nad ydynt yn addysgu asesiad hyder gwaelodlin ym mhob un o’r elfennau.  Defnyddiodd arweinwyr y canlyniadau i lunio targedau penodol ar gyfer staff er mwyn iddynt fagu hyder mewn meysydd penodol o’r FfCD.  Yn ogystal â hyn, os oedd staff yn hyderus iawn mewn meysydd penodol, roedd arweinwyr yn eu hannog i rannu arfer dda gyda phobl eraill ac arwain hyfforddiant.  Mae pob un o’r athrawon wedi gweithio’n agos ag arweinydd dysgu digidol yr ysgol i ddatblygu tasgau a chyfleoedd cyfoethog y FfCD i ddatblygu’r FfCD ar draws y cwricwlwm. 
 
Trwy ddull thematig o ddysgu, mae’r ysgol yn sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd cyson i ddatblygu cymwyseddau digidol mewn ffordd ddifyr ac arloesol.  Mae athrawon yn cynllunio’n ofalus i ddatblygu’r FfCD a dysgu digidol o fewn cynllunio tymor canolig a thymor byr.  Yn y testun ‘Blitz: Cymru yn y Rhyfel’, bu disgyblion yn cydweithio â 10 ysgol o Gonsortiwm Canolbarth y De i ddysgu am brofiad plentyn o’r Ail Ryfel Byd.  Bu disgyblion yn dysgu am eu hardal leol yn ystod y rhyfel, ac yn creu eu cymuned gan ddefnyddio meddalwedd fodelu, a datblygu cyflwyniadau aml gyfrwng i’w rhannu ag ysgolion eraill.  Gwnaeth disgyblion animeiddiad ar y cyd hefyd, sef “O Gaerdydd i’r Cymoedd” (“From Cardiff to the Valleys”), am brofiad faciwî o ryfel.  Bu ysgolion yn creu naratif ar y cyd, a phob un yn cymryd cyfrifoldeb am animeiddio golygfa.  Fe wnaeth defnyddio TGCh fel hyn helpu disgyblion i ddeall sut roedd plant yn byw mewn gwahanol rannau o Gymru yn profi rhyfel mewn ffyrdd gwahanol iawn. 
 
Yn Ysgol Gynradd Darran Park, mae staff yn defnyddio dysgu digidol yn effeithiol i godi safonau mewn Saesneg.  Yn y prosiect ‘The Wonderful World of Roald Dahl’, bu disgyblion yn defnyddio llyfrau Roald Dahl a thechnoleg ddatblygol fel sbardun ar gyfer ysgrifennu.  I ddathlu 100fed pen-blwydd Roald Dahl, bu disgyblion yn creu eu naratifau eu hunain wedi’u hysbrydoli gan Roald Dahl gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd arloesol.  Yn sgil llwyddiant y prosiect, creodd yr ysgol gystadleuaeth fyd-eang, a chymerodd disgyblion o 95 o ysgolion ledled y byd ran ynddo.
 
Yn yr ysgol, mae gan arweinyddiaeth disgyblion rôl allweddol yn ymagwedd yr ysgol at ddysgu digidol.  Neilltuir meysydd cyfrifoldeb penodol i arweinwyr digidol, gan gynnwys cyfathrebu a chydweithio, y pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), ac e-ddiogelwch.  Caiff disgyblion eu cynnwys mewn monitro dysgu digidol yr ysgol trwy wrando ar ddysgwyr a theithiau dysgu.  Fel rhan o’i hymagwedd at rannu arfer dda, mae’r ysgol yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr digidol weithio gyda dosbarthiadau ar draws yr ysgol i gyflwyno gweithdai sy’n canolbwyntio ar y FfCD.  Fel rhan o’u sioe ffordd arweinwyr digidol, bu disgyblion yn datblygu eu cwmni menter hyfforddiant digidol eu hunain i gynorthwyo ysgolion sy’n defnyddio technoleg ddatblygol yn yr ystafell ddosbarth.  Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae disgyblion wedi ymweld â thros 100 o ysgolion, yn cyflwyno ystod o weithdai gan ddefnyddio llwyfan dysgu, a rhaglenni modelu a phrosesu geiriau.  Yn ychwanegol, gwahoddwyd arweinwyr digidol disgyblion i gwmni technoleg rhyngwladol i gefnogi creu menter newydd – ymagwedd gyson a difyr i hyrwyddo STEM a chyfrifiadureg. 
 
Mae gan dechnoleg ddatblygol ran annatod mewn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion gydweithio a chyfathrebu â dysgwyr o bob cwr o’r byd.  Trwy ddefnyddio meddalwedd cymhwyso telathrebu yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth, mae dysgwyr wedi cydweithio ag ysgolion o lawer o wledydd, gan gynnwys India, UDA, Sweden a Gwlad Pwyl.  Ar ddechrau’r testun diweddar, sef ‘Hola Mexico’, bu disgyblion yn cymryd rhan mewn sgwrs ddigidol ddirgel gydag ysgol ym Mecsico. 
 
Mae’r ysgol wedi arwain llawer o brosiectau ymchwil gweithredu ar y cyd ag ysgolion ledled Cymru, gan gynnwys prosiect 2017 gyda phum ysgol yn canolbwyntio ar y cwestiwn canolog: ‘Ai gimig yw pecyn meddalwedd fodelu cyfarwydd iawn?’  Bu disgyblion yn defnyddio fforymau cydweithredol yn yr ystafell ddosbarth i rannu ac asesu ysgrifennu ei gilydd.  Cyflwynodd disgyblion eu canfyddiadau i’w gilydd a gwahodd gwesteion i ddigwyddiad rhannu ym Mhrifysgol De Cymru yng Ngorffennaf 2017.
 
Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae defnydd arloesol a difyr yr ysgol o dechnoleg ddigidol ar draws y cwricwlwm wedi cael effaith sylweddol ar safonau disgyblion.  Yn 2017, cyflawnodd 96% o ddisgyblion Blwyddyn 6 lefel 4 o leiaf am lafaredd, a chyflawnodd 92% o ddisgyblion yr un fath ar gyfer ysgrifennu.  Mae wedi ennyn diddordeb bechgyn ac wedi arwain at 100% yn cyflawni’r lefel ddisgwyliedig mewn Saesneg, sy’n welliant sylweddol (28 pwynt canran) ar y flwyddyn flaenorol.  Yn ogystal â Blwyddyn 6:
 
Ym Mlwyddyn 3, cyflawnodd 89.7% o ddisgyblion y lefel ddisgwyliedig mewn ysgrifennu
Ym Mlwyddyn 4, cyflawnodd 89.6% o ddisgyblion y lefel ddisgwyliedig mewn ysgrifennu
Ym Mlwyddyn 5, cyflawnodd 91.2% o ddisgyblion y lefel ddisgwyliedig mewn ysgrifennu 
 
Mae ymagwedd yr ysgol at ddysgu digidol wedi datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh disgyblion yn sylweddol, ac mae wedi cynyddu eu dealltwriaeth o hanes a daearyddiaeth.  Yn 2017, derbyniodd yr ysgol wobr ddigidol fel rhan o fenter ysgolion treftadaeth Cymru am integreiddio hanes a dysgu digidol. 
 
O ganlyniad i ddatblygu arweinyddiaeth effeithiol disgyblion, mae disgyblion yn dangos medrau llafaredd, cydweithio ac arwain rhagorol, gan godi safonau yn eu hysgol eu hunain a thu hwnt.  Derbyniodd sioe ffordd arweinydd digidol y disgyblion y wobr i ddisgyblion yn y digwyddiad dysgu digidol cenedlaethol yn 2016.  Mae ymagwedd yr ysgol at ddysgu digidol wedi cael effaith fawr ar ddyheadau a lles disgyblion, ac ar eu dealltwriaeth o’r byd ehangach.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

 
Mae’r ysgol wedi datblygu diwylliant o rannu arfer dda yn yr ysgol a thu hwnt.  Datblygwyd cyngor digidol i arwain agenda ddigidol yr ysgol.  Mae hwn yn cynnwys arweinwyr digidol disgyblion, rhieni, staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu a’r llywodraethwr cyswllt ar gyfer dysgu digidol. 
 
Mae Ysgol Gynradd Darran Park yn hwb cwricwlwm Consortiwm Canolbarth y De ar gyfer dysgu digidol ar hyn o bryd, ac mae wedi datblygu rhaglenni datblygiad proffesiynol i gefnogi arweinyddiaeth y FfCD a dysgu digidol. 
 
Fel ‘Ysgol Arddangos’, mae Ysgol Gynradd Darran Park wedi rhannu ei hymagwedd at ddysgu digidol gydag ysgolion o bob cwr o Gymru.  Rhannodd yr ysgol y ffordd y mae’n defnyddio’i thechnoleg amrywiol, gan gynnwys gydag ysgolion o bob cwr o’r wlad, mewn digwyddiad ailddiffinio dysgu cyntaf o’i fath i’w gynnal yng Nghymru.  Yn ychwanegol, cyflwynodd arweinydd dysgu digidol y modd y mae’r ysgol wedi integreiddio meddalwedd fodelu ar draws y cwricwlwm mewn digwyddiadau rhyngwladol ym Mrwsel a Budapest, ac mewn arddangosfa technoleg addysgol flaenllaw.
 
Mae arweinwyr digidol disgyblion wedi rhannu eu harfer dda gydag ysgolion o dri chonsortiwm gwahanol ac wedi gweithio ar raglen arweinwyr digidol y maent wedi’i rhannu ag ysgolion ar draws Consortiwm Canolbarth y De. 
 
Rhannwyd ‘Wonderful World of Roald Dahl’ trwy rwydwaith ac adnodd digidol ar gyfer digwyddiad dysgu digidol cenedlaethol 2017.